1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2022.
4. Sut mae'r Llywodraeth yn helpu i drechu tlodi yn Nwyrain De Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58896
Llywydd, mae dinasyddion yng Nghymru, gan gynnwys Dwyrain De Cymru, wedi elwa yn sgil mentrau fel y taliad costau byw o £150, y cynllun cymorth tanwydd a'n cronfa cymorth dewisol Cymru yn unig. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo'r aelwydydd mwyaf agored i niwed drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch, Prif Weinidog. Ddoe, roedd hi'n bedair blynedd ers i chi ddechrau ar eich swydd yn Brif Weinidog. Yn y cyfnod hwnnw, rydym ni wedi gweld gwelliant i sefyllfa rhai o'n cymunedau—. Nid ydym wedi gweld gwelliant—. Dydw i ddim hyd yn oed yn gallu darllen fy nghwestiwn, mae'n ddrwg gennyf i. Fe wnaf i ddechrau eto. [Chwerthin.] Ie. Yn y cyfnod hwnnw, nid ydym wedi gweld gwelliant i sefyllfa rhai o'n cymunedau tlotaf. A dweud y gwir, mae wedi gwaethygu'n fawr iawn i lawer, ac mae'n debyg y bydd yn dirywio hyd yn oed ymhellach. Wrth ymweld â phobl yn fy rhanbarth i, rwy'n gweld y dirywiad hwn yn uniongyrchol mewn llawer o gymunedau, y mae rhai ohonyn nhw'r cymunedau tlotaf yn y wlad. Mae'n wir mai San Steffan a system nad yw byth yn cydnabod nac yn blaenoriaethu Cymru sydd ar fai am lawer o hyn, ond rydych chi'n dal i ddal gafael ynddi beth bynnag. Ond mae pethau y gallwn ni eu gwneud yma yng Nghymru. Byddai strategaeth wrthdlodi yn ddechrau gwych. Prif Weinidog, pam nad ydych chi wedi rhoi un ar waith yn ystod pedair blynedd ddiwethaf eich arweinyddiaeth i gymryd lle'r strategaeth wrthdlodi a ddiddymwyd gan eich Llywodraeth yn 2017?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn mae'r Aelod yn ei ddweud am y cyfnod caled iawn y mae cynifer o gymunedau yma yng Nghymru yn ei wynebu, yn enwedig dros y gaeaf hwn. Nid yw'r cefndir cyffredinol mor llwm ag y byddai'n ei bortreadu. Atebais gwestiwn yn gynharach y prynhawn yma am y cyfrifiad, ac, os edrychwch chi ar rai o'r ffigurau yn y cyhoeddiadau diweddaraf o'r cyfrifiad, mae'n dangos bod amddifadedd aelwydydd wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru dros y degawd hwnnw. Mae'r cyfrifiad yn dadansoddi amddifadedd o'i gymharu â phedwar maes. Mae'n edrych ar gyflogaeth, addysg, iechyd ac anabledd, a thai. Yn 2011, fe wnaeth 61 y cant o holl aelwydydd Cymru ddioddef o leiaf un o'r pedwar dimensiwn hynny o amddifadedd. Erbyn 2021, roedd hynny wedi gostwng i 54 y cant, ac roedd y gostyngiadau mwyaf mewn rhannau o ranbarth yr Aelod ei hun. Roedd y gostyngiad mwyaf ym Mlaenau Gwent, er enghraifft. Felly, er fy mod i'n cytuno ag ef am yr heriau a wynebir nawr a thros y gaeaf hwn, nid wyf i'n credu ei bod hi'n deg portreadu'r cyfan o'r hyn sydd wedi digwydd, naill ai ers i mi ddod yn Brif Weinidog na chynt, fel methiant i gael effaith gadarnhaol, oherwydd dyna'n union y mae ffigurau'r cyfrifiad yn ei ddangos.
Ac o ran ei bwynt am strategaeth, fe wnaf i ailadrodd yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud lawer gwaith bellach, Llywydd, mai'r hyn yr wyf i eisiau i'n cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a'r rhai rydym ni'n gweithio â nhw ganolbwyntio arnyn nhw yw'r camau ymarferol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau dinasyddion Cymru. Nid yw ysgrifennu strategaethau yn rhywbeth sy'n mynd i roi bwyd ar fwrdd neb na helpu neb i dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn. Byddwn yn cyhoeddi strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd y flwyddyn nesaf, ond, i mi, mewn argyfwng costau byw, beth wyf i'n ei gredu y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud: ysgrifennu mwy o ddogfennau strategaeth neu ddarparu'r banc tanwydd i bob cymuned yng Nghymru; darparu taliad tanwydd y gaeaf, sy'n unigryw yma yng Nghymru; gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu buddsoddi yn y gronfa cymorth dewisol, sydd ar gael yma yng Nghymru yn unig? I mi, mae'n well canolbwyntio gweithredoedd pobl, yr egni sydd gennym ni, yr arian sydd gennym ni, yr amser sydd gennym ni ar gael, ar y pethau ymarferol hynny sy'n gwneud gwahaniaeth, a byddwn yn dod at strategaeth newydd pan fydd anawsterau uniongyrchol y gaeaf hwn wedi dechrau cilio.
Prif Weinidog, yn gyntaf, llongyfarchiadau ar y pedair blynedd, a hoffwn ofyn hefyd: amcangyfrifir bod hyd at 80,000 o bobl yn bensiynwyr tlotach yng Nghymru mewn gwirionedd ac ar eu colled o ran credyd pensiwn, sydd werth hyd at £65 yr wythnos ar gyfartaledd, o'i gymharu â'r rhai sy'n hawlio, a bod dros £200 miliwn yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn. Yn y de-ddwyrain, mae bron i 17,500 o bobl eisoes yn hawlio credyd pensiwn, ond amcangyfrifir nad yw tua chwarter y bobl a allai hawlio'r cymorth ychwanegol yn gwneud hynny. Mae gwaith ymchwil wedi dangos nad yw llawer o bobl yn hawlio gan nad ydyn nhw'n credu eu bod nhw'n gymwys, yn ogystal â'r ffaith eu bod nhw'n amharod i wneud hynny oherwydd yr embaras a'r stigma sy'n gysylltiedig ag ef. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi lansio ymgyrch newydd i hybu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, yn rhan o'u pecyn o fesurau i gynorthwyo pobl â chostau byw. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r ymgyrch hon gan Lywodraeth Geidwadol y DU? A pha gamau ydych chi'n eu cymryd, ochr yn ochr â'r Gweinidogion yma, i wneud pobl hŷn yng Nghymru yn ymwybodol o'u hawliau i hawlio'r cymorth ychwanegol hwn y gallai fod ganddyn nhw hawl iddo, ac yn benodol y rhai nad y Gymraeg neu'r Saesneg yw eu hiaith gyntaf? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y bydd llawer o Aelodau o'r Senedd yn gwybod, fe wnaethom ni greu pwyllgor Cabinet newydd yn ôl ym mis Medi, sydd wedi cyfarfod bob wythnos yn ystod yr hydref hwn, i edrych ar fesurau costau byw. Ddoe, ymunodd Gweinidog y DU dros symudedd cymdeithasol â ni, ac roedd cyfle yno i drafod yr angen i wella'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn am yr holl resymau y mae Natasha Asghar wedi'u crybwyll. Cawsom gyfle i siarad am y camau rydym ni'n eu cymryd fel Llywodraeth, gyda'n hymgyrchoedd manteisio a'n hymgyrch 'gwneud i bob cyswllt gyfrif' dros yr hydref hwn, a sut y gallwn ni ddod â'r camau rydym ni'n eu cymryd, ynghyd â'r cyhoeddusrwydd newydd y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu o ran manteisio ar gredyd pensiwn, ynghyd, fel y gallwn ni gael yr effaith fwyaf posibl yma yng Nghymru. Mae credyd pensiwn yn fudd-dal mor bwysig, Llywydd, gan ei fod yn fudd-dal porth. Mae'n agor y drws i gynifer o bethau eraill y gall pobl eu cael, ac am y rheswm hwnnw rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Bydd unrhyw beth y gallwn ni ei wneud, ar draws y Siambr, i wella'r nifer sy'n manteisio ar y budd-dal hwnnw yma yng Nghymru yn werth chweil o ran amser a gymerir a buddsoddiad a wneir.
Fe wnawn ni ddychwelyd nawr at gwestiwn 3, gan Joel James.
Diolch, Llywydd—mae'n wir ddrwg gennyf i am hynna.