1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar wasanaethau llywodraeth leol? OQ58786
Mae chwyddiant o dros 10 y cant wedi erydu gwerth cyllidebau llywodraeth leol i raddau pryderus. Yn ogystal ag effaith costau cynyddol ar gyfer ynni, cyflogau, trafnidiaeth a bwyd, mae cynghorau hefyd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r effeithiau ar eu cymunedau.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac fel rydych wedi'i ddweud, mae'n amlwg fod cyllid o dan bwysau gwirioneddol. Bydd y gwasanaethau yn cael eu hymestyn i bob cyfeiriad posibl, ond bydd yr angen i ymateb i lefelau cynyddol o dlodi yn anodd iawn. Pwy fyddai wedi meddwl, hyd yn oed flwyddyn yn ôl—flwyddyn yn ôl—y byddem yn sôn am ganolfannau cynnes yn cael eu darparu gan gynghorau lleol ledled Cymru, ym mhob un o'n cymunedau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig? Weinidog, ymhlith pethau eraill, bydd bodolaeth mesuryddion rhagdalu yn llywio'r galw am y canolfannau cynnes hyn. Mae pobl yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu ac yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi. Yn wrthnysig, maent yn sicrhau bod y rhai lleiaf abl i dalu yn talu mwy am eu hynni, a hynny er budd i neb heblaw i wneud elw i'r cwmni ynni a chasglwyr dyledion. Weinidog, mae hwn yn fater o fywyd neu marwolaeth mewn gaeaf oer. A ydych yn cytuno y dylid cael moratoriwm ar unwaith ar eu gosod, ac y dylai Llywodraeth y DU anfon neges gref i'r cyflenwyr ynni hyn am y peryglon sy'n gysylltiedig â phobl yn cael eu datgysylltu bob tro y maent yn mynd yn brin o gredyd?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr: mae angen i Lywodraeth y DU fod yn defnyddio ei holl ddylanwad ar y cwmnïau ynni i leihau effaith yr argyfwng costau byw ar y bobl fwyaf agored i niwed. Ac i dawelu meddwl yr Aelod—a gallwn glywed llawer o gefnogaeth i'r hyn a ddywedodd gan eraill yn y Siambr—fe gyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol â chyflenwyr ynni yn gynharach yn y mis, ac fe wnaeth bwyso arnynt ynghylch y mater penodol hwn. Ac mae hi hefyd wedi ceisio ac wedi cael sicrwydd yn y gorffennol gan gwmnïau ynni fod trefniadau yn eu lle i estyn allan at aelwydydd sy'n cael trafferth gyda biliau ynni. Ac fe wnaethant gydnabod yr angen i ymgorffori mecanweithiau cymorth priodol, yn seiliedig ar allu pobl i dalu, megis dileu dyledion ynni tymor byr, cytuno ar gynlluniau ad-dalu fforddiadwy, yn seiliedig ar y gallu i dalu, a lle bo'n briodol, cyfeirio aelwydydd at gynlluniau i wella eu defnydd effeithlon o ynni a lleihau biliau. Felly, rwy'n credu nawr fod angen inni bwyso ar gwmnïau ynni i ddangos beth y maent wedi'i wneud mewn ymateb i'r trafodaethau hynny.
A gaf fi ymuno â Jack Sargeant i gydnabod rhai o'r gwasanaethau pwysig iawn y mae ein hawdurdodau lleol yn eu darparu o ddydd i ddydd, yn enwedig ar adegau o anhawster y mae llawer yn eu profi ar hyn o bryd? Ac fel sydd wedi'i amlygu gan nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr, mae'r awdurdodau lleol hynny unwaith eto'n profi heriau gyda'u sefyllfa ariannol. Un o'r pryderon allweddol sydd wedi'u dwyn i fy sylw yw'r ffaith bod rhai cynghorau yng Nghymru wedi dweud wrth eu hysgolion y dylent baratoi i leihau eu cyllidebau oddeutu 10 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf. Byddwn wedi meddwl bod ysgolion ac addysg yn un o'r gwasanaethau craidd y mae awdurdodau lleol yn eu darparu. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw a fyddwch chi'n rhoi cyfarwyddyd neu arweiniad i awdurdodau lleol, wrth benderfynu ar eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac a fydd rhan o'r cyfarwyddyd neu'r arweiniad hwnnw yn ymwneud â'r gwasanaethau craidd hanfodol hynny, megis cyllid ar gyfer ein hysgolion?
Wel, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y trafodaethau cyllidebol parhaus sy'n digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond rwyf am ddweud bod y pwysau ar addysg, fel y disgrifiodd yr Aelod, wedi cael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn amlwg iawn gan gydweithwyr llywodraeth leol, ac mae fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, bob amser yn cyflwyno achos cadarn iawn dros ysgolion ac addysg hefyd. Felly, nid wyf eisiau mynd yn llawer pellach na hynny ar hyn o bryd. Ond mewn perthynas â chyhoeddi'r gyllideb, yn amlwg fe fyddaf yn ceisio cyflwyno cymaint o wybodaeth ag y gallaf i gyd-Aelodau, ac rwy'n gwybod y bydd awdurdodau lleol eisiau gosod eu cynlluniau gwariant ar gyfer eu cydweithwyr hefyd.
A gaf fi gysylltu fy hun â sylwadau Jack Sargeant ynglŷn â mesuryddion rhagdalu? Maent yn anghywir, maent yn anfoesol, ac mae angen gweithredu arnynt cyn gynted â phosibl. Ond hoffwn wybod pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gyda chwmnïau ynni mewn perthynas â chyflwyno tariff cymdeithasol posibl, yn debyg i'r hyn sydd gennym gyda'r cwmnïau dŵr a darparwyr band eang. Rwy'n credu y bydd hyn hefyd yn gwneud llawer i ddarparu ynni i bobl sy'n cael trafferth talu.
Yn hollol, ac mae hynny'n rhywbeth roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w ddarparu cyn datganiad yr hydref a chyn y gyllideb cyn honno, mewn gwirionedd. Ond o ran trafodaethau gyda chwmnïau ynni, mae'r rheini'n tueddu i ddigwydd rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd; hwy fydd yn cael y trafodaethau uniongyrchol gyda'r cwmnïau ynni hynny. Efallai y gallwn ofyn i'r Gweinidogion hynny roi diweddariad i'r Aelodau.