1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogaeth ar gyfer busnesau yng Nghanol De Cymru sy'n methu â chael neu fforddio yswiriant oherwydd risg parhaus o lifogydd? OQ58874
Rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae ein hamcanion ariannu a’n blaenoriaethau strategol i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau a busnesau ledled Cymru wedi’u nodi yn ein strategaeth llifogydd genedlaethol a’r rhaglen lywodraethu.
Diolch, Weinidog. Cwestiwn penodol ydy hwn o ran yswiriant, oherwydd, ar gyfer tai preswyl, mae'r cynllun yswiriant ar gael trwy ardoll ar gwmnïau yswiriant, sef Flood Re. Nid oes cynllun cyfatebol ar gael ar gyfer busnesau, sy'n golygu bod nifer gydag yswiriant costus dros ben neu sy'n methu bellach â chael yswiriant i'w gwarchod rhag llifogydd. Gyda'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod llifogydd yn fwyfwy tebygol, mae nifer o fusnesau yn fy rhanbarth yn hynod o bryderus ac wedi dweud yn glir na fyddant yn medru fforddio ailagor os byddant yn dioddef llifogydd unwaith eto. Felly, eisiau holi oeddwn i os oedd yna unrhyw drafodaethau wedi bod o ran creu cynllun cyfatebol i Flood Re ar gyfer busnesau, ac, os nad oes yna drafodaethau eto, a fyddai'r Gweinidog yn ymrwymo i ymchwilio mewn i hynny?
Rwy’n fwy na pharod i gael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ynghylch yswiriant i fusnesau, gan y deallaf hefyd fod Flood Re, a ddatblygwyd ar y cyd â Chymdeithas Yswirwyr Prydain, yn berthnasol i eiddo domestig yn unig; nid yw’n cynnwys busnesau. Felly, rwy’n fwy na pharod i wneud fel yr awgryma'r Aelod, ynglŷn â'r sgyrsiau parhaus a lle rhagwelir cynllun i helpu i gynnig yswiriant i fusnesau yn hytrach nag aelwydydd. Felly, byddaf yn mynd ar drywydd hynny fy hun gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ac yn adrodd yn ôl.
Weinidog, fel y gwyddom, mae chwyddiant yn cael effaith andwyol ar bob cyllideb, ac nid yw arian a ddyrennir i helpu i leihau effaith llifogydd ac erydu arfordirol yn eithriad. O ystyried bod cost deunyddiau a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi codi'n sylweddol, mae cyllidebau'n mynd i fod dan bwysau, ac mae'n bwysicach nag erioed bellach fod arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon. A gaf fi ofyn, felly, pa sgyrsiau a gawsoch gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig i sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal i ganfod a yw'r cyllidebau a ddyrennir i helpu i atal llifogydd ac erydu arfordirol nid yn unig yn darparu gwerth am arian ac yn cael eu defnyddio'n effeithlon, ond eu bod hefyd yn diwallu anghenion y rheini sydd eu hangen?
Gallaf gadarnhau bod y sgyrsiau hynny'n digwydd a bod hyn yn bryder gwirioneddol i Lywodraeth Cymru. Fe welwch, yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gennym ddoe, realiti'r ffordd rydym yn cydbwyso'r gyllideb gyfan. Ac mae gwerth cymharol cyllideb Llywodraeth Cymru wedi gostwng yn sylweddol gan fod realiti chwyddiant yn y broses honno o flaenoriaethu yn golygu edrych ar y ddau bwynt a wnewch ynghylch gwerth am arian yn y cynlluniau sydd ar gael, yr effeithiolrwydd a'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, a pha mor bell y gall ein harian ymestyn wrth ddarparu mesurau amddiffyn rhag llifogydd digonol. Mae hefyd yn atgyfnerthu'r camau eraill rydym yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o heriau ac achosion llifogydd yn ogystal â'r cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd y sonioch chi amdanynt.