1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Mae gennyf deimlad fy mod yn gwybod beth fydd yr ateb i fy nghwestiwn cyntaf. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, Weinidog, rydym wedi siarad cryn dipyn am yr amgylchedd cyllidol heriol, yn ogystal ag ymateb Llywodraeth y DU i hyn yn ei datganiad hydref, a ddarparodd chwistrelliad o arian ychwanegol sydd i'w groesawu i Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Yn y teulu llywodraeth leol, fodd bynnag, ceir ansicrwydd a phryder ynghylch ymrwymiadau ariannu yn y dyfodol i awdurdodau lleol. Mae cynghorau’n galw am eu cyfran o arian ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â diffygion yng nghyllidebau'r dyfodol, yn debyg iawn i’ch cydweithwyr gwleidyddol yng nghabinet Torfaen, a ddywedodd yr wythnos diwethaf y byddant yn 'lobio'n galed iawn' am i'r arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU gael ei basbortio i awdurdodau lleol. Weinidog, rwy’n siŵr fod arweinwyr cynghorau wedi rhannu eu pryderon yn glir yn y fforwm cyllid. A gaf fi ofyn, felly, a allant ddisgwyl cymorth ychwanegol wrth symud ymlaen, ac a wnewch roi sicrwydd y bydd unrhyw bolisïau neu feichiau newydd a roddir gan y Llywodraeth ar gynghorau yn cael eu hariannu’n llawn?
Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i gydweithiwr yr Aelod, ond rwyf am ddweud hefyd fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn ag arweinwyr llywodraeth leol. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â swyddogion, yn cynnwys trysoryddion ar draws llywodraeth leol, i drafod y pwysau penodol y maent yn ei wynebu. Rhaid imi ddweud bod y gwaith y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyflwyno i ni bob amser yn ddefnyddiol iawn ar gyfer deall y pwysau penodol hynny, a deall y cwantwm cyllid y dywed llywodraeth leol wrthym y byddai ei angen arnynt er mwyn parhau i gynnal y gwasanaethau ac i barhau i ddarparu ar gyfer pobl yn eu cymunedau. Ac yna, wrth gwrs, bydd fy swyddogion yn rhoi’r ffigurau hynny ar brawf gyda llywodraeth leol er mwyn eu deall yn well. Felly, er sicrwydd, mae'r lefel honno o ymgysylltu yn mynd rhagddi. Rydym yn gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn y dywed llywodraeth leol wrthym sydd ei angen arnynt, ac yn gwrando’n ofalus iawn hefyd ar yr hyn y dywed gwasanaethau cyhoeddus eraill wrthym sydd ei angen arnynt hwy, a rhannau eraill o fywyd Cymreig sydd â buddiant hefyd wrth gwrs.
Ond hoffwn ddweud mai'r gyllideb hon, mae'n debyg, yw'r un anoddaf inni ei hwynebu ers datganoli yn ôl pob tebyg, a bydd penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Felly, nid yw'n gyllideb lle rydym yn ceisio gwneud llawer o bethau newydd; mae'n gyllideb lle rydym yn canolbwyntio, mewn ffordd debyg iawn i laser, ar y pethau sy'n wirioneddol bwysig ac y mae angen inni eu gwarchod.
Diolch, Weinidog, a chytunaf â Huw Irranca-Davies. Cadeiriais, neu cynhaliais gyfarfod i Aelodau ymuno ag arweinwyr awdurdodau lleol, ac yn anffodus, fi oedd yr unig un a ddaeth, er bod gennym 10 o arweinwyr de-ddwyrain Cymru ar yr alwad yn rhannu maint eu problemau. Ac mae'r her yn enfawr, ac mae'r rhagolygon ariannol yn heriol. Ond mae rhai cynghorau mewn sefyllfa well o lawer i wynebu hyn nag eraill. Weinidog, fel y dywedais ar sawl achlysur, mae’r fformiwla ar gyfer ariannu cynghorau wedi dyddio ac yn annheg. Golyga fod rhai cynghorau'n gallu cynilo symiau anferthol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd diwallu eu hanghenion. Rwy’n deall cronfeydd wrth gefn, gallaf amsugno’r atebion parod, ond rwy’n deall y sefyllfa, fel y bydd y rhan fwyaf o aelodau llywodraeth leol yma.
Fel y soniodd Altaf Hussain yn ei gwestiwn blaenorol, gwelsom gynnydd o dros 35 y cant yn y cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ym mis Mawrth 2021 i £2.1 biliwn. Nawr, er mor drist yw hi fy mod wedi treulio amser yn pori drwy'r datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer mis Mawrth 2022 dros y penwythnos, sylwais ar gynnydd o ymhell dros 30 y cant unwaith eto, bron i 50 y cant mewn rhai achosion, gyda chynnydd o oddeutu £600 miliwn, yn ôl pob tebyg, ym mis Mawrth 2022, sy'n gadael cyfanswm o £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Fodd bynnag, nid yw'n ddosbarthiad teg. Ym mis Mawrth eleni, roedd gan rai ymhell dros £200 miliwn, er bod gan eraill lawer iawn llai o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.
Weinidog, a ydych yn credu, mewn cyfnod o bwysau ariannol o’r fath ar ein gwlad, ei bod yn iawn fod gan rai cynghorau gymaint o arian mewn cronfeydd wrth gefn? Gwn y bydd cyfran ohono'n falansau ysgolion a rhywfaint yn arian cyfalaf, ond mae gan rai cynghorau symiau sylweddol o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio mewn cyfrifon segur wedi'u clustnodi nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, oni ddylai’r Llywodraeth ddod o hyd i ffyrdd gwell a thecach o ddosbarthu cyllid? Yn enwedig ar hyn o bryd, fel nad oes rhaid i gynghorau ddibynnu i'r fath raddau ar dalwyr y dreth gyngor, sydd o dan bwysau ac na allant fforddio—
Peidiwch â throi'r dudalen, gan eich bod eisoes ar 2 funud 20 eiliad. Felly, os gallwch ofyn y cwestiynau.
Rwy'n credu fy mod yn iawn.
Iawn, credaf eich bod wedi gofyn sawl cwestiwn.
Rwy’n deall y cwestiwn, ac a bod yn deg â’r Aelod, mae’n gwestiwn y mae’n ei godi’n rheolaidd. Nid wyf yn rhannu’r lefel honno o bryder ynghylch lefel y cronfeydd wrth gefn sydd gan awdurdodau lleol, gan y credaf, a ninnau ar drothwy blwyddyn neu ddwy anodd iawn i awdurdodau lleol, ei fod yn beth da iddynt fod mewn sefyllfa ariannol well nag y byddent ynddi fel arall. Mae rhan o hynny'n ymwneud â'r cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu drwy argyfwng y pandemig, wrth gwrs. Hefyd, bydd pethau gwahanol yn effeithio ar awdurdodau lleol. Bydd yr Aelod yn gwybod bod llawer o weithgarwch na ddigwyddodd, a oedd wedi’i gynllunio yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi arwain, unwaith eto, at gynnydd yng nghronfeydd wrth gefn rhai awdurdodau. Ond mae'n llygad ei le fod lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn wahanol ar draws gwahanol awdurdodau. Ni chredaf fod hynny'n ffactor sy'n ymwneud â'r setliad llywodraeth leol a'r fformiwla, fodd bynnag, gan fod y fformiwla'n edrych ar ystod gyfan o fesurau, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â natur a chyd-destun y boblogaeth sy'n cael ei gwasanaethu a natur daearyddiaeth yr ardal sy’n cael ei gwasanaethu, ac nid yw'r naill na'r llall o’r pethau hynny’n ymwneud yn benodol â chronfeydd wrth gefn. Pe bai awdurdodau lleol am edrych ar y setliad drwy lens cronfeydd wrth gefn, gallem ofyn i’r is-grŵp dosbarthu wneud gwaith ar hynny, ond nid yw’n rhywbeth y mae arweinydd unrhyw awdurdod wedi’i godi gyda mi hyd yn hyn.
Diolch, Weinidog, ond nid yw’r system yn gweithio, gan ei bod yn caniatáu i gynghorau barhau i godi’r dreth gyngor tra bo cronfeydd wrth gefn yn cynyddu mewn rhai achosion. Roedd eich rhagflaenydd Leighton Andrews yn sylweddoli hyn, a chynhyrchodd ganllaw i gynghorau yn 2016 i’w helpu i ddeall a chraffu’n well ar gronfeydd wrth gefn a sut y gellir eu defnyddio. Weinidog, a wnewch chi ystyried adolygu'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd gan rai cynghorau yn yr un modd ag y mae cynghorau'n ei wneud â’u hysgolion, i ddeall a yw cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd, gan asesu efallai a ydynt wedi’u defnyddio yn y pum mlynedd diwethaf neu fwy, ac os nad ydynt, cwestiynu pam? Bydd cronfeydd craidd wrth gefn wedi bod gan rai ers blynyddoedd lawer. Mae'r cronfeydd refeniw a glustnodwyd yr un fath â chronfeydd wrth gefn cyffredinol, er eu bod yn cael eu storio mewn man gwahanol, ac maent ar gael i'w defnyddio mewn unrhyw ffordd. Felly, efallai y bydd rhai'n dweud eu bod ar gyfer diwrnod glawog. Wel, Weinidog, mae’n arllwys y glaw, ond mae gan rai cynghorau ymbarelau enfawr, tra bo gan eraill barasolau bach. Felly, a ydych yn cytuno y dylid cynnal dadansoddiad o’r fath o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd cyn gynted â phosibl er mwyn eich galluogi i ystyried dull mwy cynaliadwy o ariannu gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr ledled y wlad?
Byddwn yn dweud bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod yn gweld pwysau a bylchau enfawr yn eu cyllideb, yn y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf, a’u bod yn dibynnu ar eu cronfeydd wrth gefn, yn rhannol, i fynd i'r afael â'r her honno. Rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy swyddogion gael trafodaethau pellach gyda’r Trysorlys ar y pwynt penodol ynglŷn â deall cronfeydd wrth gefn a’r defnydd ohonynt. Ni chredaf fod awdurdodau lleol wedi bod yn unrhyw beth ond gonest gyda ni pan fyddant yn dweud wrthym am y pwysau y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac rydym yn cael trafodaethau hir gyda hwy am y pwysau sydd o'u blaenau. Ond unwaith yn unig y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae llawer o'r pwysau y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu yn ymwneud â chyflogau yn enwedig, ac yn amlwg, nid yw defnyddio cronfeydd wrth gefn i ddiwallu pwysau cyflog yn ateb cynaliadwy i'r broblem benodol honno. Rwy’n fwy na pharod i gael trafodaethau agored pellach gyda llywodraeth leol ynglŷn â'r mater.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Cyfeiriwyd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf at waith craffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, a ganfu y bu tanwariant o £526 miliwn, ac o ganlyniad, rhoddwyd £155 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i Gymru yn ôl i'r Trysorlys. Rwy’n siŵr y byddech yn dymuno dweud rhywbeth am hynny. Ond yn fwy diweddar, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, amcangyfrifodd Trysorlys Cymru fod oddeutu £80 miliwn o gyllid heb ei ddyrannu yng nghyllideb Cymru ar hyn o bryd. Nawr, fe wnaeth y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, wrth-ddweud hynny’n uniongyrchol yn ei chyfraniad yma yr wythnos diwethaf, pan ddywedodd nad oes unrhyw wariant heb ei ddyrannu nac unrhyw danwariant ar hyn o bryd pan ofynnwyd iddi ynglŷn â chyllideb Llywodraeth Cymru a’r ffigur presennol ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru. Felly, a wnewch chi egluro'r sefyllfa y prynhawn yma a rhoi eglurder i ni ynglŷn â'r amcangyfrif presennol o gyllid heb ei ddyrannu a thanwariant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, fel y saif pethau ar hyn o bryd?
Rwy’n fwy na pharod i egluro'r sefyllfa ar y ddau fater hynny, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud hynny, yn enwedig mewn perthynas â’r cwestiwn cyntaf. Ar 5 Awst, ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid, ac ers hynny, mae’r llythyr hefyd wedi’i rannu â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, sy’n dangos, ym mlwyddyn ariannol 2020-21, sef blwyddyn anghyffredin COVID wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu o fewn rheolaeth gyllidebol y terfyn gwariant adrannol cyffredinol a osodwyd gan y Trysorlys, ond yn anffodus, ni chynigiwyd lefel o hyblygrwydd inni symud arian o refeniw i gyfalaf i’n helpu i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw. Ac o ganlyniad i'r anhyblygrwydd hwnnw, rhoddwyd rhywfaint o gyllid yn ôl i Lywodraeth y DU.
Ond credaf mai’r pwynt pwysicaf i’w nodi yma yw bod cyfanswm y tanwariant yn 2020-21 gan holl adrannau Llywodraeth y DU yn £25 biliwn, ac mae hynny’n cynrychioli bron i 6 y cant o gyfanswm y ddarpariaeth a ryddhawyd i’r adrannau hynny yn y flwyddyn honno. Rhoddwyd yr holl danwariant gan adrannau’r DU yn ôl i Drysorlys EM, ac mewn gwirionedd, cafwyd tanwariant o dros 9 y cant gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig, a rhoddodd yr adran honno yn unig £18.6 biliwn yn ôl i’r Trysorlys. Byddai cyfran Barnett o hwnnw'n gyfanswm o oddeutu £1 biliwn i Gymru, a chredaf fod hynny’n rhan o’r rheswm pam fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi bod mor amharod i gynnig lefel o hyblygrwydd i ni. Dyna un o'r problemau sydd gennym, wrth gwrs: mae angen ffordd lawer mwy sefydlog o ymdrin â'r materion hyn ar ddiwedd y flwyddyn, gan nad yw dibynnu ar hyblygrwydd, neu fel arall, pwy bynnag sy'n digwydd bod yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd yn ffordd briodol o fynd yn ein blaenau.
Felly, i orffen y pwynt penodol hwn, roedd tanwariant cyffredinol Cymru yn y flwyddyn eithriadol honno yn 1 y cant yn unig o'r adnoddau a oedd ar gael, a chredaf fod hynny'n dangos pa mor effeithiol y rheolwyd ein hadnoddau yn yr amgylchiadau hynod heriol hynny. Ac mae'n parhau â record Llywodraeth Cymru o fod ymhlith adrannau gorau Llywodraeth y DU, fel y byddent yn ein hystyried, yn nhermau'r Trysorlys, ac ymhlith Llywodraethau datganoledig o ran defnyddio ein cyllidebau. Felly, rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gofnodi hynny. Rwy’n fwy na pharod i rannu’r llythyr a anfonais at y Pwyllgor Cyllid gyda’r holl gyd-Aelodau, efallai, drwy ei roi yn y Llyfrgell, Lywydd.
Ar gronfeydd wrth gefn, yn y gyllideb derfynol y cytunwyd arni ym mis Mawrth 2022, roedd y terfyn gwariant adrannol heb ei ddyrannu yn £100 miliwn o refeniw a chyllideb gyfalaf wedi’i gor-raglennu o £76 miliwn. Yn y gyllideb atodol gyntaf, felly, a ddyfynnwyd yn y drafodaeth gyda’r Gweinidog iechyd, roedd y terfyn gwariant adrannol heb ei ddyrannu yn £152 miliwn, ac roedd hynny’n bennaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol o brif amcangyfrifon a datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU, a gostyngodd swm y cyfalaf a oedd wedi'i or-raglennu i £68 miliwn yn dilyn gostyngiad mewn rhagolygon gwariant, ond gwrthbwyswyd hynny unwaith eto gan y cyfraniad o £30 miliwn mewn perthynas ag Wcráin.
Ers hynny, wrth gwrs, rydym wedi gweld yr argyfwng costau byw yn cydio, felly ni chredaf ei bod yn briodol rhoi cyfanswm parhaus o ble rydym arni o ran pwysau ar draws y Llywodraeth a lle mae gennym y gallu i ymateb i hynny o fewn y gronfa wrth gefn, gan fod y sefyllfa honno’n llythrennol yn newid o ddydd i ddydd. Felly, rwy'n cael adroddiadau monitro misol gan gyd-Weinidogion ar draws y Llywodraeth, yn nodi lle maent yn gorwario ac yn tanwario yn erbyn eitemau amrywiol; rwyf wedyn yn trafod y rheini gyda swyddogion, ac rydym yn ystyried pa fecanweithiau priodol sydd gennym i ymateb i hynny fel y gallwn sicrhau bod y gyllideb yn y sefyllfa y mae angen iddi fod ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r sefyllfa honno’n newid drwy’r amser, ond yr hyn a ddywedaf yw nad yw’r cyllid sydd ar gael gennym ar hyn o bryd yn y cronfeydd wrth gefn yn ddigon, o bell ffordd, i ddiwallu'r pwysau a welwn ar draws y Llywodraeth, sef yr hyn roedd y Gweinidog iechyd yn ceisio'i gyfleu, rwy'n credu, yn y drafodaeth honno.
Iawn, diolch am hynny, ond credaf y gallwn gymryd, felly, nad yw’n wir dweud nad oes unrhyw danwariant ar hyn o bryd. Rwy’n parchu eich dymuniad i beidio â rhoi sylwebaeth barhaus, ond pan fydd gennym wahanol negeseuon yn dod gan wahanol bobl, credaf fod angen rhywfaint o dryloywder arnom mewn perthynas â hynny. Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaethoch ynghylch hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchu ar y setliad a’r trefniadau presennol ynglŷn â chyllid, sy'n amlwg yn rhai rydym wedi tynnu sylw atynt ac y mae gennym farn debyg iawn yn eu cylch, byddwn yn dychmygu.
Nawr, mae’n tanlinellu, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod pob punt yn gweithio mor galed â phosibl, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Sylwais yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE, y gwn ei fod yn destun dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma, ond mae un pwynt penodol yn yr ymateb hwnnw roeddwn am dynnu eich sylw ato, sef bod y Llywodraeth yn ei hymateb yn dweud mai,
'Gweddill y gwariant ar raglenni ERDF ac ESF yng Nghymru yw £619 miliwn,' ar ddiwedd y mis Hydref sydd newydd fod. Nawr, y gwariant rhagamcanol ar gyfer hynny erbyn diwedd mis Ionawr yw £170 miliwn. Felly, mae hynny'n gadael £450 miliwn i'w wario ar weithgaredd i'w gyflawni hyd at yr haf, ac yn amlwg, i'w hawlio erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf. A ydych yn hyderus y bydd yr holl arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio? A wnewch chi roi sicrwydd i ni na fydd unrhyw danwariant yn y cyswllt hwnnw ac na fydd unrhyw arian yn cael ei anfon yn ôl nac yn cael ei golli yng Nghymru? A ydych yn cydnabod, os bydd hynny’n digwydd, y bydd yn fethiant enfawr ar adeg, fel y dywedais, pan fo angen i Gymru ddefnyddio pob ceiniog y gallwn ei defnyddio?
Yn sicr, ein nod yw defnyddio’r holl arian Ewropeaidd sydd wedi dod i Gymru, ac mae hynny, a dweud y gwir, yn un o’r arfau sydd gennym i allu rheoli ein cyllideb o fewn y flwyddyn ariannol—i wneud penderfyniadau ynghylch pryd yn union rydym yn defnyddio'r cyllid Ewropeaidd hwnnw, i'n helpu i reoli'r gyllideb yn gyffredinol. Felly, mae'n arf y gallwn ei ddefnyddio ac rydym yn ei ystyried yn weithredol drwy gydol y flwyddyn. Ond yn sicr, ein bwriad yw defnyddio'r holl gyllid sydd wedi dod i Gymru, wrth gwrs.