1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am ddefnyddio cronfeydd ariannol? OQ58771
Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o’n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â'u pwysau presennol ac yn disgwyl gorfod parhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.
Diolch, Weinidog. Ym mis Mawrth 2020, nododd Llywodraeth Cymru fod cyfanswm holl gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn £1.5 biliwn, ac roeddent wedi cynyddu 42 y cant i £2.13 biliwn erbyn mis Mawrth 2021. I roi hyn yn ei gyd-destun, yn y flwyddyn ariannol hon, roedd y grant cynnal refeniw a ddyrannwyd gennych i awdurdodau lleol yn £3.9 biliwn. Rwy’n derbyn bod angen i awdurdodau lleol gadw arian wrth gefn ac nad yw sut y gellir defnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny'n fater syml, ond wrth ichi drafod y sefyllfa ariannol gyffredinol gydag awdurdodau lleol dros y mis nesaf, a wnewch chi roi sicrwydd i’r Senedd na fydd symiau mawr o arian yn eistedd yng nghyfrifon banc awdurdodau lleol tra bod arweinwyr cynghorau, ar yr un pryd, yn cwyno am y diffyg arian i ddarparu gwasanaethau hanfodol? Diolch.
Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb gwreiddiol, sy’n rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau o'r Senedd fy mod yn trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gyda hwy yn rheolaidd fel rhan o’n trafodaethau cyffredinol mewn perthynas â chyllid. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn hefyd fod yr hyn a nodir yn y mecanwaith adrodd blynyddol yn cynrychioli un diwrnod o'r flwyddyn yn unig—diwedd y flwyddyn ariannol; nid yw'n adlewyrchu newidiadau i fyny ac i lawr o fewn y flwyddyn. Ac wrth gwrs, mater i'r aelodau etholedig lleol unigol yw lefel y cronfeydd wrth gefn, a byddant yn adlewyrchu'r cynlluniau mwy hirdymor sydd gan yr awdurdodau hynny yn ogystal â rheoli'r pwysau tymor byr, ac mae digon o'r pwysau tymor byr hynny ar hyn o bryd.
A chredaf fod angen i ni hefyd ystyried cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yng nghyd-destun ehangach cyllideb gyffredinol llywodraeth leol. Ar lefel Cymru gyfan, y dehongliad ehangaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yw 26 y cant o gyfanswm y gwariant blynyddol. Felly, dyna ddarpariaeth tri mis ar gyfer holl gostau llywodraeth leol. Ni fyddai cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu gronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu ond yn darparu ar gyfer 10 diwrnod. Felly, er bod cronfeydd wrth gefn awdurdodau yn uwch nag y maent fel arfer, credaf eu bod yn dal i gydnabod bod llawer iawn o alw am y cronfeydd wrth gefn hynny. Fel y dywedaf, mae awdurdodau eisoes yn defnyddio rhai ohonynt i reoli pwysau eithafol yr argyfwng costau byw ac effaith chwyddiant ar awdurdodau lleol, ac rwy'n disgwyl y byddent yn bwriadu gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau fod gennyf hyder fod ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn mewn ffordd briodol, a chydnabod hefyd fod lefel y cronfeydd wrth gefn eleni yn cydnabod, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, imi ddyrannu £50 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol, gan gofio, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw a’r sefyllfa yn Wcráin, ein bod wedi cydnabod, oherwydd yr adolygiad o wariant tair blynedd, y byddai blynyddoedd 2 a 3 yn anos. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny’n rhoi awdurdodau mewn gwell sefyllfa nag y byddent ynddi fel arall i reoli’r pwysau y flwyddyn nesaf. Ond wedi dweud hynny, fe fyddwch wedi gweld bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod eisoes yn disgwyl gweld bwlch o gannoedd o filiynau o bunnoedd yn y cyllid, sy'n amlwg yn bryder iddynt hwy ac i ninnau.
Diolch am gadarnhau’r hyn rwyf wedi’i glywed mewn sesiynau briffio a ddarparwyd i mi ac i Aelodau eraill o'r Senedd o bleidiau eraill, a oedd nid yn unig yn sôn am y pwysau cyllidebol sy’n wynebu awdurdodau lleol, ond hefyd yn trafod y cronfeydd wrth gefn. Ac o ran y ffigur hwnnw a ddyfynnwyd gennych, pe bai'r cyfan yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r pwysau presennol, efallai y byddai gennym dri mis cyn i'r holl gronfeydd wrth gefn hynny gael eu defnyddio, heb ystyried y ffaith bod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u dyrannu ar hyn o bryd at ddibenion eraill—. Felly, a gaf fi ofyn, yn eich cyfarfodydd ag arweinwyr awdurdodau lleol yn y dyfodol, yn enwedig Andrew Morgan o Rondda Cynon Taf a Huw David o Ben-y-bont ar Ogwr yn fy ardaloedd i, a wnewch chi ofyn iddynt, os oedd unrhyw Aelodau o'r Senedd hon—y mae rhai ohonynt yn gyn-arweinwyr cynghorau—nad aethant i'r sesiynau briffio hynny i weld lefel y pwysau sy’n wynebu ein hawdurdodau lleol ar hyn o bryd, i’w gwahodd unwaith eto i eistedd gyda swyddogion yn yr awdurdod lleol hwnnw i weld pa mor bell y byddai'r cronfeydd wrth gefn yn mynd?
Yn sicr. Credaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn hynod dryloyw o ran yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu, ac rwy'n falch eu bod wedi gallu cynnig cyfleoedd, ar sail ranbarthol, i holl Aelodau'r Senedd ddeall y pwysau hwnnw'n well ar lefel leol iawn. Gwn y byddent yn fwy na pharod i ymgysylltu eto ag unrhyw gyd-Aelodau nad ydynt wedi gallu mynd i un o'r sesiynau hynny. Yn y sesiynau hynny, rwy'n credu y byddech wedi clywed y byddant wedi wynebu pwysau ar draws llywodraeth leol, ond yn enwedig mewn perthynas â chwyddiant cyflogau, costau ynni, ysgolion yn enwedig, gofal cymdeithasol, yr ymateb i Wcráin ac ymfudo yn fwy cyffredinol, yn ogystal â thai a digartrefedd, ac yn amlwg, yr holl heriau'n ymwneud â setliad cyfalaf tynn hefyd. Felly, byddwn yn sicr yn annog pob un o'm cyd-Aelodau i ymgysylltu â'u hawdurdodau lleol er mwyn deall yr heriau hynny.