2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o sefydlu ysgol feddygol Bangor? OQ58869
Mae’r niferoedd a fydd yn cael eu derbyn i ysgol feddygol Bangor wedi cael eu cytuno, ac mae’r cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 140 o fyfyrwyr bob blwyddyn, pan fydd yr ysgol wedi cyrraedd y capasiti uchaf. Cafodd llythyr o sicrwydd ei anfon at gydweithwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Tachwedd er mwyn caniatáu i Brifysgol Bangor barhau i symud ymlaen drwy'r broses achredu—accreditation. Diolch.
Da iawn, ac mae'n dda gweld y cynllun yma'n datblygu. Ond, hoffwn i wybod a oes yna unrhyw waith pellach ar y gweill er mwyn sicrhau bod y ganran angenrheidiol o ddarpar feddygon, sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg, yn mynychu'r ysgol feddygol? Fe gyhoeddwyd cynllun newydd ar gyfer 'Mwy na Geiriau', a hoffwn wybod sut mae'r themâu sydd yn y cynllun hwnnw yn cael eu rhoi ar waith ym Mangor, yn benodol, y thema cynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog yfory.
Hoffwn i ofyn hefyd—glywsoch chi fi ddoe yn holi'r Prif Weinidog—am bosibiliadau datblygu Bangor yn hwb hyfforddiant iechyd a meddygol, gan gyfeirio at ddysgu deintyddiaeth a fferylliaeth fel pynciau gradd. O ran deintyddiaeth, dim ond un ysgol ddeintyddol sydd yna yng Nghymru. Onid oes angen un arall? Ac onid Bangor ydy'r lle hollol amlwg i sefydlu'r ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru, o gofio'r arbenigedd iechyd a meddygol sydd yn prysur ddatblygu yno?
Diolch yn fawr. Wel, a gaf i ddweud fy mod i'n hapus iawn fy mod i wedi cwrdd â Proffesor Mike Larvin yn ddiweddar, jest i sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen gyda datblygiadau yn y brifysgol? Rŷn ni'n ymwybodol iawn fod angen inni dalu sylw i faint o recriwtio sy'n mynd i fod o ran y niferoedd sy'n siarad Cymaeg, a dwi'n gwybod bod ffocws arbennig wedi cael ei roi ar hynny, ac mae yna waith yn cael ei wneud ar hynny ar hyn o bryd. Felly, dwi'n falch i ddweud fod hynny'n rhywbeth maen nhw'n ei gymryd o ddifrif.
O ran deintyddiaeth, dwi'n siwr y clywsoch chi'r Prif Weinidog yn sôn ddoe am y ffaith ein bod ni'n keen iawn i edrych ar y tîm, a dwi'n meddwl bod rhaid inni ddechrau gyda'r tîm a sicrhau ein bod ni'n cynyddu'r niferoedd sydd, er enghraifft, yn therapyddion deintyddol. Rŷn ni yn mynd i weld cynnydd yn hynny. Rŷn ni wedi gweld hynny yn y gorffennol, ond dwi wedi rhoi pwysau ar HEIW i sicrhau ein bod ni'n mynd hyd yn oed ymhellach. I fi, hwnna yw'r peth pwysicaf. Mae'n rhaid inni ddechrau troi'r system ar ei phen a gweithio gyda phobl sydd yn therapyddion deintyddol, ac, felly, bydden i eisiau gweld hynny'n gam cyntaf, ac, wedyn, yn y dyfodol, gallwn ni edrych ar ddeintyddiaeth ymhellach.
Rwy'n falch o weld y cwestiwn hwn yn cael ei godi'r prynhawn yma, oherwydd, pan fydd y Llywodraeth yn llwyddo i gyflawni'r peth, yn hytrach na dim ond siarad amdano, rwy'n siŵr y bydd yn cael sgil-effeithiau cadarnhaol i bobl ledled gogledd Cymru sy'n dyheu am gael gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn mynd rywfaint o'r ffordd i wella'r problemau recriwtio a chadw staff sy'n ein hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.
Nawr, yr wythnos diwethaf, gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ymwelais â'r ysgol nyrsio a bydwreigiaeth ym Mhrifysgol De Cymru ym Mhontypridd, ac mae ganddynt wardiau efelychu o'r radd flaenaf sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer mewn amgylchedd ffug, i feithrin eu sgiliau a'u hyder cyn cael eu cyflwyno i sefyllfaoedd go iawn. Ond fel gyda llawer o bethau dan y Llywodraeth Lafur hon, nid oes gan ogledd Cymru ddigon o'r hyn sydd gan dde Cymru. Felly, a allai'r Gweinidog amlinellu ychydig mwy o fanylion am union fanylebau'r ysgol feddygol ym Mangor, ac a fydd myfyrwyr gogledd Cymru yn cael yr un cyfleoedd â'r rhai yn y de, fel ein bod mor barod ag y gallem fod i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i'r bobl sydd ei angen fwyaf a sicrhau nad yw pobl gogledd Cymru'n cael eu gadael ar ôl? Diolch.
Diolch. Wel, rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall, mewn gwirionedd, ein bod yn awyddus iawn i gael hyn ar y gweill cyn gynted â phosibl. Rydym yn ymwybodol iawn fod angen inni gynyddu niferoedd y bobl sy'n hyfforddi i fod yn feddygon, ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni weithio o fewn y cyfyngderau sy'n cael eu gosod gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Felly, nid ein lle ni yw dweud 'Iawn, dewch ag ef'; mae'n rhaid inni weithio gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, sy'n rhoi caniatâd i'r brifysgol symud ymlaen. Yr hyn sy'n dda i'w glywed, rwy'n meddwl, yw bod tîm o 13 aelod o staff ar draws timau meddygol a gwyddoniaeth eisoes wedi cael eu recriwtio, ac mae 6.6 o'r rhain yn staff amser llawn.
Rwy'n credu ei bod yn annheg dweud mai dim ond yn ne Cymru y mae pethau. Rwy'n gwybod bod y Llywydd a minnau wedi ymweld â'r ganolfan hyfforddiant nyrsio newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, ac roedd ganddynt hwy fannau efelychu hefyd, yn sicr. Yn amlwg, bydd rhaid aros i weld sut mae pethau'n datblygu yn yr ysgol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod cyfyngiadau cyfalaf yn dynn iawn ar hyn o bryd. Felly, ar hyn o bryd, fe gawn weld, wrth i bethau barhau, sut mae pethau'n datblygu. Erbyn inni gyrraedd y cohort llawn o niferoedd, rwy'n gobeithio y bydd gennym Lywodraeth Lafur a fydd yn gallu rhoi mwy o arian i mewn i'r system.