1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn ystod cyfweliad diweddar ar Sharp End, fe wnaethoch wawdio Bws Caerdydd am godi pryderon ynglŷn â'ch cynlluniau dadleuol i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ledled Cymru. Roeddent yn ofni y byddai'r newid—a fydd, mae'n rhaid imi bwysleisio, yn costio mwy na £32 miliwn—yn arwain at deithiau bws arafach a mwy annibynadwy. Ddirprwy Weinidog, mewn ymateb i’r pryderon dilys a godwyd gan y cwmni, fe ddywedoch chi fod gan Bws Caerdydd, ac rwy'n dyfynnu,
'safbwynt hynod o gul'.
Fodd bynnag, onid y gwrthwyneb sy'n wir, Ddirprwy Weinidog? Chi sydd â'r safbwynt cul, wrth ichi fwrw ymlaen â'r cynllun 20 mya hwn gan anwybyddu pryderon dilys, yn enwedig yng ngoleuni adroddiad newydd sy'n dangos nad yw torri terfynau cyflymder i 20 mya yn gwella diogelwch ar y ffyrdd mewn gwirionedd.
Mae arnaf ofn fod gyrfa’r Aelod fel golygydd papur newydd tabloid wedi achub y blaen arni. Credaf fod y syniad fy mod wedi eu 'gwawdio' braidd yn gyffrogarol. Roeddwn yn mynegi fy rhwystredigaeth gyda rhai o’r sylwadau a wnaed, nad wyf yn derbyn eu cynsail. Rwy'n deall y pryderon, ac rydym yn gweithio gyda hwy arnynt, ac rydym yn gweithio i ddeall rhai o'r problemau sydd ganddynt yn well. Gwyddom mai un o’r problemau mawr sydd gan gwmnïau bysiau yw dibynadwyedd a thagfeydd. Y dystiolaeth sydd gennym hyd yn hyn yw y bydd terfyn cyflymder o 20 mya yn cynhyrchu llif traffig llyfnach. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion o oedi ar gyffyrdd, ac mae pobl yn cyflymu ac yn arafu i gyrraedd y set nesaf o oleuadau traffig cyn gynted ag y gallant yn un o brif achosion llygredd aer lleol, yn ogystal â defnyddio tanwydd, ac wrth gwrs, mae'n berygl ar y ffyrdd. Felly, os gallwn lyfnhau'r llif traffig, dylai hynny helpu cwmnïau bysiau.
Nid ydym yn deall yn iawn ychwaith pa mor gywir yw amserlenni'r rhan fwyaf o gwmnïau bysiau. Maent yn dweud ein bod yn achosi oedi i'w hamserlenni; wel, mewn llawer o achosion, nid ydynt yn cadw at eu hamserlenni eisoes, a hynny'n bennaf oherwydd tagfeydd. Felly, mae dadl gylchol yma.
Felly, rydym yn sicr yn awyddus i weithio gyda hwy i ddeall y sefyllfa'n well. Lle ceir problemau, rydym yn awyddus iawn i edrych ar ailddyrannu gofod ffordd. Mae creu lonydd bysiau a mesurau blaenoriaeth i fysiau yn ffordd wahanol o sicrhau arbedion effeithlonrwydd ar gyfer bysiau heb gael, fel y mae hi'n awgrymu, terfyn cyflymder y gwyddom ei fod yn cynyddu’r perygl o gael eich lladd os cewch eich taro gan gar—oddeutu pum gwaith yn fwy ar 30 nag ar 20. Nid yw'r astudiaeth y cyfeiriodd ati yn Belfast yn astudiaeth y gellir ei chymharu â'r hyn rydym yn ei gynnig yng Nghymru, ac roeddwn yn siomedig nad oedd y sylw a roddwyd i'r astudiaeth honno'n adlewyrchu ei realiti. Ond rwy'n siŵr, pe bai'n ei hastudio, ac yn astudio ein cynigion, y byddai'n sylwi ar wahaniaethau sylweddol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Credwch fi, astudiais eich cyfweliad, a chan gadw at thema Sharp End yma, Ddirprwy Weinidog, gofynnwyd i chi a all pobl Cymru ddisgwyl gweld mwy o barthau terfyn cyflymder 50 mya—yn union fel y rhai aneffeithiol sydd eisoes wedi’u gosod ar hyd yr M4 yng Nghasnewydd, lle rwy'n byw—yn codi ar draws y rhwydwaith ffyrdd. Fe ateboch chi, 'Gallant.' Yn syml iawn, nid yw’r camerâu 50 mya yng Nghasnewydd wedi gweithio, Ddirprwy Weinidog. Mae tagfeydd trwm yn dal i fod yn bla ar y darn hwnnw o'r ffordd bob dydd. Ni allaf weld pam ar y ddaear y byddech hyd yn oed yn ystyried gosod camerâu mewn mannau eraill ledled y wlad pan nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i leddfu tagfeydd, ac yn gwneud popeth i wneud bywydau modurwyr yn fwrn. Ddirprwy Weinidog, onid yw’n wir fod gosod terfynau cyflymder afrealistig yn ymwneud nid â thorri llygredd ond â gorfodi modurwyr oddi ar ein ffyrdd annigonol i guddio eich methiant i ddarparu rhwydwaith ffyrdd effeithiol ac effeithlon i Gymru?
Wel, rwy'n mwynhau'r dadansoddiad o fy nghyfweliadau; mae bob amser yn dda cael adborth, ac unwaith eto, gan olygyddion papurau newydd tabloid. Efallai y dylai fod yn gritig teledu tabloid hefyd; yn sicr, mae llwybrau eraill yn agored iddi pe bai'n penderfynu nad oes dyfodol iddi ym myd gwleidyddiaeth, a byddai hynny'n drueni mawr.
Fel y gŵyr yr Aelod, mewn llawer o achosion, gorchmynnwyd y ddarpariaeth o derfynau cyflymder 50 mya gan lys am eu bod yn torri targedau ansawdd aer, ac yn hytrach na'u bod wedi bod yn aneffeithiol, y gwrthwyneb sy'n wir, fel y gŵyr yn iawn. Maent wedi bod yn effeithiol wrth ostwng lefelau llygredd, yn ogystal â chyfrannu at lif traffig llyfnach. Felly, mae arnaf ofn fod ei ffeithiau'n anghywir, mae ei dadansoddiad yn anghywir ac mae ei diagnosis o'r cymhelliant sy'n sail iddynt yn anghywir.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch am eich galwad arnaf i newid gyrfa yn y dyfodol, ond rwy'n eithaf bodlon lle rwyf fi. Rwy'n bwriadu aros yma am amser hir iawn gan fod angen i rywun eich dwyn i gyfrif.
Yn yr un cyfweliad, gan ddychwelyd at Sharp End, Ddirprwy Weinidog, gofynnwyd i chi a all modurwyr ledled Cymru ddisgwyl gweld mesurau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn cael eu cyflwyno. Unwaith eto, eich ymateb oedd 'Gallant.' Nid ydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig erioed wedi bod ag unrhyw amheuaeth fod y Llywodraeth Lafur hon yn elyniaethus tuag at yrwyr, ond rydych wedi cadarnhau ein hamheuon gwaethaf gydag un gair syml, sef 'Gallant.' Mae pobl ledled y wlad yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd oherwydd y pwysau costau byw cynyddol, ac ar yr un pryd, rydych chi'n llunio cynlluniau i wasgu hyd yn oed mwy o arian allan ohonynt. Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi roi’r gorau unwaith ac am byth i gosbi gyrwyr ar bob cyfle ac ailfeddwl eich cynlluniau ar gyfer 50 mya ac ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd?
Wel, ni allaf ond tybio bod ymchwilwyr Natasha Asghar ar wythnos o wyliau, ond yn amlwg, cafodd lawer allan o Sharp End yr wythnos hon, ac rwy'n siŵr y byddant yn falch iawn ynglŷn â hynny.
Nawr, yn syml, mae mater codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn adlewyrchiad o’r ffaith y bydd treth ar betrol yn diflannu wrth i bobl roi’r gorau i yrru ceir petrol. Llywodraeth ei phlaid hi yn y DU sydd wedi pennu terfyn amser cyfreithiol ar gyfer gwahardd gwerthu ceir petrol, ac rwy'n ei lwyr gefnogi. Mae hynny’n golygu, drwy ddiffiniad, y bydd yn rhaid ailasesu dibyniaeth y Trysorlys ar dreth tanwydd i ariannu rhannau helaeth o wasanaethau cyhoeddus gan na fydd pobl yn prynu petrol. Felly, mae rhyw fath o dâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yn anochel, ac mewn gwirionedd, mae ei Llywodraeth yn Llundain yn mynd ati'n weithredol i weithio ar hynny. Felly, pryd bynnag y bydd yn llunio labeli hysterig i'w taflu ataf, mae gwir angen iddi feddwl y tu hwnt i'r sylw bachog y mae'n ei ddweud, gan fod hyn yn rhywbeth y mae pob Llywodraeth yn ei wneud, oherwydd yn syml iawn, mae'r rheolau'n newid. Rydym wedi dweud yn ein strategaeth drafnidiaeth ein bod yn ffafrio dull buddion a thaliadau, yn union fel sy’n cael ei ystyried yng Nghaerdydd, lle rydym yn edrych ar godi tâl mewn rhai amgylchiadau, ond defnyddir yr arian hwnnw i dalu am well trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau gwahanol i geir. Credaf y byddai pobl yn fodlon talu tâl, ac yn sicr, byddai’r arolygon barn yn cefnogi hynny, pe baent yn teimlo eu bod yn cael dewisiadau dilys eraill, o ansawdd da, yn lle gyrru. Dyna rydym yn gweithio arno, ac rydym yn gwneud hynny'n ofalus. Ond ni fydd y syniad o gadw at y system bresennol yn gweithio.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Weinidog, rwyf eisiau gofyn i chi am COP27. Roedd gwledydd sy'n datblygu yn dathlu fore Sul, oherwydd, am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, cytunodd y gwledydd datblygedig i ddarparu cyllid i'w helpu nhw i ymateb i drychinebau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, a elwir yn gronfa colled a difrod. Roedd y cytundeb yn COP27 ymhell o fod yn berffaith, gyda sawl elfen allweddol yn ddiffygiol. Dywedodd rhai gwledydd nad oedd yr ymrwymiadau i gyfyngu tymheredd i 1.5 gradd Celsius yn cynrychioli unrhyw gynnydd, ac roedd yr iaith ar danwyddau ffosil yn wan. Gwnaeth y cynnig colli a difrod ennyn clod, ond mae'n amlwg bod newid yn yr hinsawdd yn achosi dinistr nawr, tra rŷn ni yn siarad. A ydych chi'n cytuno mai'r hyn y dylem ni fod yn anelu ato, mewn gwirionedd, yw osgoi ac atal trychinebau, yn lle eu prisio nhw i mewn? Os felly, pa gyfraniad bydd Cymru yn ei wneud i'r ymdrechion yma?
Cytunaf yn llwyr â Delyth Jewell fod canlyniadau uwchgynhadledd COP yn siomedig ac yn rhwystredig. Y problemau gyda’r uwchgynadleddau rhyngwladol hyn yw eu bod yn anochel yn symud ar gyflymder yr arafaf, gan fod angen cytundeb unfrydol. Yn amlwg, mae gan nifer o wledydd eu rhesymau eu hunain dros arafu cynnydd, ac yn syml iawn, nid yw hynny'n mynd i fod yn ddigon i ymdrin â difrifoldeb y bygythiad y mae’r wyddoniaeth yn awgrymu sy’n ein hwynebu bellach yn sgil cynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl.
Credaf ei bod yn iawn mai’r mymryn bach o gysur oedd rhywfaint o gymorth i’r gwledydd datblygol—y rhai, wrth gwrs, sy’n cyfrannu leiaf at gynhesu byd-eang, ond y rhai sy'n dioddef fwyaf yn gyntaf. Felly, mae rhwymedigaeth foesol wirioneddol arnom, fel economi sydd wedi'i sefydlu ar danwydd ffosil, i wneud cyfraniad, ond hefyd, hunan-les cryf. Gwyddom y bydd lefelau ymfudo yn cynyddu wrth i newid hinsawdd daro, gyda phobl sydd wedi’u dadleoli o’u gwledydd yn methu cynnal bywoliaeth. Byddant yn symud i wledydd eraill, a bydd hynny'n anochel yn effeithio arnom ni. Dylai hyd yn oed y rheini nad ydynt wedi'u hargyhoeddi'n llwyr gan y wyddoniaeth newid hinsawdd ac sy'n llenwi ein papurau newydd â rhybuddion am ymfudo dalu sylw i'r angen i helpu'r gwledydd datblygol i liniaru'r effeithiau er mwyn osgoi effeithiau andwyol ar bethau y maent yn poeni amdanynt yn y dyfodol.
Ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio drwy ein prosiect Cymru ac Affrica i helpu gwledydd datblygol. Mae'n brosiect rhagorol. I roi un enghraifft i chi, yn rhanbarth Mbale yn Uganda, rydym yn gweithio gyda ffermwyr coffi i blannu coed. Rydym wedi plannu 20 miliwn o goed ers i'r prosiect ddechrau. Nid yn unig fod hynny'n helpu i roi bywoliaeth iddynt, ond mae hefyd yn sefydlogi eu tir rhag fflachlifoedd a gynhyrchir gan newid hinsawdd, drwy ddefnyddio’r coed i rwymo'r tir at ei gilydd. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o’r ffermwyr coffi, sy’n bobl ryfeddol. Mae angen inni ddeall effaith ein hymddygiad ni ar eu gallu hwy i fyw eu bywydau.
Diolch, Weinidog. Gan gadw at thema COP, ar ôl COP27, ymddengys bod Llywodraethau ledled y byd wedi cefnu ar y gobaith o 1.5—y cyfle i gadw'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i lefel sydd ond ychydig yn drychinebus, sef 1.5 gradd C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae'r cyfle hwnnw'n prysur ddiflannu. Cefnir arno mewn colofnau papurau newydd ac ym mholisïau llywodraethau. Mae'n llithro i'r gorffennol—dyfodol y gallem fod wedi'i achub i ni ein hunain, ond na lwyddasom i'w sicrhau. Ac er y gellir mesur y gwahaniaeth rhwng 1.5 gradd a 2, 2.5, neu 3 gradd drwy ffigurau difodiant, marwolaethau a sychderau, gellir ei gatalogio hefyd drwy drybestod ac anobaith pobl ifanc. Beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i gadw gobaith i bobl ifanc mewn byd sy’n cefnu ar eu dyfodol? A all eich Llywodraeth ddylanwadu ar gadw 1.5 yn fyw?
Mae'n llygad ei lle, wrth gwrs, i boeni ynglŷn â'r tebygolrwydd cynyddol nad ydym yn mynd i allu cyflawni'r targed a osodwyd yng nghytundeb Paris, a chredaf fod angen i bobl ganolbwyntio ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu. Pan fo gwyddonwyr y byd yn dweud wrthym ein bod yn wynebu newid hinsawdd trychinebus na ellir ei wrthdroi, mae gwir angen inni wrando a chymryd sylw. Rydym yn mynd i orfod rhoi cyfrif am ein methiant i weithredu yn wyneb tystiolaeth glir iawn i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol. Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn brwydro'n galed i sicrhau ein bod yn cymryd camau ystyrlon ar unwaith, nid aros tan 2030 neu 2040, oherwydd erbyn hynny, mae'n debyg y bydd yn rhy hwyr gan y bydd gennym allyriadau corfforedig parhaol.
I ateb ei chwestiwn, 'Beth y gallwn ei wneud?’, credaf y gallwn ddangos arweiniad, gallwn ddangos i Lywodraethau eraill ein bod yn barod i gymryd camau sy'n cyd-fynd â'n rhethreg. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi comisiynu'r adolygiad ffyrdd. Ceir cyfaddawdau tymor byr anodd i’w hwynebu bob amser, ac amhoblogrwydd weithiau, gan fod newid yn anodd ac yn boenus, ond mae’r dewis arall yn llawer iawn gwaeth.