1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru? OQ58821
Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll ochr yn ochr â'n cymunedau LHDTC+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi'u gwreiddio yn ein rhaglen lywodraethu, a pham rydym yn datblygu ein cynllun gweithredu LHDTC+ beiddgar. Ar ôl adolygu mwy na 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ein nod yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu diwygiedig ym mis Chwefror 2023.
Diolch am eich diweddariad, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag Ollie Mallin, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae Ollie hefyd yn etholwr i mi ac mae wedi bod yn dadlau dros faterion LHDTC+ i bobl ifanc. Mae Ollie wedi siarad yn onest am homoffobia sy'n wynebu pobl ifanc mewn ysgolion, a'r diwylliant sydd, yn anffodus, yn dal i fod yn bresennol, sy'n gallu dechrau gyda sylwadau negyddol a chyfeiriadau at stereoteipiau hoyw, ond fel y gwyddom, mae'n ysgogi rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+ ar draws pob rhan o'n cymdeithas.
Rwy'n llwyr gefnogi eich gwaith ar gynllun gweithredu LHDTC+. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn genedl lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel i fod yn nhw eu hunain, i fod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth rhywedd, eu mynegiant rhywedd a nodweddion rhyw gartref, yn eu hamser hamdden, yn y gwaith neu yn yr ysgol heb deimlo bygythiad. Bydd angen agwedd ragweithiol, ynghyd â myfyrio ac ymgynghori, yn enwedig mewn amgylchedd fel ysgolion, i sicrhau bod y pethau y mae pobl ifanc yn eu gweld—eu bod yn gweld y newidiadau cadarnhaol hyn mewn gwirionedd. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod ysgolion yn ddigon diogel i ddisgybl LHDTC+ fel nad oes rhaid iddynt boeni am ragfarn oherwydd pwy ydynt. Felly, Weinidog, ar y pwynt hwn, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i sicrhau bod ysgolion yn ymateb i'r cynllun gweithredu? Diolch.
Diolch i Sarah Murphy am godi hyn, a hefyd am eich cefnogaeth i'r cynllun gweithredu LHDTC+. Fel y dywedoch, mae'r gwaith a wnawn yn hynod o bwysig, ac yn amlwg, nid yw ond yn ymwneud â rhoi'r cynllun hwnnw ar waith, mae'n ymwneud â'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud yn ymarferol. A gaf fi hefyd ddiolch a rhoi cydnabyddiaeth i Ollie am siarad mor onest am hyn a rhannu profiadau pobl ifanc, sydd, yn anffodus, yn dal i ddigwydd, nid mewn ysgolion yn unig ond mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru? Mae'n gwneud imi deimlo'n arbennig o drist, a minnau wedi cael fy mwlio yn yr ysgol oherwydd—rwy'n credu fy mod wedi dweud yn y fan hon o'r blaen—fod plant eraill yn gweld rhywbeth ynof fi nad oeddwn wedi'i adnabod fy hun.
Rydych yn sôn am y sylwadau a'r sarhad negyddol, ac os cofiwch chi'r hen ymadrodd am ffyn a cherrig yn torri esgyrn, ond na fydd geiriau byth yn brifo, wel, yn bendant nid yw hynny'n wir—mae geiriau'n brifo. Un o'r pethau sy'n aros yn y cof, ac rwyf wedi rhannu hyn gyda rhai o fy nghyd-Aelodau, yw eu bod yn fy ngalw'n 'Lesley'—rwy'n credu eu bod yn golygu 'Lesley y lesbian'. Felly, yn ogystal â bod yn hynod greulon, mae bwlis yn ddiddychymyg iawn hefyd. Ond maent yn dweud mai'r personol yw'r gwleidyddol, felly mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ hwn yn bwysig iawn i mi ar y lefel honno hefyd, oherwydd rwyf eisiau gweld y newid i genedlaethau sydd yn yr ysgol nawr a chenedlaethau i ddod, ac rwy'n credu bod y gwaith y mae Ollie'n ei wneud yn bwysig iawn. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod ag Ollie gyda'r Aelod.
Ond ar y cynllun gweithredu ei hun, mae cyfres o gamau gweithredu ynddo, ac rwy'n ystyried yn ofalus iawn, ar y cyd â'r Gweinidog addysg, sut rydym nid yn unig yn cefnogi pobl ifanc mewn ysgolion ond sut rydym yn cefnogi eu haddysgwyr ac yn cefnogi'r athrawon i allu ymdrin a mynd i'r afael â'r pethau hyn gyda gofal yn ogystal â hyder, oherwydd rwy'n credu bod yna sgil-effaith yn dal i fodoli o ganlyniad i adran 28, lle mae pobl yn dal i fod yn nerfus wrth fynd i'r afael â'r materion hyn, yn anffodus. Felly, mae angen i ni gynnig cefnogaeth i'r athrawon a'r staff addysgu yn ogystal ag i'r dysgwyr.
Weinidog, un o'r camau gweithredu yn y cynllun yw archwilio ffyrdd y gellir cael gwared ar ddulliau adnabod personol diangen, megis enw, oedran, a dynodwyr rhywedd o'r ddogfennaeth, yn enwedig mewn arferion recriwtio. Gallai hyn hefyd fod o gymorth i leihau'r risg o wahaniaethu yn erbyn rhywun o gefndir lleiafrifol ethnig. I ba raddau rydych chi wedi llwyddo i gyflawni'r cam gweithredu hwn? A yw cyrff cyhoeddus, fel y GIG, bellach wedi datblygu'r amcan hwn, ac a allwch chi roi tystiolaeth o unrhyw welliant o gwbl?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad? Mae'r pwynt y mae'n cyfeirio ato yn un o'r pwyntiau y buom yn ymgynghori arnynt fel rhan o'r cynllun gweithredu drafft, ac nid wyf yn credu fy mod yn achub y blaen drwy gadarnhau y byddwn yn ehangu ar y pwynt yn y cynllun gweithredu ei hun pan fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn nesaf. Rydych yn codi pwynt dilys iawn ynglŷn â'r pethau y gallwch eu gwneud i fynd i'r afael â'r gwahaniaethu hwnnw ac i gael gwared ar y risg o hynny hefyd. Felly, pan fyddwn yn ffurfioli'r cynllun gweithredu terfynol, byddwn yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy manwl i'r Aelod am y gwaith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â'r materion y mae'n eu codi.