Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am sicrhau amser i drafod yr adroddiad pwysig hwn, a hoffwn ailadrodd geiriau'r Gweinidog a thalu teyrnged i Aled Roberts. Roedd Aled yn berson gwych, nid yn unig yn wleidydd medrus ond hefyd yn was cyhoeddus caredig a oedd yn barod i sefyll ar ei draed a churo'r drwm dros ein cymunedau Cymraeg. Roedd yn deall beth sydd gan ein hiaith i’w chynnig i’r Gymru fodern wrth edrych i'r dyfodol, iaith a oedd ar drai ers blynyddoedd, ac fel petai’n cael ei hanwybyddu a’i gwanhau. Ond oherwydd gwaith Aled ac eraill, dechreuodd yr agweddau hen ffasiwn hyn newid. Roedd Aled yn caru’r iaith ac yn deall pa mor bwysig ydoedd; roedd yn sicrhau ei bod yn cael sylw haeddiannol. Roedd hyn yn amlwg yn ei waith fel Aelod Cynulliad a thrwy gydol ei gyfnod fel Comisiynydd y Gymraeg hefyd. Yn wir, heb arweinyddiaeth Aled, rwy'n ofni na fyddem yn gallu dathlu llwyddiant yr iaith heddiw.
Yn ogystal â hyn, ni allaf lai na thalu teyrnged hefyd i waith Gwenith Price, dirprwy gomisiynydd y Gymraeg. Fel y noda'r adroddiad blynyddol hwn, roedd marwolaeth Aled wedi gadael bwlch yn swyddfa'r comisiynydd, a Gwenith gyda chymorth ei thîm ymroddgar fu’n sicrhau bod etifeddiaeth Aled yn parhau. Rwy'n credu fy mod i'n siarad ar ran y Siambr i gyd wrth fynegi ein diolch am yr arweinyddiaeth ymroddgar a roesoch chi, Gwenith, yn y rôl hon.
Wrth droi at gynnwys yr adroddiad hwn, mae'n amlwg i mi fod swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn weithgar yn ei rôl a'i chyfrifoldeb a hefyd wedi gweithredu mewn modd rhagweithiol i hyrwyddo a diogelu ein hiaith. Yn wir, rhoes gryn bleser i mi weld cyfraniad Comisiynydd y Gymraeg at Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith; mae'n bwysig i ni ddysgu gan ein partneriaid ieithyddol ond, trwy gydweithio, gallwn hefyd helpu i ddarparu llwyfan ar gyfer hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg. Gyda chyfleoedd fel presenoldeb tîm pêl-droed Cymru yng nghwpan y byd, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn manteisio ar y sylw mae Cymru'n ei chael, ac yn ei defnyddio fel cyfle i annog defnydd o'n hiaith.
Yn ogystal â hyn, roeddwn i'n falch o weld bod ymdrechion wedi'u gwneud i foderneiddio'r allbwn, gan wreiddio'r iaith yn y cyfleoedd technolegol sydd o'n blaenau. Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys lansio gwefan newydd Comisiynydd y Gymraeg a defnyddio podlediadau a darllediadau, a rhaid i'r pethau hyn barhau. Wrth wneud hyn, rydym yn allforio'r iaith y tu hwnt i'w chynulleidfa draddodiadol, ac yn datblygu marchnad newydd o siaradwyr Cymraeg y gallwn ni eu denu a'u swyno.
Yn wir, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, mae'n amlwg bod Aled, Gwenith a'u tîm wedi gwneud mwy na chyflawni eu gwaith a'u cyfrifoldebau. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi llwyddo i ennyn diddordeb a sicrhau ein bod yn bwrw ati i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Trwy ddal ati i wneud hyn, a pharhau i gydweithio a gwreiddio'r Gymraeg fel iaith sy'n perthyn i bawb, fel dywedodd y Gweinidog, rwy'n hyderus ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed. Hefyd, pob lwc i Efa Gruffudd Jones yn ei swydd newydd; mae ganddi ein cefnogaeth yn y rôl. Diolch.