– Senedd Cymru am 3:14 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf yw'r cwestynau amserol. Dim ond un sydd wedi ei gytuno y prynhawn yma. Mae e i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol, ac mae e i'w ofyn gan Adam Price.
1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut bydd dyfarniad y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn effeithio ar allu Cymru i benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol ei hun? TQ687
Cafodd y dyfarniad ei gyhoeddi y bore yma. Byddaf yn rhoi amser i astudio'r dyfarniad yn ofalus.
Wel, fel y gwyddom, Gwnsler Cyffredinol, cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad nad oes gan Lywodraeth yr Alban, er gwaethaf cryfder y mandad democrataidd a sicrhawyd yn etholiad Holyrood y llynedd, lwybr cyfreithiol o dan drefniadau cyfansoddiadol presennol y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm annibyniaeth os yw Llywodraeth San Steffan yn parhau i wrthod rhoi ei chaniatâd. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig eisoes wedi datgan yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd yn parhau i ddiystyru'r mandad diamwys hwnnw, er y gallech ddweud bod ei fandad personol yn anuniongyrchol ar y gorau ac ychydig yn ddisylwedd. Ac mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym yma, wrth gwrs, yw feto San Steffan, i bob pwrpas, sy'n crisialu athrawiaeth goruchafiaeth San Steffan yn glir nad ydym ni, fel cenedl, na'r Alban, fel cenedl, yn undeb cydradd. Nid ydym yn Senedd gydradd ychwaith, ac yn anffodus, wrth gwrs, ni fydd y sefyllfa hon yn newid, hyd yn oed gyda newid Llywodraeth yn San Steffan, oherwydd mae arweinydd Llafur y DU ei hun wedi dweud na fydd yn cytuno i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, o dan adran 30 yn achos yr Alban, i gynnal refferendwm ar annibyniaeth ychwaith. Felly, mae feto San Steffan yn cael ei ddefnyddio gan bleidiau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan yn yr achos hwn.
Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r farn a fynegwyd heddiw gan Brif Weinidog yr Alban fod y dyfarniad hwn yn bendant ac yn ddigamsyniol yn dangos mai ffug yw'r syniad fod y Deyrnas Unedig yn bartneriaeth gydradd a gwirfoddol, yn gymdeithas wirfoddol? Nawr, mae Prif Weinidog yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cynhadledd arbennig i archwilio'r modd y gellid fframio etholiad cyffredinol nesaf y DU yn yr Alban fel refferendwm de facto. Nawr, mae hyn yn amlwg ymhell o fod yn ddelfrydol, ond dyma'r unig lwybr sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, o ystyried y rhwystr ar lwybrau eraill tuag at hunanbenderfyniaeth. Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, ceir cynsail hanesyddol yn hyn o beth, etholiad cyffredinol 1918, pan oedd Sinn Fein yn Iwerddon yn ceisio mandad ac yn sefyll dros sefydlu gweriniaeth Wyddelig, ac ar sail eu buddugoliaeth ysgubol yn y refferendwm hwnnw sefydlwyd Dáil Éireann a chyhoeddwyd gweriniaeth Iwerddon, er, yn anffodus, ni chafodd y mandad hwnnw ei barchu ar unwaith gan arwain at ganlyniadau trasig iawn y byddai pawb ohonom, rwy'n siŵr, yn dymuno pe baent wedi cael eu hosgoi.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â sylwadau'r Athro Ciaran Martin yn narlith y Senedd ar y cyd â Llywodraeth Cymru neithiwr y dylai holl genhedloedd yr ynysoedd hyn fod â llwybr clir a dilys i fynegi eu dymuniadau mewn perthynas â'u dyfodol cyfansoddiadol, gan gynnwys yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth? A beth bynnag yw dyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch ei ddehongliad o gyfraith ryngwladol, a yw'n cytuno, yn wleidyddol, yn ddemocrataidd, yn athronyddol, fod gan bob cenedl hawl i hunanbenderfyniaeth, ac fel y dywed y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol,
'Mae gan yr holl bobloedd hawl i hunanbenderfyniaeth'?
Fe fyddwch chi a minnau'n cytuno bod brys penodol ynghlwm wrth hynny yn achosion gwledydd sydd wedi cael eu gwladychu neu sy'n ddarostyngedig i feddiannaeth filwrol, yn sicr, ond mae'r egwyddor yn un gyffredinol y mae'n rhaid i bawb ohonom, fel democratiaid, ei harddel. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno y dylai'r hawl i hunanbenderfyniaeth i Gymru, i'r Alban, i bobl gogledd Iwerddon, gael ei hymgorffori a'i gwarchod yng nghyfraith y DU er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd sydd wedi'i ddatgelu'n amlwg yn y dyfarniad y bore yma? Mae'n effeithio'n arbennig ar bobl yr Alban, o ystyried y mandad clir iawn sydd yno, ond mae o bwys i ni hefyd wrth i ni ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol. Er eich bod chi a minnau'n anghytuno mewn perthynas ag annibyniaeth, a fyddech chi, fel democrat, yn mynegi eich undod â phobl yr Alban ac yn mynegi barn glir Llywodraeth Cymru fod gan bob cenedl, gan gynnwys y genedl Albanaidd, a phobl yr Alban, hawl i hunanbenderfyniaeth ac y dylid parchu hynny?
Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, roeddwn yn credu bod cyflwyniad yr Athro Ciaran Martin yn drawiadol iawn neithiwr, yn dilyn y cyflwyniad blaenorol gan Syr David Lidington. Rwy'n credu bod y rhain yn gyfraniadau pwysig iawn i'n dealltwriaeth o'r materion cyfansoddiadol sy'n amlwg yn ein hwynebu.
I ddechrau, rwy'n credu ei bod yn werth inni fod yn glir ynghylch y dyfarniad y bore yma. Roedd y dyfarniad yn ddyfarniad unfrydol gan bob un o'r pum barnwr yn y Goruchaf Lys. Mae'n ddyfarniad 34 tudalen, a byddaf yn ystyried manylion y dyfarniad yn ofalus iawn. Y prif gwestiwn yn y dyfarniad oedd a oedd gan Senedd yr Alban rym i ddeddfu ar gyfer cynnal refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Roedd ein rôl fel Llywodraeth Cymru yn yr achos hwnnw yn gyfyngedig. Nid oedd yn briodol ymyrryd, felly fe wnaethom gynnal briff gwylio. Credaf y bydd angen ystyried holl ganfyddiadau'r Goruchaf Lys ac ystyried yr holl gyflwyniadau a wnaed yn ofalus, yn ogystal ag ymateb y Goruchaf Lys iddynt. Yn sicr gallaf sicrhau'r Senedd y byddaf yn ymgymryd â'r dasg honno.
Mae hefyd yn bwysig inni fod yn glir ynghylch casgliad y Goruchaf Lys. Roedd y Goruchaf Lys yn glir iawn, mewn perthynas â darpariaeth Bil Refferendwm Annibyniaeth yr Alban, sy'n dweud mai'r cwestiwn y dylid ei ofyn mewn refferendwm yw, 'A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?', a phenderfyniad y Goruchaf Lys oedd bod hwnnw'n fater a gedwir yn ôl. Nawr, o ran Cymru, mae'r safbwynt rydym wedi'i fabwysiadu wedi'i nodi yn ein papur diwygio cyfiawnder, a gyhoeddwyd, rwy'n credu, ym mis Mehefin 2021, lle roedd yn dweud
'Dylid ystyried datblygiadau cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol ar sail holistaidd ac ar sail egwyddor gyfansoddiadol, yn hytrach na thrwy ddiwygio setliadau cyfansoddiadol penodol mewn modd ad hoc. Dylid gwneud hyn drwy gonfensiwn cyfansoddiadol.'
Nawr, wrth gwrs, mae gennym ein comisiwn annibynnol ein hunain; rydym wedi ei sefydlu er mwyn ystyried ac archwilio rhai o'r materion y mae'r Aelod wedi'u codi'n benodol, ac efallai y dylwn atgoffa'r Senedd eto o dermau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Ceir dau amcan eang: y cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol, lle mae Cymru'n parhau i fod yn rhan annatod ohoni, a'r ail yw ystyried a datblygu pob opsiwn egwyddor flaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Yn sicr, nododd yr Athro Ciaran Martin y pwynt, yn gyfansoddiadol, fod angen llwybr lle gellir gwneud penderfyniadau mewn gwirionedd, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd ein comisiwn ein hunain yn archwilio'r rheini.
Nawr, fe wyddoch mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw mai'r ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru yw drwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, ond Teyrnas Unedig sydd angen ei diwygio'n sylweddol ac yn radical, a nodir y diwygiadau hynny ym mhapur 'Diwygio ein hundeb: cydlywodraethu yn y DU'. Yn sicr, rwy'n credu mai'r ffordd orau o gyflawni newid a diwygio cyfansoddiadol yw drwy ethol Llywodraeth Lafur ar draws y DU yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Gwnsler Cyffredinol, rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am eich barn ystyrlon. Yn amlwg, fe fyddwch yn darllen y dyfarniad yn ei gyfanrwydd. Ond o'ch ystyriaeth gychwynnol o'r dyfarniad, a ydych chi'n gallu cadarnhau nad yw ewyllys ddemocrataidd Cymru yn cael ei heffeithio, ac na fydd unrhyw etholiadau'n cael eu pennu gan y penderfyniad hwn yn y Goruchaf Lys, a bob tro y mae cwestiwn annibyniaeth wedi cael ei roi i bobl Cymru—yn fwyaf diweddar yn etholiad 2021—daeth y blaid a wnaeth y cynnig hwnnw'n drydydd pell, a siaradodd pobl Cymru ag un llais i ddweud eu bod eisiau aros mewn Teyrnas Unedig gref?
Diolch am y cwestiwn. Mae'r dyfarniad yn glir iawn ynglŷn â mater cymhwysedd, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r unig fater y mae'r Goruchaf Lys wedi ymdrin ag ef. Mae'n glir ac yn derfynol yn hynny o beth.
O ran sefyllfa Cymru, wel, yr hyn sydd gennym yw cydnabyddiaeth yng Nghymru, o'r maniffestos amrywiol, fod angen diwygio cyfansoddiadol. Mae angen ymgysylltiad o fewn hynny, ac mae'r Llywodraeth wedi gwneud achos cryf iawn dros yr angen am gonfensiwn cyfansoddiadol. Rwyf wedi nodi'r safbwynt sydd gennym o'r penderfyniad ar ddiwygio'r DU, ond wrth gwrs, yr un peth rydym yn edrych ymlaen ato—ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni beidio â rhagdybio beth fydd y casgliadau, na'r cyfeiriad a fydd yn cael ei bennu gan y comisiwn annibynnol a sefydlwyd gennym, a fydd yn rhoi arweiniad a gwybodaeth i ni wrth i ni fwrw ymlaen ymhellach â mater diwygio cyfansoddiadol.
Nawr, rydym yn disgwyl adroddiad interim maes o law gan y confensiwn cyfansoddiadol annibynnol. Ac rwy'n credu, pan fydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi, mai dyna fydd yr amser priodol i ni gael trafodaeth fanylach, fwy trylwyr ac yn fy marn i dadl fwy gwybodus ar rai o'r opsiynau cyfansoddiadol. Wrth gwrs, bydd adroddiad y comisiwn annibynnol yn un interim; bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan Gordon Brown hefyd maes o law ar safbwynt y Blaid Lafur—neu'n sicr, yr adroddiad y cafodd gyfarwyddyd i'w baratoi ar ddiwygio cyfansoddiadol. Felly, yr un peth y gallwn ei ddweud yw bod cydnabyddiaeth ddofn o'r angen am ddiwygio cyfansoddiadol—fod yna gamweithredu o fewn ein cyfansoddiad, a bod angen i'r newid hwnnw ddigwydd. Y cwestiwn yw beth yw'r newid hwnnw a sut y dylid ei gyflawni mewn gwirionedd. Nid yw hon yn ddadl sy'n mynd i ddiflannu, ac rwy'n edrych ymlaen at gael yr adroddiad interim ac unrhyw adroddiadau pellach, ac at drafodaethau pellach ynglŷn â hyn.
Mae'r materion cyfansoddiadol hyn yn bwysig, nid oherwydd ei bod yn rhyw fath o ddadl dechnegol; mae'r cyfansoddiad yn ymwneud â sut mae pŵer yn gweithredu, sut y caiff ei rannu, sut y caiff ei ddosbarthu, sut y caiff ei ddefnyddio. Felly, mae'r rhain yn faterion sy'n sylfaenol bwysig i bobl Cymru, ac i bobl y DU yn wir. Ond ar benderfyniad y Goruchaf Lys, rwy'n credu bod hwnnw'n arbennig o glir.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.