1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers i'r Senedd basio cynnig ym mis Gorffennaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu cynllun peilot incwm sylfaenol ymhlith gweithwyr mewn diwydiant trwm fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon? OQ58839
Diolch, Jane Dodds. Rydym yn blaenoriaethu’r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer gofalwyr, fel y gwyddoch. Bydd y gwerthusiad o’r cynllun peilot hwnnw’n archwilio’r manteision posibl i bobl sy’n gadael gofal a phoblogaeth Cymru yn gyffredinol. Ond mae swyddogion y Gweinidog newid hinsawdd yn arwain gwaith i sicrhau ein bod yn deall yr effeithiau, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid i economi carbon isel.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, ac a gaf fi ddiolch am eich ymrwymiad, ac ymrwymiad eich tîm, i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol, ac i ymchwilio i hyn? Hoffwn grybwyll ffaith arall hefyd yma yn y Senedd: dysgais yr wythnos diwethaf fod tri o bob pedwar o'r ceisiadau sydd ar y gweill i ymestyn cloddio am lo yn y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid inni symud yn gyflym ar y mater hwn. Mae braidd yn siomedig clywed nad oes unrhyw waith pellach wedi’i wneud ar yr agwedd benodol honno ar y cynllun peilot. Ond rwy’n falch o glywed y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn lansio galwad am dystiolaeth ar bontio teg, gan gynnwys casglu tystiolaeth o anghenion ar gyfer ein cymunedau. Oherwydd mae angen gosod rhwyd ddiogelwch economaidd real ar gyfer y gweithwyr hynny ar unwaith, ar ffurf incwm sylfaenol, ynghyd â chamau llym yn erbyn cloddio am lo. Gallant ddiogelu cymunedau yn ogystal â'n planed. Felly, a wnewch chi amlinellu a dweud wrthyf am y cynlluniau sydd ar waith, a'r amserlenni, a sut y gallwn sicrhau'r pontio teg hwn drwy gynllun peilot incwm sylfaenol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn waith allweddol o ran ein cynllun Cymru Sero Net, sy'n ei gysylltu â’r cynllun ar gyfer 2026. Fel y gŵyr yr Aelod, rwy’n siŵr, mae galwad am dystiolaeth wedi’i chyhoeddi heddiw gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi prawf ar syniadau cynnar ynglŷn â sut rydym yn llunio rhaglen waith y dyfodol, sy'n cysylltu â'r hyn rydych wedi galw amdano. Ond credaf fod yr alwad honno am dystiolaeth yn mynd i edrych ar becynnau gwaith, a llywio gweithgarwch, ac yn amlwg, rydym am i bawb fod yn rhan o hynny. Mae’n rhaid i’r fframwaith ar gyfer pontio teg adeiladu ar sylfaen dystiolaeth ac ymchwil, mae’n rhaid iddo edrych ar faterion fel sut rydym yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau wrth bontio'n deg, ac mae’n rhaid iddo sicrhau’r integreiddio mwyaf posibl ar draws pob sector a chorff. Ond rwy’n ymwybodol o gyfarfod â’r Rhwydwaith Gweithredu Glo, sy'n ymwneud yn benodol â’ch cwestiwn, ddiwedd mis Tachwedd, i drafod incwm sylfaenol a phontio i economi ddi-garbon. Rhaid inni ddeall y problemau, edrych ar yr effeithiau, a chredaf mai ein deddfwriaeth arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yw'r sylfaen ar gyfer mynd i'r afael â phontio teg. Ond bydd yr alwad am weithredu'n darparu cyfleoedd i fwydo i mewn i'r pwyntiau hyn.
Weinidog, mae nifer o fy etholwyr yn Aberconwy wedi codi pryderon eich bod, yng nghanol argyfwng costau byw, yn dal i fynd ar drywydd y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei hanfod yn arbrawf hynod gostus, ac nid yw’n gwneud y tro yn lle cynllun datgarboneiddio dilys. Y bore yma, cawsom dystiolaeth yn y pwyllgor y bydd datgarboneiddio cartrefi ar draws pob sector yn beth costus iawn i Lywodraeth Cymru ei roi ar waith. O ran incwm sylfaenol cyffredinol, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn aml yn cyfeirio at brofiadau gwledydd eraill. Fodd bynnag, yn Ontario yng Nghanada, canslodd y Llywodraeth daleithiol yno eu cynllun peilot incwm sylfaenol yn 2018, gan ddweud ei fod yn wastraff arian trethdalwyr, ac yn y Ffindir, ni chanfu canlyniadau'r treial incwm sylfaenol cyffredinol a roddwyd i bobl ddi-waith unrhyw wahaniaeth ystadegol mewn statws gwaith rhwng y derbynwyr a'r grŵp rheoli. Felly, mae hyn, mewn gwirionedd, yn gwrthbrofi'r ddadl fod incwm sylfaenol cyffredinol yn helpu pobl i gael gwaith, neu ei fod hyd yn oed yn helpu gweithwyr i bontio i swyddi eraill. Yng ngoleuni’r canlyniadau hyn, Weinidog, a wnewch chi egluro pa wersi rydych wedi’u dysgu o’r cynlluniau incwm sylfaenol cyffredinol aflwyddiannus hyn ledled y byd, ac a wnewch chi wneud tro pedol ar hyn, os gwelwch yn dda?
Wel, Janet Finch-Saunders, rwy’n drist iawn, mewn ffordd, na allech fod wedi cyfarfod â’r bobl ifanc y gwnaethom eu cyfarfod. Mewn gwirionedd, credaf inni gyfarfod â hwy yn eich etholaeth chi yn Llandudno yn ddiweddar. Fe wnaethom gyfarfod â phobl ifanc sy'n gallu cymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol hwn nawr. Am bobl ifanc ysbrydoledig—pobl â phrofiad o fod mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal, ac sydd wedi cael y cyfle, o’r diwedd, yn eu bywydau, y parch gan Lywodraeth Cymru, i fod yn rhan o gynllun peilot incwm sylfaenol. Rhaid imi ddweud, rydych ar eich pen eich hun ar yr ochr honno i'r Siambr mewn perthynas â'r cynllun peilot incwm sylfaenol. Rydych ar eich pen eich hun mewn perthynas â'r 500 o bobl ifanc sy’n mynd i elwa ohono. Yn amlwg, eu penderfyniad hwy yw cymryd rhan ai peidio, ond mae nifer fawr iawn yn cymryd rhan.
Ond hoffwn ddweud, yn bwysig iawn, ein bod yn ei werthuso—mae hynny'n gwbl briodol. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud 'Wel, sut rydym yn ei brofi?' Mae'n ddyddiau cynnar; fe ddechreuodd ym mis Gorffennaf, ond rydym wedi penodi tîm gwerthuso. Caiff ei arwain gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd, ac maent yn defnyddio arbenigedd—y rheini sydd â dealltwriaeth o’r hyn y mae bod mewn sefyllfa rhywun sy’n gadael gofal o ran tlodi, lles, digartrefedd a chyfleoedd gwaith yn ei olygu. Mae'r cynllun peilot yn cael ei fonitro’n agos, a bydd y gwerthusiad yn edrych ar yr effeithiau, ond hyd yn hyn, o ran y profiad a’r rhyngweithio rydym wedi’i wneud gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy'n cymryd rhan yn y cynllun, credaf mai dyma un o’r mentrau polisi pwysicaf a gyflawnir gennym yn Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd, rwy'n credu.
Weinidog, fel peiriannydd hyfforddedig, rwyf bob amser yn awyddus i ddefnyddio data i ddatblygu dull o ymdrin â pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae treial incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru yn rhoi’r cyfle hwnnw inni brofi effeithiau incwm sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. A gaf fi ofyn i chi sut y bydd y data hwnnw ar gael i bobl fel Jane Dodds a minnau, sy'n awyddus i hyrwyddo incwm sylfaenol cyffredinol, ond hefyd, i'r anghredinwyr ar yr ochr draw, fel y gallant sylwi efallai ar y data a newid eu cân?
Wel, diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, a diolch am eich cefnogaeth barhaus. A dweud y gwir, rydym yn y sefyllfa rydym ynddi o ganlyniad i ddadl a gychwynnwyd gennych yn nhymor diwethaf y Senedd—dyna pam y gwnaethom ni fel Llywodraeth benderfynu trin hyn fel blaenoriaeth. Ac mae'n fuddsoddiad yn y bobl ifanc hyn—mae’n fuddsoddiad yn eu bywydau, yn eu dyfodol, a’r cyfraniadau—. Clywodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a minnau sut y mae’r bobl ifanc hyn yn meddwl mor gyfrifol am ffyrdd y byddent yn gallu defnyddio’r incwm hwn, a bydd hyn oll, wrth gwrs, yn cael ei brofi gan y gwerthusiad.
Dywedaf i gloi ein bod yn amlwg yn gweithio'n agos iawn gyda'r tîm sy'n gwerthuso. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi pwy fydd yn gwneud hynny, ond y bobl ifanc eu hunain a fydd yn gwneud hynny, a byddaf yn rhoi manylion ynghylch canfyddiadau cynnar y dadansoddiad o'r cynllun peilot, y byddaf yn ei rannu gyda chi yn y Senedd hon wrth gwrs, a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn y flwyddyn newydd.