2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 11 Ionawr 2023.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â minnau am y gostyngiad yn y defnydd o'r Gymraeg yn yr adroddiad a ddisgrifiwyd yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021. Yn eich ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan ar y pwnc cyn y Nadolig, dywedaist ti fod rhai ffynonellau data yn dangos cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg, tra bod eraill, gan gynnwys y cyfrifiad, yn dangos gostyngiad. Mae'r anghysondeb yma yn y data yn broblem oherwydd mae angen gwybodaeth gywir i wneud penderfyniadau da am ddyfodol yr iaith.
Yn meddwl am hynny, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod eu holl ddulliau o gasglu data yn gywir ac yn gyson, ac ar ba ddata y dylem farnu llwyddiant polisi 'Cymraeg 2050'?
Cwestiwn pwysig iawn, os caf ddweud hynny. Mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, yn benodol ymhlith plant ysgol pump i 15 oed, ac mae hynny, wrth gwrs, yn destun pryder. Ond, fel mae'r Aelod yn ei ddweud yn ei gwestiwn, nid dyna'r unig ffynhonnell sydd gennym ni. Mae arolwg blynyddol y boblogaeth yn dangos bod cynnydd wedi bod dros yr un cyfnod, a dyna'r tro cyntaf i'r ddwy ffynhonnell, dros yr un cyfnod, ddangos cyfeiriad gwahanol. Felly, mae hynny'n rhan bwysig o'r tirlun.
Nid Llywodraeth Cymru sy'n casglu'r data. Mae hynny'n digwydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; rheini sy'n casglu'r data yn y ddwy ffynhonnell. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr ystadegydd cenedlaethol am y gwahaniaethau hyn i weld beth allwn ni ei wneud i ddeall yr hyn sydd y tu ôl i hynny, a dwi'n edrych ymlaen at weld yr ONS yn cydweithio â'n hystadegwyr ni yn y Llywodraeth ar y mater. Mae'r Aelod yn gwbl iawn i ddweud, er mwyn cael sail o dystiolaeth ddibynadwy ar gyfer llunio polisi, mae'n rhaid deall pam fod ffynonellau yn dangos pethau gwahanol. Mae'r ffordd mae'r data yn cael ei gasglu, a'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn, yn wahanol yn y ddwy ffynhonnell. Felly, mae hynny, yn sicr, yn rhan o'r esboniad, ond mae'n rhaid deall y cyd-destun ehangach hefyd.
Diolch i chi am eich ateb. Mae'n bwysig i ni yma, a phawb sydd eisiau i'r iaith lwyddo, ymddiried a gallu craffu ar y polisïau a'r data a ddefnyddir i'w cefnogi. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio data i fesur llwyddiant eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, neu'r WESPs, fel y clywom ni yn gynharach. Os yw'r data yn annibynadwy, fe allai rwystro eu hymdrechion i ddatblygu mwy o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod cyfarfod pwyllgor, dywedaist ti na allwch chi ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd eu targedau neu eu hymrwymiadau o dan y WESPs, ond efallai y byddech yn ceisio rhoi mwy o awdurdod ac atebolrwydd i chi'ch hun drwy gyfrwng Bil addysg Gymraeg, os yn bosib. Os caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio, pa bwerau a ydych chi'n bwriadu eu rhoi i chi'ch hun i wneud yn siŵr bod y WESPs yn llwyddiant?
Wel, dwi jest eisiau dweud hefyd, o ran casglu data ar lefel leol—mae e, wrth gwrs yn bwysig, fel mae'r Aelod yn dweud—mae darn o waith yn digwydd eisoes gyda grŵp bach o awdurdodau lleol i ddeall sut, er enghraifft, yng nghyd-destun sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg lleol, beth yw hynny o ran ôl troed lleol, a sut i allu cysoni'r data yna yn genedlaethol, fel bod gennym ni ddarlun ehangach. Jest un enghraifft yw honno. Felly, mae gwaith yn digwydd eisoes o ran cysoni'r ffyrdd o gasglu a deall y data hynny.
O ran y cwestiwn arall, mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rŷn ni'n eu cael ar hyn o bryd gyda Phlaid Cymru ynglŷn â chynnwys y Bil. Wrth gwrs, byddaf yn awyddus i sicrhau bod hynny yn cael ei drafod yn gyhoeddus, a chyn gynted ag y gallwn ni. Y bwriad yw i gael Papur Gwyn cyn ein bod ni'n deddfu, fel bod cyfle i gael trafodaeth ehangach ar y math o bwerau sydd yn addas i'r Llywodraeth eu cael yn y cyd-destun hwnnw.
Diolch, Weinidog. Mae'r ddau ohonom ni eisiau i'r Gymraeg gael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol ym mhob sefyllfa, megis yn y Senedd hon, ar y stryd neu yn y dosbarth. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn digwydd. Er enghraifft, dim ond ar-lein y gellid cynnal cyfarfod cyngor llawn olaf sir Benfro ym mis Rhagfyr oherwydd nad oedd gwasanaethau cyfieithu amser real ar gael. Yn ogystal, mae cyfarfodydd cyngor blaenorol wedi eu rhwystro, gyda chynghorwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu gorfodi i siarad Saesneg oherwydd bod y gwasanaethau cyfieithu dwyieithog yn y siambr yn achosi oedi sylweddol o ran cyfieithu amser real.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol gynnig gwasanaethau cyfieithu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol mewn cynghorau sir a chynghorau cymuned ledled Cymru? Diolch.
Wel, mae gan gynghorau lleol gyfrifoldebau cyfreithiol wrth gwrs yn y cyd-destun hwnnw. Felly, mae eisoes system i orfodi safonau i gael eu cytuno â nhw yn lleol. Felly, mae hynny ar waith eisoes, felly mae hawliau gan bobl, mae hawliau iddyn nhw gael hynny wedi cael ei weithredu. Un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth—roedd e'n sôn am y cwestiwn o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd ar-lein—rŷn ni wedi bod yn ceisio fel Llywodraeth i gefnogi arloesedd yn y maes hwnnw, fel ein bod ni'n sicrhau yr ystod ehangaf bosib o ffyrdd o gael cyfarfodydd lle mae'r Gymraeg yn rhan greiddiol o hynny. Felly, yn ddiweddar, rŷn ni wedi cyhoeddi gwaith gyda Microsoft fel bod nawr functionality yn Teams, fel oedd yn Zoom—mae lot o gyrff cyhoeddus yn defnyddio Teams yn hytrach na Zoom—mae nawr yn bosib i gael cyfieithu ar y pryd drwy Teams. Dyma'r lle cyntaf yn y byd y mae hyn wedi digwydd. Ac yn sgil y gwaith rŷn ni wedi ei wneud gyda Microsoft, bydd unrhyw sefydliad rhyngwladol dwyieithog, yn unrhyw ran o'r byd, nawr yn gallu manteisio ar yr hyblygrwydd hynny. Felly, mae arloesi ym maes digidol, er mwyn sicrhau bod ystod o gyfarfodydd yn gallu digwydd, yn rhan bwysig iawn o ehangu defnydd yn y math o fywyd pob dydd sydd gan bobl nawr.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Mae mwyafrif asesiadau anabledd arbenigol ar gyfer myfyrwyr prifysgol sy'n gymwys ar gyfer y lwfans myfyrwyr anabl datganoledig yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gan ganolfannau asesu arbenigol yng Nghymru, sy'n deall anghenion myfyrwyr prifysgol Cymru, a thirwedd datganoledig addysg uwch Cymru. Mae'r arbenigwyr hyn mewn canolfannau asesu sydd wedi eu lleoli yng ngwasanaethau anabledd prifysgolion Cymru yn staff profiadol, sy'n deall systemau cefnogaeth anabledd Cymreig a'r cyrsiau a'r amgylchedd addysgol y mae'r myfyrwyr Cymreig yn rhan ohonynt. Ac felly, mae'r lwfans yn cael ei dargedu'n bersonol at anghenion pob myfyriwr unigol—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei argymell fel arfer gorau. Darperir DSA yng Nghymru gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, ac maent yn y broses o dendro gwasanaethau DSA, gan gynnwys asesiadau, ar hyn o bryd. Er bod DSA wedi ei ddatganoli, mae'n ymddangos bod Cymru wedi ei thwlu mewn i barth gyda gorllewin a dwyrain canolbarth Lloegr ar gyfer y broses dendro, a fydd, i bob pwrpas, yn golygu y gallai gwasanaethau asesu DSA yng Nghymru gael eu cymryd mas o ddwylo'r arbenigwyr Cymraeg hyn, gan efallai anfanteisio'n myfyrwyr ni. Felly, hoffwn wybod pam y mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i Gymru gael ei thrin fel hyn yn y broses dendro a chaffael, a pha ran y mae'r Gweinidog wedi ei chael yn y broses, er mwyn sicrhau nad yw cyfleon myfyrwyr anabl o Gymru'n cael eu peryglu, a busnesau arbenigol yng Nghymru o dan anfantais. A hoffwn wybod hefyd sut y bydd gofynion iaith Gymraeg myfyrwyr anabl yn cael eu hasesu'n gywir yn erbyn eu hanabledd os bydd sefydliad o'r tu fas i Gymru, heb unrhyw wybodaeth arbenigol am y dirwedd addysg Gymraeg, dim gwybodaeth o ymrwymiadau ac arferion ieithyddol, yn ennill y tendr.
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig hwn. Dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn, os byddaf i'n gwbl onest â hi, ond mae'n swnio i fi fel pe bai angen edrych i mewn iddo fe. Mae'n amlwg yn destun pwysig, mae'n amlwg bod unrhyw rwystr i fyfyrwyr yng Nghymru gael mynediad llawn a hafal i'w hawliau, ac yn sicr yng nghyd-destun budd-daliadau, yn rhywbeth pwysig. Felly, mi wnaf i ymrwymo i edrych mewn i hynny.
Diolch yn fawr iawn. Roedd llawer ohonom yn bresennol yn y rali a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar risiau'r Senedd ym mis Rhagfyr, ac rwy'n gwybod, Weinidog, i chi alw draw hefyd i siarad â myfyrwyr, a oedd yn adrodd i ni straeon brawychus am y ffordd y maen nhw'n cael trafferth â chostau trafnidiaeth, biliau ynni, rhent, bwyd, ac yn y blaen. Ac rwyf i wedi codi â chi o'r blaen sut y mae dysgwyr addysg bellach ac uwch a rhai mewn hyfforddiant yn cael eu taro mewn modd unigryw gan yr argyfwng costau byw, gan nad ydyn nhw'n gymwys am y rhan fwyaf o'r taliadau cymorth sydd ar gael a ddim mewn sefyllfa i fedru cynyddu eu hincwm. Ac felly, siomedig oedd y ffaith nad oedd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn, er gwaethaf effaith drychinebus costau cynyddol ar fyfyrwyr. Weinidog, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr ôl-16 o bob math yn cael eu cefnogi y tu hwnt i'r pecyn cymorth cyllid?
Ac o ffocysu ar brentisiaid yn benodol, gyda nifer gynyddol o bobl ifanc yn cael eu denu i swyddi isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol heb hyfforddiant, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi prentisiaid yn ystod yr argyfwng costau byw, yn enwedig y rhai ar yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid o ddim ond £4.81 yr awr?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fe ges i sgwrs fanwl iawn â'r myfyrwyr a oedd wedi dod i ymgyrchu y tu allan i'r Senedd, ac roedd hi'n bwysig cael y cyfle i glywed wrthyn nhw'n uniongyrchol yr hyn oedd yn eu pryderu nhw o ran pwysau costau byw.
Yn addysg bellach ac yn addysg uwch, mae gan y Llywodraeth ystod o bethau rŷn ni'n eu gwneud i gefnogi myfyrwyr. O ran addysg bellach, rŷn ni'n parhau gyda'r education maintenance allowance. Rydyn ni'n sicrhau bod ffyrdd o ehangu cyrhaeddiad yr EMA, sicrhau bod pobl yn gallu cynnig o fewn y flwyddyn os ydy eu hamgylchiadau nhw'n newid, ac yn cael gofyn wedyn am backdating o ran eu cymhwysedd nhw am y budd-dal hwnnw. Rŷn ni hefyd yn parhau gyda'r financial contingency fund. Fe wnes i ddatgan yn y Senedd yn ddiweddar fy mod i'n bwriadu cynyddu lefel hwnnw. Dyna'r bwriad o hyd. Mae hynny'n ffordd bwysig o sicrhau bod colegau'n gallu cefnogi myfyrwyr sydd mewn amgylchiadau o galedi.
O ran addysg uwch, mae gyda ni ystod o ffyrdd rŷn ni'n cefnogi myfyrwyr. Mae gyda ni'r pecyn cefnogaeth ariannol mwyaf cefnogol yng Nghymru o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Fel rhan o hwnnw, fe fyddaf yn datgan yn yr wythnosau nesaf y cynnydd yn lefel y cymorth fydd yn dod i fyfyrwyr yn sgil hynny. Dwi'n bwriadu gwneud hynny cyn diwedd y mis, gobeithio. Mae pob myfyriwr yng Nghymru yn gymwys am isafswm grant a wedyn cymysgedd o grant a benthyciadau yn uwch na hynny. Ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Gyfunol sydd yn lleihau lefel dyled myfyrwyr pan fyddan nhw'n dechrau talu hynny yn ôl, gan ryw £1,500. Rŷn ni'n gwneud hynny. Rŷn ni hefyd newydd ddatgan cronfa bellach i HEFCW i'w dosbarthu i fyfyrwyr o ran cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth ariannol a gwasanaethau gofal iechyd meddwl. Felly, mae amryw o ffyrdd rŷn ni'n mynd ati i geisio cefnogi myfyrwyr, ynghyd â'r gwaith mae'r sefydliadau eu hunain yn ei wneud ar y campws a thu hwnt i'r campws i gefnogi myfyrwyr. Ond, mae'n sicr ddigon bod y pwysau ar rai myfyrwyr yn sylweddol iawn.
Mae her benodol gan fyfyrwyr sy'n dod o dramor sydd ddim yn gallu manteisio ar y cefnogaeth ariannol rŷn ni'n ei rhoi fel Llywodraeth. Mae rhyw elfen o dystiolaeth y byddwn ni'n disgwyl gweld mwy a mwy o'r rheini'n cynnig am y cronfeydd caledi ac ati. Felly, mae'n sicr ddigon, a chlywais i fy hunan gan y myfyrwyr hynny, fod y sefyllfa'n gallu bod yn anodd iawn iddyn nhw.