1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2022.
5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r prif flaenoriaethau i Gymru yn y datganiad yr hydref ar y gyllideb? OQ58692
Llywydd, yr wythnos diwethaf cefais gyfarfod adeiladol gyda Phrif Weinidog y DU, pan gyflwynais gyfres o fesurau ymarferol y gellid eu cynnwys yn natganiad y Canghellor ar 17 Tachwedd. Byddai'r mesurau ymarferol hynny yn helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Rwy'n wirioneddol falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei blaenoriaethau cyn datganiad yr hydref. Gwyddom, fel mater o ffaith, oddi wrth ein hetholwyr, ein hawdurdodau lleol a'n trydydd sector bod cyni rhif 1 y Ceidwadwyr wedi rhwygo'r perfeddion allan o lywodraeth leol ac wedi peryglu parhad y trydydd sector, er gwaethaf ymdrechion gorau ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol ac er gwaethaf ymdrechion gorau gwirfoddolwyr a'r sector gwirfoddol allan yna. Pa reswm ar y ddaear fyddai gennym i gredu y byddai cyni rhif 2 y Ceidwadwyr yn cynnig unrhyw beth gwell i bobl Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw?
Llywydd, mae Huw Irranca-Davies yn gwneud pwynt pwysig iawn. Rydym eisoes wedi cael degawd o arbrawf diffygiol ac aflwyddiannus sef cyni yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi ein gadael ni i gyd yn waeth ein byd nag y byddem ni fel arall. Ac mae'r ffeithiau yn siarad drostyn nhw eu hunain, Llywydd. Rhwng 2010 a 2021, pob un o'r blynyddoedd hynny yn flwyddyn o Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, tyfodd cynnyrch domestig gros y pen yn y Deyrnas Unedig 6 y cant yn unig mewn termau real. Tyfodd 11 y cant yn yr Almaen, tyfodd 17 y cant yn Unol Daleithiau America. Yn 2010, roedd incwm gwario y pen aelwydydd yn y Deyrnas Unedig 90 y cant o ffigur yr Almaen. Erbyn 2021, roedd wedi gostwng i 81 y cant. Mae'r New Economics Foundation yn amcangyfrif mai effaith uniongyrchol cyni yw sicrhau bod economi'r DU £100 biliwn yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Pwy fyddai byth yn meddwl am ailadrodd yr un arbrawf? Ni cheisiwyd gwneud hyn mewn mannau eraill yn y byd. Roedd ganddyn nhw ddull gwahanol, roedd ganddyn nhw ddull buddsoddi, roedd ganddyn nhw ddull Keynesaidd, a daethant allan o gyfyng-gyngor 2008 mewn ffordd llawer cryfach.
Rydym ni'n gweld yr un patrwm eisoes yn ailadrodd ei hun. Yr wythnos diwethaf, gostyngodd chwyddiant yn yr Unol Daleithiau o dan 8 y cant. Cyhoeddodd Banc Ffrainc yr wythnos diwethaf y bydd economi Ffrainc yn dianc rhag dirwasgiad ym mhedwerydd chwarter eleni. Tyfodd economi'r Almaen 0.3 y cant yn nhrydydd chwarter eleni. Nid oes unrhyw un o'r pethau hynny'n wir am y Deyrnas Unedig o dan stiwardiaeth y blaid Geidwadol.
Nid wyf yn aml, Llywydd, yn dyfynnu The Daily Telegraph wrth ateb cwestiynau yma, ond, pe baech chi wedi edrych ar The Daily Telegraph ddoe, byddech wedi gweld erthygl ddifrifol iawn sy'n dadlau bod codiadau treth a thoriadau gwariant cyhoeddus ar yr adeg hon yn y cylch economaidd yr union bresgripsiwn anghywir ar gyfer economi'r DU. Dyma economi sydd eisoes mewn dirwasgiad, yn ôl Banc Lloegr, a nawr rydym yn colli pŵer prynu ar raddfa sy'n cyflymu'n barhaus, Banc Lloegr yn codi cyfraddau morgeisi, ac arian yn cael ei dynnu o bocedi pobl gan Lywodraeth y DU hefyd. Bydd hyn yn gwarantu, mae'n ymddangos i mi, y bydd y dirwasgiad yr ydym yn ei wynebu eisoes, yn hirach, bydd yn ddyfnach ac, unwaith eto, y cymunedau hynny a'r sefydliadau hynny a all fforddio hyn leiaf fydd ar reng flaen dos arall o gyni Torïaidd.
Rwyf innau hefyd yn eich croesawu chi, Prif Weinidog, yn ôl i'r Siambr yn dilyn eich salwch; mae'n dda eich gweld chi. Dydw i ddim yn amau bod gan y Canghellor rai dewisiadau anodd y bydd rhaid eu gwneud cyn datganiad yr hydref, felly rwy'n mynd i geisio bod yn adeiladol. Bydd hyn yn cael effaith ar Lywodraeth Cymru, ac rwy'n cydymdeimlo rywfaint â hi. Fel cyn-arweinydd cyngor ers 13 mlynedd, rwy'n deall yn rhy dda sut beth yw gosod cyllideb pan nad yw'r setliad ariannu yn hollol yr hyn yr hoffech chi iddo fod, a dywedaf dim mwy yn hynny o beth. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, yn hytrach nag yn erbyn ein gilydd, er mwyn ein cael ni yn ôl ar y trywydd iawn.
Roedd yn galonogol iawn gweld y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU yn ymuno ag eraill yng nghyfarfod diweddar Cyngor Prydain-Iwerddon. Llywydd, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog a wnaeth fanteisio ar y cyfle i drafod cynyddu pensiynau a budd-daliadau yn unol â phrisiau gyda'i gyd-Weinidogion yn y DU yn y cyfarfod diweddar, oherwydd, fel y gwyddom, mae hyn yn rhywbeth ar yr ochr hon i'r Siambr yr ydym yn cytuno ag ef. Ac wrth edrych yn nes at adref, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch gwerth y grantiau a'r lwfansau datganoledig y mae'n eu gweinyddu yng ngoleuni effaith chwyddiant, fel y gelwir amdanyn nhw gan Sefydliad Bevan?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, diolch i Peter Fox am ei sylwadau agoriadol caredig, ac rwy'n cydnabod, fel y ceisiaf wneud bob amser, y profiad sydd ganddo fel cyn arweinydd cyngor yn gorfod gwneud penderfyniadau gwirioneddol pan fo dewisiadau anodd iawn ganddo.
A gaf i ddweud, Llywydd, fy mod yn croesawu penderfyniad Prif Weinidog y DU i fod yn bresennol yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig? Ef yw'r Prif Weinidog cyntaf i wneud hynny ers cyfnod hir iawn. Rwy'n credu ei fod yn benderfyniad pwysig, symbolaidd, o ystyried y tensiynau parhaus mewn perthnasoedd mewn cysylltiad â phrotocol Gogledd Iwerddon, ac o ystyried y pwysau sydd ar ddyddiadur unrhyw Brif Weinidog, y bu iddo neilltuo amser i fod yno ac i gynnal cyfarfodydd ar wahân gydag ystod o unigolion gwahanol. Rwy'n credu bod hynny'n gymeradwy ac rwy'n gobeithio, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, bod y dechrau adeiladol hwnnw yn gosod naws wahanol i'r dyfodol o ran cysylltiadau rhyng-lywodraethol.
Yn ogystal â chyfarfodydd dwyochrog gyda Phrif Weinidog y DU, bu hefyd yn gadeirydd cyfarfod cyntaf cyngor y Prif Weinidog. Roedd hyn yn rhan o'r adolygiad cysylltiadau rhyng-lywodraethol a ddaeth i ben ym mis Mawrth eleni. Doedd dim cyfarfod blaenorol o'r cyngor wedi ei gynnal. Felly, eto, yn gynnar iawn yn ei gyfnod fel Prif Weinidog, fe wnaeth Mr Sunak hi'n flaenoriaeth i gadeirio cyfarfod o'r cyngor hwnnw, ac roeddwn i'n falch o weld hynny hefyd.
Fe wnes i, wrth gwrs, achub ar y cyfle, gydag eraill—roedd Canghellor y Trysorlys yn bresennol yn y cyngor, felly hefyd Michael Gove—i godi'r mater o gynyddu budd-daliadau, a'r clo triphlyg i bensiynwyr, ond roeddwn hefyd yn gallu cofnodi cyfres o gamau gweithredu, eithaf cymedrol ond yn bwysig iawn ym mywydau'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw, yr wyf yn credu y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd yn ei datganiad yr hydref.
Dadleuais yn gryf dros ddiddymu taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid mesuryddion rhagdalu. Beth all fod yn waeth na chanfod, pan fyddwch chi o'r diwedd wedi llwyddo i gasglu ychydig o arian i'w roi tuag at gyflenwad trydan, bod yr arian hwnnw eisoes wedi'i lyncu i dalu tâl sefydlog am yr holl ddyddiau hynny pan nad oeddech chi'n gallu defnyddio trydan o gwbl? Mae'n anghyfiawnder economaidd dwfn, a gallai'r Llywodraeth hon ddiddymu'r taliadau sefydlog hynny a gwneud i'r cwmnïau amsugno'r costau, fel y gwnaeth y Llywodraeth pan ddywedodd wrth y BBC bod yn rhaid i'r gorfforaeth dalu cost trwyddedau am ddim i bobl dros 75 oed. Gallent gymryd eu hesiampl eu hunain a'i gymhwyso i gwsmeriaid mesuryddion rhagdalu.
Dadleuais am gynnydd mewn taliadau disgresiwn at gostau tai a'r lwfans tai lleol. Dyma enghraifft hurt o Lywodraeth sy'n arbed rhywfaint o arian gydag un llaw—symiau bach o arian—drwy fethu ag uwchraddio'r lwfansau hynny yn unol â chwyddiant, a thalu llawer, llawer mwy gyda llaw arall pan fydd y bobl hynny'n cael eu hunain yn ddigartref oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r rhenti mwyach. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt pwrs economaidd, cyhoeddus i roi'r arian hwnnw mewn lle gwahanol lle gall wneud yn well.
Yna, cynigiais i aelodau'r cyngor rannu'r profiad a gawsom yma yng Nghymru, dan arweiniad fy nghydweithiwr Jane Hutt, i ddarparu gwarantau yn erbyn colled i undebau credyd, fel eu bod yn gallu cynnig benthyciadau i bobl a fyddai'n cael eu hystyried yn ormod o risg fel arall. Mewn asesiad arferol o risg, ni fyddech yn rhoi benthyg arian i'r unigolyn hwnnw. Mae undebau credyd yng Nghymru yn gallu gwneud hynny oherwydd rydym yn cynnig gwarant iddyn nhw yn erbyn colled. Y canlyniad bendigedig, Llywydd, yw hyn: wrth gwrs rydych chi'n colli arian pan fyddwch chi'n rhoi benthyg i bobl sydd mewn amgylchiadau anodd iawn, iawn, ond mae 80 y cant o'r arian y mae'r undebau credyd yn ei fenthyg i bobl a gwmpesir gan ein gwarant yn dod yn ôl o'r bobl eu hunain, oherwydd y ffordd y mae undebau credyd yn gweithredu. Mae hynny'n faes arall lle gallai Llywodraeth y DU, gyda buddsoddiadau cymedrol, helpu'r bobl hynny a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd i fenthyg arian o rannau drutaf a pheryglus y farchnad.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Hyfryd i'ch cael chi nôl. Croeso nôl.
Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ofal cymdeithasol. Fel yr ydym ni'n gwybod, mae ein hawdurdodau lleol ledled Cymru yn mynd i fod yn cael trafferthion gyda'u cyllidebau wrth symud ymlaen, o ran ariannu gofal cymdeithasol—ein pobl fwyaf agored i niwed. Byddai hynny'n helpu ein gwasanaethau iechyd ni hefyd. Mae'n hyfryd clywed gennych chi am y pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU, ond i fod yn onest, nid oes gennyf i unrhyw ffydd o gwbl y bydd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn diwallu anghenion pobl yng Nghymru, ac yn bendant ni fyddai'n diwallu anghenion pobl agored i niwed. Ond yma yng Nghymru, mae gennym ni ddewisiadau, a hoffwn i ofyn i chi: a fydd Llywodraeth Cymru'n codi trethi er mwyn ariannu gofal cymdeithasol yma yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.
Rwy'n credu bod yr wythnos hon yn mynd i fod yn wythnos wael iawn i wasanaethau gofal cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n aros i weld beth fydd yn digwydd ddydd Iau, ond mae unrhyw ddarn o wybodaeth sy'n gollwng o'r Drysorlys yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn mynd i roi'r gorau i'w hymrwymiad i gyflwyno eu fersiwn nhw o'r adolygiad Dilnot. Byddwch chi wedi gweld sylwadau cwbl ddeifiol Syr Andrew Dilnot ei hun ar y peth diweddaraf hwn—wel, rwy'n credu mai 'brad' yw'r gair y mae'n ei ddefnyddio—o'r gwaith y gwnaeth ef ar ran Llywodraeth Geidwadol. Ac os yw hynny'n wir, mae ganddo effeithiau uniongyrchol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, fel y gwyddom ni.
Mae hi bob tro wedi bod yn un o'r posau mawr o geisio symud ymlaen ar ofal cymdeithasol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y grŵp arbenigol a gafodd ei sefydlu yn sgil y cytundeb cydweithredu yn y maes hwn. Ond mae'r adroddiad yn dweud wrthych chi fod rhyng-gysylltiad yn y penderfyniadau gan Lywodraeth y DU a'r penderfyniadau y mae modd eu gwneud yma yng Nghymru yn wirioneddol iawn. Rwy'n ofni, os mai'r ateb sydd gan Lywodraeth y DU i'r anawsterau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol yw dweud y gellir cynyddu'r dreth gyngor yn Lloegr, ei fod wir yn ateb enbyd i'r hyn sydd yn broblem ddifrifol iawn.
Rwyf i wedi ateb y cwestiwn sawl gwaith, Llywydd, ynglŷn â'r pwerau sydd gennym ni fel Llywodraeth o ran cyfraddau Cymru o dreth incwm, a'r un ateb ydyw: byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau hynny pan fydd gennym ni'r ffeithiau llawn, ac mewn ffordd drefnus, fel rhan o'r broses o osod y gyllideb yr ydym ni wedi'i nodi ar gyfer cydweithwyr yma yn y Siambr. Ond gadewch i mi ddweud hyn, Llywydd: ni ddylai unrhyw un gredu bod codi'r gyfradd sylfaenol o dreth yn benderfyniad hawdd yma yng Nghymru. Rydym ni'n sôn am dynnu arian o bocedi pobl sy'n ennill £12,000 y flwyddyn. Rwyf i eisoes wedi dweud y prynhawn yma fy mod i'n credu mai un o'r camgymeriadau mawr sydd ar fin cael ei wneud yw bod y dirwasgiad yr ydym ni eisoes ynddo ar fin cael ei wneud yn waeth trwy gymryd pŵer prynu allan o bocedi pobl. Mae'r person hwnnw sy'n ennill £12,000 yma yng Nghymru yn wynebu'r holl filiau yr ydym ni wedi siarad amdanyn nhw yma yn y Siambr—y biliau ynni, y biliau bwyd, y biliau rhent, yr holl bethau hynny. Ni ddylai neb feddwl bod penderfyniad i gymryd mwy o arian allan o boced y person hwnnw yn un y byddem ni'n ei wneud yn ysgafn.