Gwella Bioamrywiaeth Afonydd

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru? OQ58924

Photo of Julie James Julie James Labour 1:30, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru drwy fynd i’r afael ag ansawdd dŵr gwael. Mae hyn yn cynnwys lleihau llygredd ffosffad a gwella cynefinoedd afonydd ar gyfer pysgod mudol drwy brosiect Pedair Afon LIFE. Yn dilyn yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth, rwyf hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi atebion ar raddfa dalgylchoedd i ysgogi gwelliannau yn ansawdd dŵr.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn, byddai’n well imi ddatgan buddiant yma fel hyrwyddwr yr eog, ond mae cysylltiad annatod rhwng problemau llygredd a bioamrywiaeth yn ein hafonydd, ac mae achosion llygredd yn ein hafonydd yn niferus a bydd angen nifer o ddulliau gweithredu cydgysylltiedig i ddatrys y broblem, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog am i dasglu gwella ansawdd afonydd Cymru ddatblygu'r dulliau hynny. Mae llygredd amaethyddol o nitradau a slyri ffo, gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol a phibwaith o oes Fictoria yn gollwng elifion yn gyson bellach, yn ddyddiol, wrth inni wynebu ymchwydd stormydd cynyddol, a ffosffadau o brosiectau adeiladu a reolir yn wael a mwy. Mae pob afon a chwrs dŵr yn wahanol, ac mae'n rhaid i bob pecyn o atebion fod yn wahanol hefyd. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi sut a phryd y byddwch yn diweddaru'r Senedd yn rheolaidd ar gynnydd yn unol â Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, ond hefyd, ac yn benodol, sut y byddwch yn gweithio gyda, ac yn y pen draw, yn gorfodi, pob rhanddeiliad i chwarae eu rhan o ran ymdrech a buddsoddiad yn y broses o lanhau ein hafonydd a’n dalgylchoedd afonydd, gan adfer cyfoeth ein bioamrywiaeth, yn cynnwys yr eog a’r sewin, y mae'r ddau ohonom yn hyrwyddwyr ar eu rhan yma yn y Senedd?

Photo of Julie James Julie James Labour 1:31, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Dylwn ddweud hefyd, wrth gwrs, mai fi yw hyrwyddwr yr wystrys brodorol, sydd angen dŵr glân, da i allu ffynnu hefyd. Mae’n gwestiwn pwysig iawn, Huw, a diolch am ei ofyn. Fel y gwyddoch, sefydlwyd tasglu gwella ansawdd afonydd Cymru i werthuso’r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Mae Llywodraeth Cymru, CNC, cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid y diwydiant yn rhoi cyngor annibynnol i’r tasglu ac yn cynnig mewnwelediad. Yn ôl ym mis Gorffennaf, fe wnaethant gyhoeddi cynllun ar gyfer gorlifoedd stormydd yng Nghymru, yn nodi amcanion clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reoli gorlifoedd yn y tymor byr iawn i'r tymor hwy. Ac fel rydych wedi'i nodi hefyd, mae'r tri chynllun rheoli basn afonydd yng Nghymru, a luniwyd o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, bellach wedi'u cyhoeddi, sy'n dangos y cynnydd a wnaed ar wella ansawdd dŵr ledled Cymru.

Ond mae llawer o resymau pam nad yw rhai o’n hafonydd yn cyflawni statws da, ac maent wedi’u hamlinellu yn y cynlluniau, ynghyd â’r camau y mae angen eu cymryd i wrthdroi’r dirywiad. Ac fel y dywedwch yn gwbl briodol, mae angen i bawb sydd ynghlwm wrth hyn chwarae eu rhan. Ac rwy’n gwbl benderfynol, drwy fforymau fel fforwm rheoli dŵr Cymru, y grŵp goruchwylio afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig a'r tasglu gwella ansawdd afonydd, y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld.

O ran sut y gallwn eu gorfodi, gŵyr pob un ohonom nad oes un mesur unigol a fydd yn datrys y broblem hon. Cynhaliodd y Prif Weinidog uwchgynhadledd, fel y gwyddoch, yn ôl yn yr haf, a bydd uwchgynhadledd ddilynol yn cael ei chynnal ym mis Chwefror. Fe wnaethom ofyn i bob sector roi’r gorau i bwyntio bys at y sectorau eraill a meddwl am yr hyn y byddent hwy fel sector yn gallu ei wneud i ddatrys eu rhan hwy o’r broblem. Pan fyddwn yn gwybod beth ydynt, gallwn roi mesurau ar waith i sicrhau y gall y sectorau wneud yr hyn y maent wedi derbyn a deall y gallant ei wneud. Ac yna, bydd gennym gynllun gweithredu y byddaf yn diweddaru’r Senedd arno’n rheolaidd ac y gallwn ei ddefnyddio i roi pwysau ar bobl—arnom ni ein hunain a CNC, ond hefyd ar bob sector arall yng Nghymru sy’n achosi’r broblem hon.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 1:34, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Weinidog, er y camau breision a gymerwyd i lanhau ein hafonydd dros y degawdau diwethaf, llygredd yw’r bygythiad mwyaf i fioamrywiaeth o hyd. Hoffwn dynnu sylw at y broblem benodol ar afon Tawe. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad yw’r gwaith i atal carthion heb eu trin rhag cael eu gollwng yn rheolaidd i mewn i afon Tawe o waith trin dŵr gwastraff Trebanos yn ne Cymru yn debygol o gael ei gwblhau tan 2030. Mae hyn yn annerbyniol, yn enwedig o ystyried bod Dŵr Cymru wedi enwi gweithfeydd Trebanos yn rhif 1 ar eu rhestr o'r 50 safle problemus gwaethaf i'r cwmni yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyfartaledd blynyddol o 3,500 awr o garthion heb eu trin wedi'u gollwng i afon Tawe o safle Trebanos. Weinidog, ni allwn aros saith neu wyth mlynedd arall i'r broblem hon gael ei datrys. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i’r afon hon cyn gynted â phosibl? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 1:35, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch. Yn amlwg, hoffem gyrraedd y pwynt lle nad oes carthion heb eu trin yn mynd i mewn i'r afonydd. Mae angen buddsoddiad enfawr arnom, nid yn unig yn y safle y sonioch chi amdano, ond mewn safleoedd ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cael trafodaethau gydag Ofwat a Llywodraeth y DU ynglŷn â'r adolygiad pris dŵr ar gyfer cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac wrth gwrs, ledled y DU gyfan. Bydd yr adolygiad pris hwnnw'n pennu lefel y buddsoddiad y gallant ei wneud, ac yn cyflymu'r rhaglen fel yr hoffem ei weld. Felly, yn gyfnewid, hoffwn ofyn i chi sicrhau eich bod yn ychwanegu eich llais at ein llais ni fel Llywodraeth Cymru i Ofwat, i sicrhau bod yr adolygiad pris yn cynnwys gallu cwmni nid-er-elw fel Dŵr Cymru i fuddsoddi ar y lefel yr hoffai fuddsoddi, oherwydd, yn yr adolygiad pris diwethaf, roedd gennym broblem wirioneddol am nad ystyriodd Ofwat y ffaith nad oedd yn gwmni wedi'i gyfyngu gan gyfranddaliadau, ac mae hynny wedi cael effaith ar y gallu i fuddsoddi.

Rwy’n sicr yn cael cyfarfodydd rheolaidd â’r cwmnïau dŵr, ac rwy’n sicr yn gofyn iddynt drwy’r amser i gyflymu eu cynlluniau, ond mae'r cyfan yn dibynnu ar yr adolygiad pris dŵr. Felly, mae angen inni weithio gyda'n gilydd ac ychwanegu ein llais at hynny i sicrhau bod y mecanwaith pris yn caniatáu'r buddsoddiad rydym am ei weld, ac yn wir, nid yn unig y buddsoddiad, ond cyflymu'r buddsoddiad y byddai pob un ohonom yn dymuno'i weld.