– Senedd Cymru am 2:35 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad llafar ar gyhoeddi'r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Logan Mwangi fel yr eitem gyntaf yn syth ar ôl y datganiad busnes. Yn ogystal â hyn, mae'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl wedi cael ei symud ymhellach i lawr yr agenda. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dirweddau dynodedig ynglŷn â pha gamau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r tirweddau hynny rhag erydiad o ganlyniad i gerbydau oddi ar y ffordd yn mynd iddynt? Mae gennym ni broblemau arbennig ar Moel Famau, yn fy etholaeth fy hun, ar hyn o bryd, lle mae'n ymddangos bod beicwyr modur ac eraill yn mynd ar y llwybrau troed, gan achosi llawer o erydiad, difrod i lystyfiant ac isbridd. Ac wrth gwrs, nid dim ond mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol y mae hyn, y gobeithiwn ni y bydd yn cael ei dynodi'n barc cenedlaethol yn y dyfodol agos, ond mae ar lwybr troed Clawdd Offa hollbwysig hefyd, sydd, wrth gwrs, yn heneb gofrestredig. Mae'n annerbyniol, mae angen i ni wneud mwy o waith i ymdrin â'r broblem hon ar sail gyd-gysylltiedig, a tybed pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd. Os gallech chi gyflwyno datganiad, byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Diolch. Rwy'n credu bod hynny, mae'n debyg, yn berthnasol i fy mhortffolio fy hun ac un y Gweinidog Newid Hinsawdd, felly fe wnaf i gael trafodaeth â hi. Yn sicr, yn fy mhortffolio i, rwy’n ystyried y parc cenedlaethol newydd, ond nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau am hynny, neu nid oeddwn i'n ymwybodol o unrhyw faterion yn ei gylch. Ond yn sicr, byddaf i'n cael trafodaeth â hi ac yn gweld os oes unrhyw wybodaeth arall.
Oes modd i ni gael datganiad llafar neu ysgrifenedig ar drafnidiaeth ysgol, os gwelwch yn dda?
Am 07:30 fore Iau, cerddodd rhieni a chynrychiolwyr lleol o Barc Maesteg i lawr i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd er mwyn tynnu sylw at ba mor hir ac anniogel y mae'r llwybr i'r ysgol i'w gerdded. Fe gymerodd hi tua 45 munud i awr iddyn nhw wneud y daith, ac roedd hynny'n digwydd bod yn ddiwrnod eithaf da o ran tywydd, ond y gwir amdani yw bod plant yn cerdded ym mhob tywydd. Rwy'n deall bod cyllidebau'n dynn, ond mae rhieni'n dweud wrthyf i fod llawer o'r bysiau sy'n mynd â'r rhai hynny o'r tu allan i'r trothwyon milltiroedd i'r ysgol yn hanner gwag wrth iddyn nhw basio plant sy'n byw o fewn y trothwyon. Byddwn i'n gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn edrych i gamu i'r adwy.
Mae hyn mewn gwirionedd yn fater i'r awdurdod lleol perthnasol. Byddwn i wir yn eich cynghori chi i gysylltu â'r awdurdod lleol, i weld a oes unrhyw beth mwy—. Yn amlwg, nid ydych chi eisiau gweld plant yn cerdded i'r ysgol pan fo bysiau'n pasio heb fod yn llawn.
Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynigion trafnidiaeth ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe yw'r cyntaf. Rydw i wedi cael gwybod bod newidiadau yn yr amserlen, o fis Rhagfyr 2022, yn golygu nad oes trenau'n galw yng ngorsaf Llansamlet o 2.06 p.m. tan 4.58 p.m. ddydd Llun i ddydd Gwener. Sut ydyn ni i fod i ddenu teithwyr i'r gwasanaeth? Hefyd, all y datganiad gynnwys pryd fydd gwasanaeth bob awr Swanline yn dechrau?
Yr ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano yw'r wybodaeth ddiweddaraf ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru—datganiad i gynnwys llanw, gwynt ar y tir ac ar y môr, a solar. Rwy'n croesawu'n fawr defnyddio'r fferm solar y drws nesaf i Ysbyty Treforys i ddarparu ynni i'r ysbyty, a hoffwn i weld cynllun ar gyfer mwy o'r rheiny ledled Cymru. Cafodd y morlyn llanw yn Abertawe ei wrthod ar sail bod nwy rhad ar gael—ydych chi'n cofio hynny? Gan nad yw hynny'n wir nawr, all y datganiad hefyd gynnwys cynigion am forlyn llanw?
Diolch. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd denu mwy o deithwyr i wasanaethau rheilffordd. Fel y gwyddoch chi, maen nhw'n cyflwyno trenau newydd sbon ar draws Cymru yn 2023, ac rwy'n credu bod rhai trenau newydd eisoes wedi'u cyflwyno. Nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw ostyngiad yng ngwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn galw yng ngorsaf Llansamlet. Yn sicr, fe wna i gadarnhau bod hynny'n wir, ond nid ydw i'n ymwybodol o hynny. O ran gwasanaeth Swanline, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar yr achos busnes i gyflwyno gwasanaeth Swanline bob awr. Fel rwy'n dweud, mae'r achos busnes yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
O ran ynni adnewyddadwy, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn sicr weledigaeth i Gymru gynnal cynhyrchu adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ni yn llawn o leiaf gan hefyd gadw cyfoeth a gwerth yma yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithredu argymhellion yr archwiliad manwl y cyflawnodd yn gynharach eleni. Mae'n dda iawn eich bod chi wedi sôn am Ysbyty Treforys. Yn sicr, rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o brosiectau ynni ar yr ystad gyhoeddus yma yng Nghymru.
Gweinidog, os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant am ddarpariaeth iechyd meddwl? Yn ddiweddar fe es i ar daith gyda Heddlu Gwent i gael deall sut fywyd sydd gan swyddogion heddlu ar draws y de-ddwyrain. Roedd yn agoriadol llygaid llwyr, ac roedd yn gyfle gwych i gael trafodaethau agored ac onest gyda swyddogion a staff o bob rhan o'r llu. Yn amlwg, rwy'n deall, yn derbyn ac yn parchu bod plismona yn fater datganoledig, ac rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref am rai o'r pethau sydd wedi'u codi gyda mi, ond mae'n amlwg y gallai Llywodraeth Cymru gymryd rhai camau i helpu ein heddluoedd.
Y prif fater a gododd dro ar ôl tro yn ystod fy nghyfnod ar y bît oedd diffyg cyfleusterau iechyd meddwl ledled y de-ddwyrain. Mae gan swyddogion heddlu ddyletswydd gofal i rywun yng nghanol argyfwng iechyd meddwl—ac mae'n rhaid i mi bwysleisio nad oes gan bawb y siaradais i â nhw unrhyw broblem yn gwneud hyn, yn eu helpu a'u cefnogi waeth beth yw eu hamgylchiadau. Fodd bynnag, mae achosion o swyddogion yn treulio oriau maith gyda chleifion oherwydd yn syml, does dim digon o allu o fewn ein cyfleusterau iechyd meddwl iddyn nhw gael eu gweld. Oherwydd yr oedi hir o ran yr heddlu yn trosglwyddo'r claf i weithwyr iechyd proffesiynol, mae swyddogion yn anweithredol am lawer rhy hir. Cefais wybod sawl tro bod yr oedi yma oherwydd bod gan Gymru yr amseroedd aros damweiniau ac achosion brys hiraf a'r amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf ym Mhrydain. Gyda'r rhan fwyaf o gyfleusterau iechyd meddwl yn y de-ddwyrain yn gweithredu o Ysbyty Sant Cadog ac Ysbyty'r Faenor, mae'n amlwg, Gweinidog, bod angen ehangu darpariaethau, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol neu'n bwriadu ei wneud i wella cyfleusterau iechyd meddwl yn y de-ddwyrain a gweddill y wlad? Diolch.
Diolch. Rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, bod yr heddlu weithiau'n treulio'n rhy hir gyda rhywun a ddylai fod yn cael defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl mewn gwirionedd, er enghraifft yn y ffordd yr ydych chi'n nodi. Rwy'n gwybod bod tipyn o waith yn cael ei wneud rhwng y byrddau iechyd a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl i sicrhau nad yw hynny'n wir. Rydych chi'n sôn am yr aros hiraf yn y DU—byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ymdrin â hynny mewn ateb i Laura Anne Jones. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn; mae'n gwbl gywir bod person gyda'r gwasanaeth brys cywir, ac nad yw felly'n rhwystro'r heddlu rhag bwrw ymlaen â'r hyn y maen nhw'n ei wneud, a'i fod yn cael mynd at y gwasanaethau cywir.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi. Droeon, rydyn ni wedi codi faint o gyfle ydy o bod Cymru yn cystadlu yng nghwpan y byd yn Qatar o ran proffil Cymru yn rhyngwladol, a'r ffaith ein bod ni rŵan yn gweld pobl yn Gwglo yn ystod y gêm yn erbyn Unol Daleithiau America am Gymru, eisiau gwybod mwy am ein gwlad, a gobeithio felly yn gwybod am ein daliadau ni a'r hyn sy'n bwysig i ni a'n bod ni ddim yn cytuno efo'r safbwynt, er enghraifft, o ran sut mae pobl LGBTQ+ yn cael eu trin yn Qatar, ac ati.
Ond, yr hyn rydyn ni wedi bod yn holi nifer o weithiau i Weinidog yr Economi ydy beth ydy'r mesurau bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arnynt i fesur gwerth y buddsoddiad sy'n gysylltiedig gydag ymgyrch tîm dynion Cymru yn cystadlu yn nhwrnamaint cwpan y byd. Gwn i Tom Giffard godi hyn ar 27 Medi efo'r Gweinidog, a bod y Gweinidog wedi dweud y byddai yn rhannu'r data yna efo ni cyn i'r gystadleuaeth ddechrau. Mi wnes i ysgrifennu ato fo hefyd, ac mi ges i lythyr nôl yr wythnos diwethaf yn dweud, 'Rydym yn cynnal gwerthusiad llawn o'n gweithgareddau sydd ynghlwm wrth gwpan y byd. Bydd y mesurau yn cynnwys metrics marchnata penodol' ac yn y blaen, ond dim byd pendant. Plis gawn ni ddatganiad efo'r mesurau hyn? Mi ddylem ni fod wedi eu derbyn nhw'n barod, ond, a gawn ni nhw rŵan, cyn i Gymru gyrraedd y ffeinal? Diolch.
Rwy'n siŵr y gallem ni wneud hynny. Fel y gwyddoch chi, mae Gweinidog yr Economi yn Qatar ar hyn o bryd ac yn amlwg bydd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ôl dychwelyd yn nodi pa gyfarfodydd ac ati y bydd wedi'u cael tra yr oedd yn Qatar. Rwy'n gobeithio i Aelodau weld datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog yn dilyn ei ymweliad ef—rwy'n credu mai ddoe y cafodd hwnnw ei gyhoeddi. Rydych chi'n sôn am bwynt penodol am y data a'ch bod chi wedi cael ymateb gan Weinidog yr Economi yn nodi ein bod ni'n cael gwerthusiad llawn. Byddaf i'n sicrhau bod data gwerthuso llawn hefyd naill ai'n cael ei roi mewn gohebiaeth i chi a bod llythyr yn cael ei roi yn y llyfrgell, neu drwy ddatganiad ysgrifenedig.
Gan ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Heledd Fychan, darllenais gyda diddordeb y datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ddoe am gyflawniadau ei ymweliad o ran hyrwyddo buddiannau Cymru a gwerthoedd Cymru. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y camau y gwnaeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon eu cymryd drwy beidio â mynd i'r gêm yr wythnos ddiwethaf rhwng Cymru ac Iran o ystyried bod pobl sy'n protestio yn Iran dros farwolaeth Mahsa Amini dros ddeufis yn ôl yn cael eu hatal yn greulon, a'r angen i hawliau dynol gael eu parchu, yn enwedig hawliau menywod, yno. Yn dilyn yr union safiad hwnnw a oedd i'w groesawi i gefnogi hawliau dynol, pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am gymryd camau cadarn yn erbyn y Llywodraeth misogynistaidd hon yn Tehran, ac a allai hynny gynnwys rhewi asedau yn y wlad hon neu ddiarddel diplomyddion Iran i wneud i'r drefn hon ddeall na allwn ni, yn syml, oddef hawliau menywod yn benodol yn cael eu sathru? Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny maes o law.
Diolch. Yn bersonol, nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw sgyrsiau sydd wedi digwydd rhwng unrhyw un o fy nghydweithwyr gweinidogol a Llywodraeth y DU, ond yn sicr fe wnaf i ymholiadau ac fe wnaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod os oes sgyrsiau o'r fath wedi bod.
Trefnydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad ar effaith cynllun masnachu allyriadau'r DU, ETS, ar sector ynni Cymru? Yr wythnos diwethaf, cwrddais â fforwm ynni Haven, casgliad o gynrychiolwyr o'r diwydiant sydd wedi mynegi eu pryder ar y cyd am weithredu a rhoi'r ETS ar waith yn y dyfodol. Mae'r busnesau'n cynnwys purfa olew Valero a gorsaf bŵer RWE yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae pryderon o'r fath yn canolbwyntio ar y diffyg cyfochri â chyflwyno technoleg datgarboneiddio, ansicrwydd ynghylch dyfodol lwfansau am ddim, newidiadau i'r rhestr sector gollwng carbon ac anghysondebau o fewn dehongli deddfwriaeth. O ystyried y pryderon hyn, byddai'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cael ei werthfawrogi i roi sicrwydd i fusnesau wrth i ni ddatgarboneiddio'r diwydiannau. Diolch, Llywydd.
Wel, mae datblygu ETS y DU wedi bod yn ddarn o waith hir a chymhleth iawn, ac yn sicr, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad—mae sgyrsiau, rwy'n gwybod, yn digwydd rhwng y ddwy Lywodraeth am hyn—ar yr adeg fwyaf priodol, efallai yn y flwyddyn newydd. Ond, fe wnaf ofyn iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Prynhawn da, Trefnydd. Rwyf i hefyd eisiau cefnogi'r datganiadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod Heledd, a gan Jenny hefyd, o ran hawliau dynol ledled y byd. A gan unwaith eto, ystyried Qatar, tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch sut y cododd y Prif Weinidog faterion hawliau dynol gyda'r bobl y gwnaeth ef gyfarfod â nhw. Mae'n rhywbeth y gwnaeth ef ymrwymo iddo ac fe ddywedodd y byddai'n codi'r materion penodol hynny. Rydym ni'n parhau i glywed am y pryderon. Heddiw, rwy'n deall bod Llywodraeth Qatar yn cydnabod bod rhwng 400 a 500 o weithwyr tramor wedi marw ar brosiectau adeiladu. Mae hynny'n danamcangyfrif enfawr, ond mae'n gydnabyddiaeth. Ac mae'n gywilyddus bod swyddogion ein Llywodraeth ni—fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi bod yn daer yn erbyn unrhyw swyddogion y Llywodraeth yn mynd i gwpan y byd Qatar—yn defnyddio'r stadiymau hynny lle mae pobl wedi marw yn eu hadeiladu nhw. Felly, hoffwn i ddatganiad i roi gwybod i ni sut mae'r materion hawliau dynol hynny wedi cael eu codi. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mae Jane Dodds yn codi pwynt pwysig iawn, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog, ac mae'n debyg Gweinidog yr Economi, yn nodi'r rhesymau pam eu bod yn credu'i bod yn iawn mynd i'r gemau y gwnaethon nhw. Byddwch chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon, yn nodi'r cyfarfodydd y cafodd a'r ffyrdd, yn sicr, y gwnaeth ef yr hyn yr ydych chi newydd gyfeirio ato, yn ogystal â chodi proffil Cymru. Ac yn sicr fe wnaf i ofyn i Weinidog yr Economi gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ôl dychwelyd—rwy'n credu ei fod yn ôl yfory—naill ai'n ddiweddarach yr wythnos hon neu'n gynnar yr wythnos nesaf.
A gaf i alw am un datganiad, gan Weinidog yr Economi, yn ddelfrydol gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ar gefnogaeth i fusnesau sydd wedi'u heffeithio gan gau pont grog Menai? Ddydd Gwener diwethaf, fe gwrddais i ar-lein â'r AS lleol, Virginia Crosbie, fy nghyd-Aelod AS y gogledd Sam Rowlands, a busnesau Porthaethwy sy'n bryderus am yr effaith arnyn nhw ar ôl i Lywodraeth Cymru ei chau. Dywedodd busnesau wrthym ni eu bod yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. Dywedon nhw fod yr holl ganfyddiad cyhoeddus na all pobl fynd ar yr ynys nac oddi arni ychwaith wedi effeithio ar Fiwmares, pan fo'r unig wir broblem yn y bore a'r hwyr, ac maen nhw'n gofyn a all unrhyw un wneud unrhyw beth o ran cael gwaith wedi'i gychwyn ar y bont. Mae hi eisoes wedi bod ar gau am fwy na mis, ond nid oes neb wedi gweld unrhyw un yn gweithio arni, ac maen nhw'n ofni y bydd y bont ar gau am gyfnod hir, a fyddai'n eu difetha. Dywedon nhw, os ewch chi ddwy filltir i fyny'r ffordd, fod problemau o hyd—mae angen iddyn nhw gael trefn ar y traffig, mae angen parcio am ddim arnyn nhw, rhyddhad trethi busnes, a baneri ar yr A55, yn cyfeirio pobl i'r canolfannau fel Porthaethwy a Biwmares, yn hysbysebu eu bod nhw ar agor. Roedden nhw'n cwyno am strancio ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl leol a thwristiaid maen nhw'n dibynnu arnyn nhw, ac maen nhw angen i Croeso Cymru fod yn gwthio'r neges eu bod ar agor. Dywedon nhw, 'Y cyfan sydd ei angen arnom ni yw gobaith, ac i hyrwyddo bod ein hynys ar agor, lle mae ein masnach dwristiaeth yn cael ei dinistrio a'n cadwyni cyflenwi yn cael eu heffeithio.' Rwy'n annog y Gweinidogion perthnasol i gyflwyno datganiad yn unol â lle mae'r busnesau niferus hyn—busnesau rhagorol—sy'n darparu gwasanaethau allweddol i bobl leol mewn perygl mawr. Diolch.
Diolch i chi. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y bydd nifer o fusnesau'r ardal yn wynebu ansicrwydd oherwydd bod y bont wedi cau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod gyda phrif weithredwr a swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn. Mae'r awdurdod lleol—fel rydych chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr—yn drafftio cynllun gweithredu ar gyfer cefnogi'r gymuned fusnes, ac rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymweld â'r ardal yn fuan iawn, lle bydd ef, yn amlwg, yn parhau i gael y trafodaethau hynny.
Yn olaf, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf innau hefyd ddim ond adleisio sylwadau Aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a galw am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am y gefnogaeth a gynigir i ddiwydiannau ynni-ddwys i helpu busnesau i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr mewn ffordd gost effeithiol a symud at arferion gwyrddach? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod gan ddiwydiant Cymru swyddogaeth hanfodol wrth drosglwyddo oddi wrth ddiwydiannau ynni-ddwys i gynhyrchu gwyrddach, ac mae hi'n hanfodol bod busnesau yn cael eu cefnogi yn llawn i wneud newidiadau er mwyn datgarboneiddio eu hoffer. Er hynny, mae hi'n hanfodol hefyd bod diwydiant y DU yn gallu cyfranogi mewn ffordd deg â chystadleuwyr byd-eang ac nad oes perygl o ollwng carbon o ganlyniad i bolisi prisio carbon y DU. Fe glywais eich ymateb chi i'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ac felly rwy'n gobeithio y gallwn ni gael y datganiad hwn cyn gynted â phosibl, i fusnesau fod â sicrwydd a'u bod yn deall sut mae Llywodraeth Cymru am eu cefnogi nhw i drosglwyddo at ynni glanach.
Ie, diolch i chi, ac, fel rwy'n dweud, fe roddais i'r ateb i Sam Kurtz y byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Efallai y byddai hynny'n well yn y flwyddyn newydd yn hytrach na chyn y Nadolig, ond yn sicr fe fyddaf i'n sicr yn gwneud hynny ar yr amser mwyaf manteisiol i wneud felly. Rwy'n deall eich pwynt chi'n llwyr ynglŷn â busnesau ynni-ddwys. Os ydym ni am gyrraedd ein huchelgeisiau a'n nodau sero net y gwnaethom ni eu pennu nhw—ac, yn amlwg, rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i fod yn y sefyllfa honno o ran sero net—mae angen i ni edrych ar y diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni, wrth symud ymlaen.
Diolch i'r Trefnydd.