1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2022.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i sicrhau cartref i bawb sydd angen un yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ58722
Llywydd, mae’r argyfwng costau byw, ac argyfyngau mewn rhannau eraill o'r byd, yn creu pwysau ar y system dai. Ar gyfartaledd, mae dros 1,400 o bobl yn cyflwyno eu hunain i wasanaethau digartrefedd bob mis sydd angen llety dros dro. Mae dros 6,000 o bobl sy'n ffoi rhag rhyfel yn Wcráin wedi cael noddfa yng Nghymru ers mis Mawrth.
Diolch, Prif Weinidog. Cysylltodd rhiant sengl â mi yr wythnos diwethaf, mae ganddi blant oed ysgol gynradd sydd â diabetes, awtistiaeth ac ADHD. Mae'r fam yn gweithio fel cynorthwyydd ysgol, ac mae hi wedi cael rhybudd troi allan, sydd wedi dod i ben, gan fod y landlord yn gwerthu'r tŷ. Dywedodd y cyngor lleol wrthi am chwilio am lety rhent preifat, ond y rhataf y gall ddod o hyd iddo yw £995 bob mis calendr. Dywedodd gwerthwyr tai fod angen iddi ddangos tystiolaeth o gyflog o £30,000, sy'n fwy nag y mae hi'n ei ennill. Ni fydd hi'n cael ei rhoi ar frig y rhestr dai ar gyfer tŷ nes iddi symud i lety dros dro yn gyntaf. Mae'r fam nawr ar restr aros am lety dros dro, a dywedodd gweithiwr tai mewn awdurdod lleol wrthyf i fod pobl yn aros mewn llety dros dro am fisoedd ar hyn o bryd, ac rydym yn gwybod y bydd y galw yn debygol o gynyddu gan fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar fwy a mwy o bobl. Nid yw llety dros dro yn llety addas nac yn iach i deulu â phlant. Pan na all plant gael eu hawliau dynol sylfaenol a chartref diogel, onid yw hi'n bryd cyflymu ac ehangu'r rhaglen Unnos y cytunwyd arni, i ymgymryd ag addasu tai ac adeiladu tai ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, er mwyn sicrhau bod gan blant ac oedolion gartrefi diogel ac addas?
Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno â Heledd Fychan bod gan brosiect Unnos ran i'w chwarae, rhan bwysig i'w chwarae, wrth ein galluogi ni i gyflymu'r gwaith o adeiladu cartrefi fforddiadwy hirdymor i bobl ym mhob rhan o Gymru. Ni fydd yr uchelgais honno'n helpu'r unigolyn a gysylltodd â'r Aelod gyda'i hanawsterau presennol, a dyna pam y mae'n iawn ein bod yn mynd ymlaen gyda'n gilydd i fuddsoddi yn y mesurau hynny sy'n rhoi rhywfaint o ryddhad ar unwaith i bobl sy'n cael eu hunain heb unman i fyw, ac mae hynny'n cynnwys y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Bydd hynny'n creu dros 1,000 o gartrefi newydd i bobl yma yng Nghymru. Byddan nhw'n lleoedd iddyn nhw eu hunain, fe fyddan nhw'n lleoedd lle bydd pobl yn gallu cynllunio dyfodol eu bywydau. Y tu hwnt i'r llety dros dro, bydd llety parhaol i'w gael hefyd. A dyna pam, Llywydd, yr ydym ni'n buddsoddi mewn gwneud tai gwag yn addas i'w defnyddio unwaith eto yma yng Nghymru—cronfa ailgylchu gwerth £43 miliwn sydd eisoes wedi creu 1,600 o gartrefi na fydden nhw fel arall ar gael i'w meddiannu, neu lle byddai'r amodau ffisegol mor anodd fel y gorfodir pobl i adael. Mae dros 1,600 o gartrefi wedi cael eu defnyddio unwaith eto yn y ffordd honno, a 1,300 o gartrefi eraill wedi eu gwneud yn ddiogel i bobl aros ynddyn nhw hefyd.
Mae anghydbwysedd rhwng y galw am dai yng Nghymru a'r cyflenwad. Mae hynny'n amlwg i unrhyw un sy'n cynrychioli pobl sy'n dod i gymorthfeydd ac yn dweud wrthym am yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu. Ond, drwy gynyddu'r cyflenwad a chefnogi pobl pan ddônt yn denantiaid, i'w cynnal nhw yn y ffordd orau bosibl, mae gennym ni'r cynllun ar waith yng Nghymru a fydd yn ein rhoi ni mewn gwell sefyllfa ar gyfer y bobl hynny sydd, mewn sawl rhan o Gymru, yn wynebu'r un anawsterau ag oedd yr unigolyn y soniodd Heledd Fychan amdani y prynhawn yma.
Prif Weinidog, yn ddiweddar, cwrddais â Trivallis, darparwr tai cymdeithasol mwyaf RhCT, ac roedd yn dda iawn cael diweddariad ganddyn nhw ynghylch sut maen nhw wedi gallu gwneud defnydd o raglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro Llywodraeth Cymru i wneud tai gwag yn addas i'w defnyddio unwaith eto gyda'r pwrpas penodol o symud pobl a theuluoedd allan o lety gwely a brecwast dros dro. Pa fath o fesurau fyddwch chi'n eu rhoi ar waith i fonitro'r cynllun hwn a gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni amcan Llywodraeth Cymru i bawb yng Nghymru gael cartref diogel, addas, parhaol?
Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am dynnu sylw yn enwedig at y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Mae'n arloesi yma yng Nghymru, mae £65 miliwn bellach wedi'i ddarparu iddi, ac rwyf wedi rhyfeddu at y ffordd y mae awdurdodau lleol blaengar a chymdeithasau tai blaengar wedi bachu ar y cyfle y mae'r rhaglen hon yn ei chynnig. Dyna pam, o fewn cyfnod o 18 mis, y byddwn yn gweld mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol yn cael eu defnyddio unwaith eto. Byddwn yn ei fonitro, Llywydd, drwy'r broses dyfarnu grantiau arferol, ond rwy'n credu, pan geir partneriaid sy'n dangos bod ganddyn nhw'r ymrwymiad a'r gallu i ddefnyddio'r cyllid yr ydym yn gallu ei ddarparu i ddefnyddio cartrefi unwaith eto, i gynnig rhywle i bobl fel y gallant symud ymlaen yn eu bywydau, fe ddylem ni ymddiried ynddyn nhw i wneud y gwaith. Ac er ei fod yn iawn, oherwydd ei fod yn arian cyhoeddus, ein bod yn ei fonitro a'u bod nhw'n rhoi cyfrif amdano, rwy'n credu y dylai fod yn berthynas y gellir ymddiried ynddi â sefydliadau fel y rhai a grybwyllwyd gan Vikki Howells a'r awdurdod lleol yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Lle mae gennym bobl ar lawr gwlad sy'n dangos eu gallu i gyflawni, dylem ni eu galluogi nhw i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.