1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar reoli adnoddau Llywodraeth Cymru? OQ58770
Er gwaethaf rhywfaint o arian refeniw ychwanegol drwy ddatganiad yr hydref, nid yw hyn wedi bod yn agos digon i lenwi’r bwlch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Golyga hyn fod Gweinidogion yn wynebu penderfyniadau anodd wrth inni baratoi ar gyfer y gyllideb ddrafft eleni.
Diolch, Weinidog. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd y bydd y penderfyniadau hynny, oherwydd, fel y dywedwch, nid yw’r arian sydd wedi dod o San Steffan, er ei fod yn gynnydd, yn ddigon i fynd i'r afael â'r pwysau chwyddiant ofnadwy y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu ledled Cymru. Weinidog, a wnewch chi roi syniad i ni o’r egwyddorion arweiniol a fydd yn cael eu dilyn wrth benderfynu ble a faint o arian y Llywodraeth sy’n cael ei wario? A wnewch chi addo y byddwch yn sicrhau, pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud, y bydd cynnal iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn flaenoriaeth i bob Gweinidog?
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Er mwyn rhoi syniad o sut rydym yn ymdrin â'r trafodaethau cyllidebol ar draws y Llywodraeth, rydym yn edrych, yn anad dim, ar dri nod penodol. Y cyntaf, yn amlwg, yw cyflwyno cyllideb gytbwys, ac mewn gwirionedd, mae hynny'n llawer anos nag y byddech yn ei ddychmygu, o ystyried y ffaith bod cymaint o fwlch yn y cyllid, a dyna ble fydd y penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud, o ran beth y gallwn barhau i'w ariannu a lle bydd angen inni ailflaenoriaethu cyllid oddi wrtho, o bosibl. Ond hefyd, yr ail faes allweddol rydym am barhau i’w warchod yw gwasanaethau cyhoeddus. Felly, gwarchod gwasanaethau cyhoeddus yw ein hail biler. A'r trydydd yw parhau i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, oherwydd wrth gwrs, mae honno'n cynnwys cymaint o'n haddewidion i bobl Cymru, ac rydym yn canolbwyntio ar eu cyflawni. Mae'n bosibl y byddwn yn cyflawni rhai pethau yn y pen draw dros gyfnod hwy nag roeddem wedi'i ragweld i ddechrau. Mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried, yn enwedig, rwy'n credu, mewn perthynas â chyfalaf, lle mae ein cyllideb gyfalaf yn gostwng ym mhob blwyddyn yn yr adolygiad o wariant hwn, ac nid oedd unrhyw gyfalaf ychwanegol o gwbl yn natganiad yr hydref. Felly, unwaith eto, dyna'r math o benderfyniad anodd y gallai fod angen i gyd-Aelodau ei wneud. Ond hoffwn roi sicrwydd i’r Aelod y bydd gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n amlwg ein bod yn sôn am iechyd yn hynny, yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y broses gyllidebol.
A yw'r Gweinidog yn cytuno bod dyraniad Llywodraeth y DU o £1.2 biliwn yn adlewyrchiad o gynllun Llywodraeth Geidwadol i godi'r gwastad yng Nghymru drwy fuddsoddi'n briodol yn ein gwlad, tra bod Llywodraeth Cymru yn gwario miliynau ar gyfres o brosiectau sosialaidd aflwyddiannus, megis perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar Faes Awyr Caerdydd, perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar fferm ym Mhowys, a pherchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar wasanaethau trên, tra bo pobl yng ngogledd Cymru yn cael eu hamddifadu o'r cyllid hwn? Onid yw'n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd perchnogaeth ar arian y trethdalwyr a'i wario'n briodol? Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU fel nad yw fy etholwyr ar eu colled?
Bydd eich etholwyr yn cael eu hamddifadu. Bydd pob un o'n hetholwyr yn cael eu hamddifadu, am fod cymaint o fwlch mewn cyllid cyhoeddus, ac mae goblygiadau yn sgil hynny i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r gwasanaethau y mae pobl yn eu cael yn eu cymunedau. Felly, rwy'n credu bod angen inni feddwl o ddifrif am lefel yr heriau a wynebwn yn y gyllideb. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig.
Felly na, nid yw datganiad yr hydref yn awgrymu mewn unrhyw fodd fod Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â chodi'r gwastad. I'r gwrthwyneb—gwrthodir cyfle i awdurdodau wario unrhyw arian o gyllid y gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol hon, yn groes i'r ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU. A phe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gadewch inni gofio y byddai'r rhaglenni UE hirdymor, amlflwydd wedi dechrau bron i ddwy flynedd yn ôl yn 2021—byddai £375 miliwn o gyllid ychwanegol yn dod i ni yma yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hwnnw wedi'i golli, felly nid yw'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno fel cynnig yn gyfnewid am hynny i godi'r gwastad yn dod yn agos at wneud hynny hyd yn oed.