– Senedd Cymru am 6:01 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Bydd gennym ni ddadl fer hefyd yn awr, ac mae'n siŵr y gwnaiff bawb adael yn dawel.
Gall Aelodau adael yn dawel gan ein bod yn dal i drafod yma, ac fe alwaf ar Jack Sargeant i gyflwyno ei ddadl fer, ac i ddechrau dadl olaf 2022. Draw atoch chi, Jack.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n falch iawn i gael y cyfle i ddod â'r ddadl bwysig yma i'r Senedd heddiw.
Lywydd, wrth agor y ddadl heddiw, cytunais i roi munud o fy amser yn nadl olaf y Senedd y tymor hwn i Rhun ap Iorwerth. Lywydd, cyflwynais y ddadl hon, o dan y teitl 'Gwasanaeth Bancio yn Gymraeg', yn dilyn mater a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan etholwr i mi yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Roeddent wedi penderfynu cofrestru cyfrif banc ar-lein ar gyfer eu plentyn newydd-anedig. Penderfynasant gofrestru'r cyfrif gyda grŵp bancio Halifax. Er mwyn gwneud hynny, roedd yn rhaid iddynt uwchlwytho tystysgrif geni. Dyma lle dechreuodd y problemau. Mae dwy ochr i dystysgrifau geni a gyhoeddir yng Nghymru. Nid oedd gwefan Halifax, sy'n rhan o grŵp bancio Lloyds, ond yn caniatáu ar gyfer uwchlwytho tystysgrif un ochr. Wel, beth oedd hyn yn ei olygu? Golygai mai 'na' oedd yr ateb gan Halifax. Ni fyddent yn caniatáu i dystysgrifau geni dwyieithog Cymraeg gael eu huwchlwytho. Roedd eu system yn glir. Dim ond tystysgrifau geni Saesneg a ganiateid. Yr ateb a roddwyd i fy etholwyr, Lywydd, oedd, 'Teithiwch i'ch cangen agosaf yn lle hynny.' Wel, mae hyn yn codi materion difrifol sy'n peri pryder i mi, ac rwy'n siŵr, i lawer o Aelodau'r Siambr heddiw. Rydym yn ffyrnig o falch o fod yn genedl ddwyieithog, ac mae i ddarparwyr gwasanaethau ariannol beidio â chaniatáu tystysgrifau geni dwyieithog yn rhywbeth na allwn ei dderbyn. Nawr, rwy'n falch imi gael cadarnhad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, mewn llythyr ataf ddoe, fod Halifax, rhan o grŵp bancio Lloyds, yn sgil cyflwyno'r cynnig hwn, wedi, ac rwy'n dyfynnu:
'cwblhau'r gwaith i ganiatáu i hyn ddigwydd yn ddiweddar'.
Yn amlwg, rwy'n falch iawn, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n falch hefyd, fod y camau hynny wedi'u cymryd. Ond yn syml iawn, ni ddylai fod wedi cymryd dadl Senedd i unioni'r mater. Ond Lywydd, mae hefyd yn codi mater cau banciau. Ledled Cymru, mae banciau wedi cau canghennau, gan honni bod modd cael mynediad at bob gwasanaeth ar-lein. Ond nid yw hynny'n wir. Rydym wedi profi hynny'n barod heddiw. Ond mae hefyd yn wir fod trefi cyfan wedi colli darpariaeth bancio'n llwyr, yn aml er gwaethaf ymgyrchu cymunedol. Ym Mwcle, yn fy etholaeth fy hun, rydym wedi gweld pob un banc yn cau. Ac ar adeg cau'r banc olaf, lansiwyd deiseb gan gynghorydd tref lleol, Carolyn Preece, a aeth yn feirol ledled Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, gyda degau o filoedd o bobl yn ei llofnodi, yn galw ar fanciau i wrando ar bobl yn eu cymunedau lleol a darparu'r gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom eu hangen. Ac yn fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, rwy'n parhau i weithio i agor banc cymunedol cyntaf Cymru ym Mwcle. Diffyg ymatebolrwydd gan fanciau manwerthu ar y stryd fawr i gymunedau lleol fel Bwcle yn fy etholaeth, fel llawer ar draws ein holl etholaethau, sy'n llywio fy ngwaith yn y maes yn rhannol. Rwyf eisiau ei roi fel hyn: rydym wedi cael cam gan fanciau'r stryd fawr, ac mae'r methiant i barchu'r Gymraeg, fel rydym wedi'i ddangos heddiw, yn un o nifer fawr o enghreifftiau.
Lywydd, wrth gwrs y byddai banc cymunedol yn wahanol, ac rwy'n siŵr, pe baech chi'n siarad â Banc Cambria yn yr wythnosau nesaf, byddent yn dweud wrthych pa mor bwysig yw'r Gymraeg iddynt. Ond yn y cyfamser, Lywydd, rwyf eisiau apelio ar bob banc stryd fawr yng Nghymru i fod o ddifrif ynghylch y Gymraeg, i fod o ddifrif ynghylch ein pobl leol a'n cymunedau lleol.
Fel y dywedodd y Llywydd, dyma'r darn olaf o fusnes y Senedd yn y Siambr yn 2022, ac wrth gwrs, roeddwn am daflu goleuni heddiw ar y ffaith nad yw gwasanaethau bancio cystal ag y dylent fod. Wrth gwrs, roeddwn eisiau tynnu sylw at bwysigrwydd Banc Cambria a banc cymunedol Cymru, ond wrth gwrs, roeddwn hefyd eisiau dymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bob un ohonoch, yr holl Aelodau yma a'r rheini sy'n gweithio yn ein Senedd, ond os caf, Lywydd, rwyf am gyfeirio'n ôl at fy nghyfraniad diwethaf yn nhymor y Senedd ar gyfer 2019 drwy ddatgan eto: y cyfan rwyf ei eisiau ar gyfer y Nadolig yw banc ym Mwcle.
Da iawn. Rhun ap Iorwerth.
O, nid wyf i fod i wneud sylwadau ar areithiau'r Aelodau, ond fe dorrais reol yno. Da iawn, Jack. Rhun ap Iorwerth.
Gaf i ddiolch i Jack am gyflwyno'r ddadl fer heddiw yma? Dwi am fynd â chi nôl yn fyr ryw 30 o flynyddoedd. Roeddwn i'n gadeirydd cangen Prifysgol Cymru o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a ches i fy ngwahodd i fod yn rhan o ddirprwyaeth i fynd i bencadlys Barclays yng Nghymru, ar Queen Street yng Nghaerdydd, i lobïo am allu cael opsiwn Cymraeg ar cash points. Roedd cash points eu hunain yn reit newydd ar y pryd, a Saesneg yn unig oedden nhw. Fe'i eglurwyd wrthym ni fod y banc yn cefnogi'r egwyddor ond bod yna rwystrau technolegol ar y pryd iddyn nhw allu cyflwyno dewis Cymraeg. Wrth gwrs, mi gawson ni cash points Cymraeg yn y pen draw, a dyna fuddugoliaeth fach arall yn hanes yr ymgyrch iaith, Ond, dyma ni 30 mlynedd yn ddiweddarach ac rydyn ni'n dal yn clywed am rwystrau technolegol i wneud rhannau cwbl sylfaenol o wasanaethau bancio yn ddwyieithog. Mae ein canghennau ni yn cael eu cau mewn trefi ym mhob cwr o Gymru, fel y clywon ni gan Jack, canghennau lle roedd pobl hyd yn oed cyn cash points Cymraeg wedi gallu mwynhau gwasanaeth Cymraeg yn gwbl naturiol gan staff dwyieithog ers blynyddoedd lawer. Ond wrth i'r canghennau gau, rydyn ni'n cael ein hannog i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ond dydy'r rheini yn dal ddim ar gael yn Gymraeg. Dwi'n defnyddio bancio ar-lein yn ddyddiol, mae'n siŵr, a hynny yn gyfan gwbl yn Saesneg, a dydy o ddim yn dderbyniol. Mae bancio a gwasanaethau ariannol yn un o'r gwasanaethau cwbl sylfaenol yna, felly dowch, fanciau, a chwaraewch eich rhan chi yn cefnogi ac annog dwyieithrwydd.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ariannol a digidol yn flaenoriaeth ac yn hollbwysig i mi.
Mae fy ffocws yn llwyr ar sicrhau cydraddoldeb mynediad i holl bobl Cymru ni waeth beth yw eu sefyllfa ddaearyddol, ddiwylliannol a phersonol. Diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl, ac rwy'n croesawu ffocws y ddadl ar wasanaethau bancio yn Gymraeg a'n huchelgais i wneud Cymru'n genedl wirioneddol ddwyieithog.
Ond wrth gwrs, nid yw'r cyfrifoldeb dros ein gwasanaethau ariannol yn y DU, gan gynnwys bancio, wedi cael ei ddatganoli i'r Senedd. Felly, ni all Llywodraeth Cymru sicrhau argaeledd banciau, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r rhai sy'n gallu gwneud hynny. Ac ar y mater penodol hwn, mae'n rhaid inni droi at Gomisiynydd y Gymraeg, sydd â chyfrifoldeb i weithio gyda'r sector bancio yng Nghymru a'u hannog i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth i ddatblygu technoleg addas i'w helpu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Felly, mae'n siomedig iawn clywed am y sefyllfa hon a effeithiodd ar eich etholwr. Am sefyllfa ofnadwy gyda'r babi newydd-anedig yng Nghymru, a'r ffaith nad oedd y system TG a ddefnyddiwyd gan Halifax yn cefnogi'r gwasanaeth ar-lein cwbl ddwyieithog hwnnw. Ac mae'n dangos y pryderon rydych chi a phob un ohonom a Llywodraeth Cymru yn eu rhannu nad yw bancio ar-lein yn gwneud y tro yn lle cangen mewn adeilad chwaith. Ond rydych chi wedi cael effaith yn barod—mae'r Aelod wedi cael effaith enfawr drwy gael ymateb gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, felly mae honno'n fuddugoliaeth go iawn o ran eich dylanwad a rôl y Senedd hon, a'n Haelodau o'r Senedd, ac yn enwedig Jack Sargeant, byddwn i'n dweud, mewn perthynas â'r mater hwn.
Mae yna straeon cadarnhaol yn dod o'r sector bancio. Er enghraifft, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cydweithio â Santander i lansio peiriannau ATM newydd sy'n cofio dewis iaith defnyddwyr, a hefyd mae gan Lywodraeth Cymru swyddogion busnes sy'n cynorthwyo busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae gennym linell gymorth sy'n cael ei lansio yn ystod y misoedd nesaf i gynnig cymorth i fusnesau a darparu gwasanaeth cyfieithu am ddim, ac fe fydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i fusnesau drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Hefyd, mae gwaith arbrofol yn cael ei wneud ym maes technoleg i'w gwneud hi'n haws i sefydliadau o bob math wybod a yw eu systemau TG yn gallu darparu gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog o safon. Ac rwy'n credu bod sylwadau Rhun ap Iorwerth ar hyn mewn perthynas â bancio ar-lein yn bwysig ac yn berthnasol. Ond wrth gwrs, mae angen arweiniad technegol manwl arnoch yn aml ac mae angen manylebau arnoch wrth lunio systemau cyfrifiadurol, ac mae camau i drin y Gymraeg yn gyfartal wedi'u hymgorffori yn y gwaith hwn, ynghyd â chydnabyddiaeth fod cynifer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru eisiau cyflawni gweithgareddau hanfodol drwy gyfrwng yr iaith ddewisol ac yn ddwyieithog.
Hefyd, nid yw bodolaeth gwasanaethau a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gwarantu y bydd pobl yn manteisio arnynt. Mae'r dystiolaeth ar ddefnydd siaradwyr Cymraeg o wasanaethau dwyieithog yn awgrymu y gall nifer y bobl sy'n manteisio ar wasanaethau Cymraeg gael ei ddylanwadu gan ystod o ffactorau, gan gynnwys hygyrchedd, amlygrwydd y gwasanaeth, canfyddiadau siaradwyr, ansawdd y ddarpariaeth, ymhlith ffactorau eraill. Felly, mae ein ffocws ar ddarpariaeth ddwyieithog yn cynnwys darparu'r gwasanaethau arloesol hynny, fel hybiau bancio a rennir a'n cynlluniau ar gyfer banc cymunedol, sy'n rhoi cyfleoedd i bobl gael eu gwasanaethau bancio yng Nghymru. Ond mae'n rhaid inni ddweud, o'r ddadl hon heddiw, a gyflwynwyd gan Jack Sargeant, rwy'n annog banciau o bob math yn gryf i fod yn llefydd croesawgar a chalonogol ar gyfer ymarfer a magu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
Felly, rwyf am droi'n fyr at y pwynt allweddol am ein banc cymunedol a rhoi diweddariad bach. Hoffwn ddiolch yn fawr i Jack Sargeant am y rôl y mae wedi'i chwarae yn cyflwyno Banc Cambria gyda'i uchelgais i leoli cyfleusterau banc cymunedol yn yr etholaeth. Ac rwyf am ddweud, os byddwn yn cyfarfod eto yr adeg hon y flwyddyn nesaf gyda dadl debyg, gadewch inni obeithio y byddwch wedi cael eich banc ym Mwcle yn anrheg Nadolig. Ond mae cymaint o gymunedau ledled Cymru sy'n aros am y banc cymunedol hwn ac sydd eisiau cyflawni'r gweithgareddau dydd i ddydd hynny drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf, y Gymraeg. Bydd hon yn agwedd bwysig iawn ar y banc cymunedol. Bydd yn darparu cyfleoedd i gael gwasanaethau bancio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhan hanfodol o'n dyheadau i gael banc cymunedol yng Nghymru yw sicrhau eu bod yn seiliedig ar werthoedd cyffredin, ac mae'n cynnig cyfle i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Nid wyf yn credu bod hyn wedi'i amlygu ddigon yn ein trafodaethau a'n cwestiynau am y banc cymunedol. Gall ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb a digidol hygyrch i gwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sector allweddol o'r economi, gan gynnig cyflogaeth ar yr un pryd, a chyfrannu at darged strategaeth y Gymraeg o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Felly, mae yna gynnig masnachol nawr ar gyfer sefydlu'r banc cymunedol hwn. Mae'n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Maent wedi gwneud gwaith manwl dros y misoedd diwethaf—cyfarfûm â hwy yn ddiweddar—i lywio eu strategaeth leoli. Un elfen allweddol o'u hystyriaethau oedd yr iaith Gymraeg, ac mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn parchu'r ffaith bod hwn yn gynnig masnachol sy'n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, gyda chymorth gan Cambria Cydfuddiannol Cyf. Felly, nid oes manylion pellach wedi cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion penodol y cynlluniau eto, ond rydym yn gobeithio cael y rheini yn y dyfodol agos. Ac yn wir, ysgrifennodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, at Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn ddiweddar, yn amlinellu pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg i ddyheadau Llywodraeth Cymru i gael banc cymunedol yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i greu banc cymunedol yng Nghymru a datblygiad model ariannol cynhwysol a chydfuddiannol sy'n gwasanaethu pobl Cymru.
Ac o ran mynediad at arian parod, rwy'n croesawu'r ymyrraeth gan Link a Swyddfa'r Post i gyflwyno hybiau bancio ar y cyd. A nodwyd bod hynny'n angenrheidiol yn sgil colli banciau'r stryd fawr ledled Cymru, ac mae wedi cael sylw mynych yn y Siambr hon.
Felly, gan weithio gyda phartneriaid allweddol ar draws y sector bancio, mae Cymru'n cefnogi cyfuniad o fentrau arloesol, amrywiol a chynhwysol a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i gynyddu mynediad at wasanaeth bancio gwirioneddol ddwyieithog ar gyfer holl bobl Cymru. Ac mae dod o hyd i'r ateb gorau, ateb dwyieithog sydd wedi'i deilwra, yn ganolog i'r gwaith hynod bwysig hwn.
A—
—Nadolig Llawen i chi i gyd.
Nadolig Llawen, Jack Sargeant—fe gewch eich banc yn ôl ym Mwcle. Diolch.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
A dyna ddiwedd ar ddadl bancio'r Nadolig. Edrychwn ymlaen at fersiwn y flwyddyn nesaf. Ac fe fyddwn i gyd yno ym Mwcle ar gyfer agoriad y banc hwnnw.
Nadolig Llawen i chi i gyd. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.