– Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
Dadl y Ceidwadwyr ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar yw hyn, a dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8161 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch heddiw o allu cyflwyno ein cynnig ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar, yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ac wrth agor y ddadl heddiw, hoffwn egluro yn gyntaf nad dadl ar ba mor gywir yw'r rheoliadau 182 diwrnod a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ydyw, ac fel y gwyddoch, ar yr ochr hon i'r meinciau, roeddem yn erbyn cyflwyno'r rheoliadau hyn, ac ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyflwyno cynnig i ddirymu'r Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Diwygio Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a drechwyd wrth gwrs yn y Siambr hon.
Mae ein dadl heddiw yn ymwneud â dryswch ac annhegwch gweithredu'r Gorchymyn hwn, y teimlwn ni ar yr ochr hon i'r meinciau ei fod yn hynod o annheg ac anghyfiawn. Yr hyn y gofynnir amdano ar hyn o bryd yw bod pobl yn dilyn rheolau nad ydynt mewn grym eto. Ni allaf weld hyn yn digwydd mewn unrhyw sefyllfa arall y gallaf feddwl amdani. Felly, gadewch i mi esbonio: fel y gwyddom, o 1 Ebrill 2023, rhaid darparu tystiolaeth fod eiddo wedi bod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod, a'i fod wedi'i osod am o leiaf 182 diwrnod, ac amlinellir hyn ym mhwynt (b) o welliant y Llywodraeth o'n blaenau heddiw. Fodd bynnag, bydd asesiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn seiliedig ar gofnodion ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad hwn, sy'n golygu y bydd busnesau hunanddarpar yn cael, ac wedi cael eu hasesu yn ôl y rheoliadau newydd sy'n dod i rym yn 2023, sy'n dyddio'n ôl i 2022. Felly, bydd yr asesiad yn seiliedig ar rywbeth nad yw'n ofyniad ar hyn o bryd. Yn fy marn i, ac ym marn y meinciau hyn, nid yw'n deg ac yn rhesymol i asesu busnes ar ddata o'r adeg pan nad oes angen iddynt fodloni'r disgwyliadau newydd hyn. Ac rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y pryderon difrifol y mae darparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru yn eu mynegi ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer pennu'r cymhwysedd hwn. Felly, dyna'r mater rydym yn ei drafod yma heddiw—y disgwyliad i fusnesau ddilyn rheolau nad ydynt ar waith ar hyn o bryd.
O ran y cyd-destun ar gyfer hyn, a pham mae'n bwysig cael hyn yn iawn, a pham fod gweithredu'r Gorchymyn hwn ar hyn o bryd mor anghyfiawn, mae'n rhannol oherwydd pwysigrwydd anhygoel y sector hwn i economi Cymru. Fel y gwyddoch, mae'n rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach ar dwristiaeth yr haf hwn yn dangos mai twristiaeth sydd i gyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yng Nghymru—caiff un o bob saith o bobl yng Nghymru eu cyflogi gan y sector. Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn dangos mai twristiaeth sydd i gyfrif am dros 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae'n gwbl eglur fod y sector hwn yn hanfodol i'n gwlad a'n cymunedau lleol yma yng Nghymru.
Ym mhwynt (a) o welliant y Llywodraeth, maent yn dweud eu bod wedi ymgynghori'n eang. Fodd bynnag, rwyf fi yn rhinwedd fy ngwaith fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth, a'r sector llety hunanddarpar a ffigyrau blaenllaw yn y sector twristiaeth, sydd wedi nodi eu dryswch, eu dicter a'u rhwystredigaeth ynghylch gweithredu'r Gorchymyn hwn o'n blaenau, yn ei chael hi'n anodd derbyn hyn yn llawn—eto, disgwyliad y bydd yn rhaid i'r busnesau hyn gydymffurfio â rheolau nad ydynt yn weithredol eto.
Rhan olaf y cynnig heddiw yr hoffwn ganolbwyntio arno yw pwynt (c) o welliant y Llywodraeth, sy'n dweud:
'bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio drwy gydol y flwyddyn.'
Ar yr olwg gyntaf, rwy'n siŵr y gall Aelodau o bob rhan o'r Siambr gytuno â hyn. Ond fel y gwyddom, y prif reswm dros gyflwyno'r rheoliadau hyn oedd er mwyn gwahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar cyfreithlon. Fodd bynnag, gyda'r meini prawf yn cael eu hasesu eleni, cyn i'r rheolau hynny fod ar waith, cyn i'r rheoliadau hynny ddod i rym mewn gwirionedd, byddwn yn gweld set o ganlyniadau wedi'u hystumio, gan nad yw llety hunanddarpar wedi cael amser priodol i gynllunio, addasu eu cynlluniau busnes a sicrhau bod eu busnesau'n cael eu paratoi ar gyfer y newid hwn. Felly, ni fydd yn cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni. Yn ogystal â hyn, fel y gŵyr pawb ohonom yn y Siambr, mae'r ffordd y mae'r busnesau hyn yn cael eu sefydlu, a'r ffordd y mae pobl yn trefnu eu gwyliau yn digwydd ymhell o flaen llaw yn aml—chwech, 12 a mwy o fisoedd ymlaen llaw. Felly, drwy asesu data nawr, cyn i'r rheoliadau ddod yn weithredol, nid yw llety hunanddarpar wedi cael amser i gynllunio, a byddwn yn gweld gwybodaeth wedi'i chamgyfrifo. Eto, ni fydd Llywodraeth Cymru'n gallu cyflawni eu nodau trosfwaol.
Felly, i gloi, Lywydd, mae'n hynod o annheg ac afresymol asesu a barnu llety hunanddarpar yn ôl yr hen reolau pan ddaw'r rheolau newydd i rym fis Ebrill nesaf. Gallai hyn arwain at effeithiau niweidiol ar y sector twristiaeth ac mae'n achosi dryswch yn y sector, sector sydd mor bwysig i'n heconomi ac i'n cymunedau lleol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr yn y ddadl hon, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at gyfraniadau gan bobl sy'n ceisio egluro pam eu bod yn credu bod yr anghyfiawnder hwn yn deg. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf i wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Weinidog yr Economi i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.
b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.
Yn ffurfiol.
Diolch. Rwy'n galw nawr ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Mabon ap Gwynfor.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o ganlyniad i blatfformau fel AirBnB.
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunan-arlwyo gwirioneddol ac eiddo domestig o safbwynt trethi lleol.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n cynnig yn ffurfiol welliant 2, yn enw Siân Gwenllian. Gaf i gychwyn drwy ddiolch i Sam Rowlands am gymryd yr amser i gyflwyno'r cynnig yma, ond nid yn unig i gyflwyno'r cynnig ond hefyd am gymryd ychydig o'r amser sy'n cael ei neilltuo iddo er mwyn rhoi esboniad inni o fyrdwn y cynnig? Mae’n anffodus, wrth gwrs, fod yr ychydig amser sy'n cael ei roi i ddadleuon o’r fath yn gorfod cael ei gymryd er mwyn esbonio beth a olygir yng ngeiriad y cynnig yn hytrach na chyflwyno’r dadleuon o blaid y cynnig.
Dwi’n meddwl ei fod o'n bwysig fy mod i'n nodi yma fy siom ynghylch geiriad y cynnig a pha mor aneglur ydyw. Roedd criw da ohonom oddi fewn grŵp y Blaid ac oddi allan wedi ceisio dehongli y cynnig yma heddiw ac wedi methu â’i ddeall oherwydd yr aneglurder. Dydy cyflwyno cynigion gwael yn gwneud dim ffafrau â’n democratiaeth, ac yn wir mae perig iddo gamarwain yr etholwyr wrth i ni o bleidiau gwahanol ddadlau am bethau gwahanol ar draws pwrpas i'n gilydd.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs, Janet.
Diolch. A wnewch chi ddweud wrth y Siambr a ydych chi wedi cael unrhyw sylwadau ar y mater gan etholwyr sy'n rhedeg y math hwn o fusnes?
Na, allaf i ddim ateb y cwestiwn yna achos dwi ddim yn glir—fe wnaf i aros ichi gael cyfieithiad—allaf i ddim ateb y cwestiwn yna, mae arnaf i ofn, Janet, oherwydd doedd o ddim yn glir ar y pryd beth oedd pwrpas geiriad y cynnig. Doeddwn i ddim yn deall y cynnig, felly allaf i ddim ateb y cwestiwn.
Ond, os ydw i wedi deall yr esboniad sydd wedi cael ei roi, yna mae’r cynnig fel sydd wedi cael ei gyflwyno a'r cynnig y byddwn ni'n pleidleisio arno yn sôn am y flwyddyn anghywir. Mae’r cynnig yn sôn am gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-23, sef eleni, yn hytrach na 2023-24, sef beth ddylai fod yn cael ei gyfeirio ato.
Mae o yr un fath â thrio chwilio am amseroedd trên ar ap Trafnidiaeth Cymru. Dwi ddim yn gwybod os ydych chi wedi sylwi, ond, os dŷch chi’n rhoi’r amser anghywir i mewn, yna mae’r ap yn dweud wrthych chi ei bod yn amhosib bwcio trên sydd eisoes wedi gadael. Cweit reit, hefyd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad bach?
Rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod y gair 'ôl-weithredol' a dyna'r pwynt y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands yn ei wneud. Y sylwadau a gefais gan berchnogion busnes—perchnogion busnes gofidus—yw yn y flwyddyn o'u blaenau, eu bod yn edrych yn ôl ac yn ystyried busnes a gafodd ei effeithio yn ystod COVID. Ac felly mae'n anghyfiawn eu bod nawr—. Yn dechnegol, maent yn torri'r canllawiau newydd, wrth symud ymlaen, ond nid oeddent yn gwybod ar y pryd, ac nid oedd ganddynt opsiwn, oherwydd bod y Llywodraeth hon wedi gosod cyfyngiadau arnynt fel na allent fasnachu mewn gwirionedd.
Diolch i Janet am gymryd yr amser—nid dyna sydd lawr ar y cynnig ac nid dyna fyddwn ni'n pleidleisio arno. Diolch i Janet am hynny. Am y rheswm yna, dylen ni bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, dŷn ni wedi rhoi gwelliant i lawr a dŷn ni wedi trafod y gwelliant o'r blaen, felly wnaf i ddim mynd â'r amser i drafod y gwelliant yna ymhellach heddiw, ond gobeithio y gwnewch chi gefnogi'r gwelliant oherwydd bod y cynnig mor aneglur. Diolch.
Janet Finch-Saunders.
Nid oeddwn i lawr i siarad mewn gwirionedd, ond—[Chwerthin.]
Ydych, rydych chi lawr i siarad, ond os nad ydych eisiau cymryd yr amser—
Na, fe fanteisiaf ar bob cyfle.
Felly, yn y bôn, mae hyn yn llanast, Weinidog. Mae cymaint wedi cysylltu â fi erbyn hyn. Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf weld lle mae'r dryswch yn y cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, ac i fod yn deg, fe wnaeth Sam Rowlands nodi'n huawdl beth oedd sylfeini'r hyn sy'n peri pryder yma. Mae hyn yn annheg, mae'n anghyfiawn, ac ni allwch osod taliadau yn ôl-weithredol ar gyfer cyfnod pan nad oedd gan y perchnogion busnes hynny unrhyw reolaeth dros pryd y gallent agor. Y pryder mawr sydd gennyf yw bod Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym pan ysgrifennwn ati, 'Mae angen ichi fynd at eich awdurdod lleol; gallant roi disgresiwn yn lleol', ond pan awn at yr awdurdod lleol, maent hwy'n dweud wrthym, 'O, mae'n ddrwg gennyf, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Llywodraeth Cymru hefyd sy'n gyfrifol am hynny'. Fel y nodais o'r blaen yn y Siambr hon, mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio gytundeb lefel gwasanaeth gyda Llywodraeth Cymru—neu dylai fod—ac os ydych chi'n caffael gwasanaeth gan yr asiantaeth, yn y pen draw mae gennych chi hawl yma, Weinidog, i allu dweud wrth Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn gwirionedd sut rydych chi am i'r gyfraith hon gael ei chymhwyso. Felly, o'm safbwynt i, mae'n anghyfiawn, mae'n annheg. Hoffwn wneud yn siŵr—[Torri ar draws.] Ie.
A ydych chi'n meddwl ei bod hi'n drueni fod rhaid inni gael y ddadl hon heddiw? Mae'r pethau hyn yn digwydd oherwydd polisi difeddwl a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gadw eu cyfeillion ym Mhlaid Cymru'n hapus.
Wyddoch chi beth, fe ddywedaf hyn. Mae tymor y Nadolig bron â chyrraedd, ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw fy mod i, eleni, wedi fy synnu'n fawr ac wedi fy siomi braidd gan y rhethreg wrth-ymwelwyr, wrth-dwristiaeth. Ac rwy'n dweud nawr, rwy'n cael e-byst o bob rhan o Gymru, gan eich holl etholwyr chi, yn dweud ein bod ni'n iawn, a'ch bod chi'n anghywir.
Gweinidog yr Economi i gyfrannu i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rydym wedi trafod y mater hwn o'r blaen. Ar 27 Ebrill, ymatebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddadl ar drethi a thwristiaeth gan wneud yr holl bwyntiau tebyg hyn, ac ar 6 Gorffennaf, ymatebodd i gynnig i ddirymu'r ddeddfwriaeth dan sylw. Mae'n amlwg fod cefnogaeth fwyafrifol yn y Senedd i'n newid i'r meini prawf a ddefnyddir i ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth leol. Mae'n amlwg hefyd fod angen y newidiadau hyn i helpu i fynd i'r afael â'r problemau a ddaw yn sgil niferoedd yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Mae'r newidiadau hefyd yn mynd i'r afael â sefyllfa lle gallai gosod ail eiddo am ddim ond 10 wythnos y flwyddyn olygu nad yw'r perchennog yn talu unrhyw drethi lleol.
Ar 2 Mawrth, fwy na 12 mis cyn i'r newidiadau ddod i rym yn ymarferol, fe wnaethom gyhoeddi canlyniad ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Ers hynny, rydym wedi nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru ac amseriad newidiadau. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 14 Mehefin. Daw'r newidiadau i rym o ddechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf, pan fydd y meini prawf newydd yn cael eu defnyddio wrth asesu eiddo hunanddarpar ar gyfer y rhestr ardrethi annomestig a gyflawnir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ar hynny o leiaf, mae Janet Finch-Saunders yn iawn. Ni fydd cydymffurfiaeth â'r meini prawf newydd yn cael eu hasesu tan ar ôl mis Ebrill 2023. Mae'r asesiad yn seiliedig ar gofnodion ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad dan sylw. Mae hynny'n golygu y bydd asesiad ar gyfer dyddiad penodol yn 2023 yn ystyried tystiolaeth o'r dyddiad cyfatebol yn 2022 ymlaen. Nid yw'r broses hon yn un newydd. Wrth gymhwyso'r meini prawf newydd, ni fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn tynnu eiddo hunanddarpar o'r rhestr ardrethi annomestig cyn dechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Wrth baratoi'r ddeddfwriaeth, fe wnaethom gymryd sylw o'r holl ystyriaethau amseru perthnasol, gan gynnwys yr angen dybryd i fynd i'r afael â'r problemau sy'n cael eu creu gan y nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Daethom i'r casgliad fod y cyhoeddiad a'r broses o gyhoeddi cynlluniau a deddfwriaeth yn rhoi digon o rybudd i awdurdodau lleol, perchnogion eiddo a rhanddeiliaid eraill baratoi ar gyfer y newidiadau. Cafodd y ddeddfwriaeth ei chraffu gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wrth gwrs, ac ni nododd ei adroddiad unrhyw bwyntiau craffu technegol.
Rydym wedi egluro'r rhesymau y tu ôl i'n penderfyniad i gynyddu'r meini prawf ar gyfer gosod. Bydd yr eiddo dan sylw yn cael ei ystyried yn eiddo annomestig os caiff ei feddiannu at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Os caiff ei osod yn llai aml, bydd y dreth gyngor yn ddyledus arno. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod perchnogion eiddo'n cyfrannu'n deg i'r cymunedau lle mae ganddynt gartrefi neu lle maent yn rhedeg busnesau.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cryfder y teimladau ymhlith gweithredwyr ac wedi gwrando ar sylwadau gan fusnesau unigol a chynrychiolwyr y diwydiant. Rydym yn cydnabod bod rhai mathau o eiddo hunanddarpar wedi'u cyfyngu gan amodau cynllunio sy'n atal meddiannaeth barhaol fel prif breswylfa rhywun. Mae eithriad rhag premiwm treth gyngor eisoes yn cael ei ddarparu ar gyfer un math o amod cynllunio, ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth a fydd yn ymestyn yr eithriad hwnnw i gynnwys amodau cynllunio eraill. Ein bwriad yw bod unrhyw newidiadau yn dod i rym o fis Ebrill 2023, ochr yn ochr â'r trothwyon uwch.
Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ganllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ar opsiynau ychwanegol sydd ar gael os nad yw eiddo hunanddarpar a gyfyngir gan amodau cynllunio yn cyrraedd y trothwyon. Mae'r opsiynau hyn yn cynnwys disgresiwn i leihau neu ddileu'r gyfradd safonol o dreth gyngor sy'n ddyledus ar gyfer eiddo penodol lle bydd yr awdurdod lleol yn ystyried bod hynny'n briodol. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn rhoi camau ar waith ar unwaith i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.
Rydym yn cydnabod—[Torri ar draws.] Rwyf ar fin gorffen. Rydym yn cydnabod bod y rhain yn faterion cymhleth sy'n galw am ymateb amlochrog ac integredig. Ni fydd newidiadau i drethi'n unig yn darparu'r ateb; dyna pam ein bod yn gweithredu pecyn o ymyriadau. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw.
Peter Fox, nawr, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. A gaf fi ddiolch i Sam am gyflwyno'r ddadl? Lywydd, rydym wedi trafod newidiadau Llywodraeth Cymru i ardrethi annomestig ar gyfer llety hunanddarpar yn fanwl yn y Senedd hon, fel y nododd y Gweinidog. Rydym wedi clywed pryderon busnesau ynghylch yr effaith y bydd y trothwy newydd yn ei chael ar ddarparwyr llety hunanddarpar a'u pryderon ynglŷn â sut y bydd hyn yn effeithio ar hyfywedd eu busnesau. Mae'n amlwg iawn, ar yr ochr hon i'r Siambr, fod anghytuno o hyd ynghylch y dull cyffredinol hwn o weithredu, ac mae llawer o ddarparwyr llety ledled y wlad yn gwrthwynebu hyn hefyd.
Fodd bynnag, fel y nododd Sam, mae craidd y ddadl heddiw yn ymwneud â manylion technegol y rheoliadau newydd, yn benodol, y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwysedd i dalu ardrethi busnes yn 2022-23. Fel y nododd Sam Rowlands, mae gweithrediad y Gorchymyn yn anghyfiawn ac yn annheg, fel yr ategodd Janet, ac rwy'n cytuno. Dylai Llywodraeth Cymru feddwl am y pryderon gwirioneddol a fynegwyd gan y darparwyr hunanddarpar. Mae'r Gweinidog yn awgrymu ei fod wedi gwrando ar eu pryderon. Wel, mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb a meddwl mwy am bryderon y diwydiant hwnnw.
Diolchodd Mabon i Sam am egluro manylion y cynnig, ac yn anffodus, bu'n rhaid iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i gyfraniad yn ceisio dehongli beth oedd y cynnig yn ceisio ei ddweud, ac roedd hynny'n drueni. Mae cymaint o bobl wedi cysylltu â Janet ac mae hi wedi bod yn rhoi sylw i'r sefyllfa, fel y gwnaeth Sam ac eraill ers misoedd lawer. Mae perchnogion busnes yn parhau i rannu eu pryderon am annhegwch y broses, a'u pryderon fod yna ymagwedd wrth-ymwelwyr yn parhau i atsain yn y Siambr hon pan fyddwn yn cael y ddadl hon. Fel yr ategodd James, mae'n drueni ein bod yn gorfod cael y ddadl hon am nad yw pobl yn cael eu clywed.
Weinidog, efallai eich bod yn methu pwynt y ddadl hon heddiw. Rydym yn clywed sut rydych chi'n cefnogi'r diwydiant ac yn cefnogi'r darparwyr, ond nid yw'n teimlo felly iddynt hwy. Y gwir amdani yw bod defnyddio'r un trothwyon o 2021-22 fel y sail ar gyfer sefydlu defnydd busnes ar gyfer 2022-23 yn annheg. Mae defnyddio cyfnod pan oedd busnesau ar gau am gyfnodau mor hir oherwydd COVID yn gynhenid anghywir. Nid yw cyfnodau o alw uwch yn y flwyddyn, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud er mwyn cyfiawnhau ei dewisiadau, yn gwneud iawn am y ffaith fod y galw wedi'i gyfyngu ar hyd y flwyddyn.
Fel y dywed Ffederasiwn y Busnesau Bach, o ganlyniad i'r ymatebion i'r pandemig, byddai angen i fusnesau mewn gwahanol gyd-destunau a lleoliadau fod wedi ymateb yn wahanol i'r pandemig ar wahanol adegau, a hyn ar sail eu barn eu hunain ar wahân i'r gyfraith. Mewn rhai cyd-destunau, efallai y byddai wedi bod yn gyfrifol i gadw'r eiddo ar gau, hyd yn oed os oeddent yn cael bod ar agor yn gyfreithiol. Mae'n anghywir cosbi perchennog busnes wedyn am ymddwyn yn gyfrifol mewn pandemig. O'r herwydd, mae angen inni ailfeddwl am y trothwy a defnyddio trothwy o flynyddoedd blaenorol fel ei fod yn fwy teg i fusnesau ac yn dangos yn well yr amgylchiadau arferol y mae darparwyr llety yn gweithredu ynddynt. Mae angen inni wrando arnynt i ddeall yn well beth maent ei angen yn hytrach na gorfodi trothwy mympwyol arnynt.
Wrth gloi, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig gwreiddiol ar y papur trefn sydd o'n blaenau heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac fe fyddwn ni'n symud i'r bleidlais oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch.