Mynediad at Feddygon Teulu

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 29 Tachwedd 2022

Dwi wedi gweld tystiolaeth dros y misoedd, Llywydd, am y sefyllfa yng Nghaergybi, a dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda phobl leol ar yr ynys i drial cyflymu'r broses o recriwtio pobl newydd ac i gael beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd ar gael yng Nghaergybi i fod yn rhan o'r gwasanaeth sydd ar gael yna dros yr ynys i gyd. Mae rhai problemau, rŷn ni'n gwybod, wrth recriwtio'r staff, ond mae pobl leol yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i drial gwella'r sefyllfa bresennol.