Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Mae unedau gofal sylfaenol brys yn un o'r atebion sydd wedi cael eu cyflwyno er mwyn trio lleihau y pwysau ar feddygfeydd. Ond, yn Ynys Môn, dŷn ni'n gweld bod naw o'r 10 syrjeri sydd gennym ni ar yr ynys wedi gwneud 278 referral i'r uned newydd yn Ysbyty Penrhos Stanley, tra bod yr un feddygfa sy'n cael ei rheoli yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, Hwb Iechyd Cybi, ei hun wedi gwneud dros ddwywaith y nifer yna o referrals—562. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno â fi fod hynny'n brawf bod angen cyflymu'r broses o ddatblygu canolfan iechyd amlddisgyblaethol newydd ar gyfer cymuned Caergybi a'r ardal?