5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:44, 30 Tachwedd 2022

Diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith ar y maes pwysig yma. I fi, man cychwyn yw atgoffa'n hunain, efallai, o rai o'r addewidion a wnaethpwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a jest pwyso a mesur i ba raddau y mae'r addewidion yna wedi cael eu gwireddu neu eu cadw chwe blynedd lawr y lein. Nawr, mi ddywedwyd wrthym ni, fel rŷn ni wedi clywed, na fyddem ni geiniog allan o boced yng Nghymru. Mi ddywedwyd hefyd, wrth gwrs, y bydden ni cael budd o gael gwared ar y baich rheoleiddiol a'r holl dâp coch, ac y byddai hynny yn caniatáu buddsoddi wedi'i dargedu yn fwy effeithiol a buddsoddi mwy effeithlon hefyd. Mi ddywedwyd y buasai fe'n fodd i gymryd rheolaeth yn ôl, os cofiwch chi, ac ymbweru datganoli gwneud penderfyniadau. Dwi ddim yn gweld hynny eto, mae'n rhaid i fi ddweud, er ein bod ni chwe blynedd lawr y lein, fel sydd wedi cael ei nodi.

Mae yr ariannu a'r cyllido sydd wedi ei glustnodi i Gymru o dan y cynllun shared prosperity fund i fyny at 2025 yn disgyn yn fyr o'r lefelau y bydden ni wedi eu derbyn yn ystod yr un cyfnod petai ni dal yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae goblygiadau datganiad yr hydref gan Lywodraeth San Steffan, wrth gwrs, yn dweud y bydd yna £400 miliwn yn llai, er dwi yn nodi'r hyn y dywedodd y Cadeirydd ynglŷn â llythyr sydd wedi dod i gyflwyno gwrthddadl i hynny, ond petasech chi ond yn edrych ar yr economi a pherfformiad yr economi yn ehangach, yn enwedig mewn cymhariaeth â gweddill y G7, mae'r awgrym ein bod ni, rhywsut, yn well bant o fod lle rŷn ni nawr, i fi, yn addewid gwag. Ac, wrth gwrs, rŷn ni hefyd yn gwybod na chafodd Llywodraeth Cymru fod yn rhan neu gael ei hymgynghori â hi ar unrhyw gyfnod wrth ddatblygu a chynllunio'r ffordd y byddai'r cyllidebau yma yn cael eu defnyddio, er eu bod nhw, wrth gwrs, yn torri i mewn i feysydd datganoledig, ac mae hynny, wrth gwrs, i fi, yn anfon y neges yna bod Llywodraeth San Steffan yn trin y lle yma gyda dirmyg.