1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2023.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith bydd trosglwyddo i drefn newydd y DU ar gyfer rheoli cymhorthdaliadau yn ei chael ar Gymru? OQ58972
Llywydd, nid trefn cymorthdaliadau'r DU yw'r drefn y byddai Llywodraeth Cymru wedi'i dylunio, ac nid yw chwaith yn un a gefnogwyd gan y Senedd hon. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i baratoi staff i ddeall a defnyddio'r drefn newydd, gan liniaru ei agweddau amherffaith niferus.
Diolch. Cefais gyfarfod â busnes yn fy rhanbarth yn ddiweddar sy'n datblygu technolegau a fydd yn cael effaith ddofn ar helpu i wrthdroi effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac sydd wrthi'n gwneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru, ond mae'n ymddangos fel bod yr holl broses yn cymryd cryn amser a llawer hirach na cheisiadau blaenorol, sy'n cael effaith niweidiol ar eu blaengynllunio. Rwy'n ymwybodol na allwch chi drafod ceisiadau unigol, ond tybed a yw'r oedi yn y broses ymgeisio yn deillio o doriad i gyllid, ac os felly, pa lefelau o gyllid sydd ar gael erbyn hyn a beth fydd y gymhareb grant i fenthyciad yn y setliadau hynny? Neu, os yw'r oedi oherwydd y trosglwyddiad i drefn newydd rheoli cymorthdaliadau'r DU a setliadau un flwyddyn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru'r newid i'r system newydd? Diolch.
Llywydd, mae'r drefn cymorthdaliadau newydd eisoes yn weithredol; daeth i rym ar 5 Ionawr. Yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o fanylion yr achos unigol y mae Joel James yn ei grybwyll, ond ni fyddwn yn synnu o ddarganfod bod cymhlethdodau newydd y drefn cymorthdaliadau yn chwarae eu rhan mewn unrhyw oedi oherwydd, am y tro cyntaf erioed, cyflwynodd y system, trwy gyflwyno cymorthdaliadau o fewn y DU o fewn canolbwynt y gyfraith, risgiau cyfreithiol newydd i'r broses cymorthdaliadau. Gall dau gwmni sy'n cystadlu ar yr un stryd fawr, am y tro cyntaf, ofyn am adolygiad barnwrol o bob un cymhorthdal y gallai eu cymdogion fod wedi ei sicrhau. Yn anochel, mae hynny'n gwneud y sefydliadau hynny sy'n gyfrifol am ddarparu cymorthdaliadau yn fwy gofalus wrth wneud y penderfyniadau hynny, gan fod y risgiau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â gwneud unrhyw ddyfarniad wedi cynyddu gan y drefn rheoli cymorthdaliadau newydd. Felly, os yw hynny yn agos at wraidd yr oedi y soniodd Joel James amdano, nid yw'n fy synnu, ac mae'n anochel y bydd yr aelodau hynny o staff mewn awdurdodau cyhoeddus sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hynny yn gorfod dod yn gyfarwydd â'r drefn newydd ac, yn y dyddiau cynnar, yn debygol o gymryd mwy o amser yn gwneud y penderfyniadau hynny. Ond, yn y tymor hwy, ceir risgiau newydd yn y trefniadau rheoli cymorthdaliadau, a byddan nhw'n risgiau a fydd yn ein taro ni'n arbennig o galed yma yng Nghymru.
Nid yw hynny'n ddim syndod, onid yw, Prif Weinidog, y bydd rhywbeth a grëwyd gan Lywodraeth y DU hon yn cael effaith niweidiol ar Gymru? Mae'r Albanwyr wedi dysgu'r wythnos hon am ddiystyriaeth Llywodraeth y DU o ddemocratiaeth. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddeall yw bod gennym ni drefn rheoli cymorthdaliadau anhrefnus a gyflwynwyd ar ôl Brexit, pan nid realiti cymryd rheolaeth yn ôl oedd rhoi rheolaeth i bobl Cymru, i gymunedau Cymru, i alluogi busnesau Cymru i ffynnu, ond i gymryd rheolaeth yn ôl i ychydig o Weinidogion yn Llundain, eu ffrindiau yn Nhŷ'r Arglwyddi a'r holl roddwyr i'w plaid. Dyna realiti 'cymryd rheolaeth yn ôl', ac mae pobl Cymru ac etholwyr Joel yn dioddef o'i herwydd.
Mae Alun Davies yn gwneud nifer o bwyntiau grymus iawn yn y fan yna. Dylwn atgoffa Aelodau'r Senedd bod y Senedd hon, wrth gwrs, wedi gwadu caniatâd deddfwriaethol i Fil y DU ar 1 Mawrth y llynedd, ac yna diystyrwyd confensiwn Sewel ac anwybyddwyd diffyg cydsyniad y Senedd hon gan Lywodraeth y DU a aeth ymlaen a gorfodi'r ateb hwn arnom ni beth bynnag. Dyma ddwy ffordd yn unig, Llywydd, y mae'r system newydd yn gweithredu yn groes i fuddiannau Cymru. Yn gyntaf oll, mae'n cael gwared ar unrhyw synnwyr o ardaloedd â chymorth o'r drefn gymorthdaliadau. Yn wir, cyfeiriodd drafft cyntaf y Bil at egwyddorion ffyniant bro Llywodraeth y DU. Cefnwyd ar hynny erbyn i'r Bil gyrraedd y llyfr statud. Felly, fel y dywedodd fy nghyd-Weinidog, Rebecca Evans yn ei llythyr at Lywodraeth y DU cyn i'n cynnig cydsyniad gael ei drafod, mae'r Bil yn rhoi Mayfair a Merthyr ar yr un sail yn union pan ddaw i ddarparu cymorthdaliadau. Mae hynny'n golygu'n syml y bydd y rhai sydd â'r pocedi dyfnaf yn defnyddio'r fantais honno i wneud eu hunain hyd yn oed yn fwy breintiedig, tra bydd y rhai sydd â'r lleiaf yn wynebu'r anawsterau mwyaf.
A dyma ail enghraifft yn unig, Llywydd. Mynnodd Llywodraeth y DU y dylai amaethyddiaeth a physgodfeydd gael eu cynnwys o fewn cwmpas y Bil hwn. Doedden nhw erioed, tra oedden ni'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd; ymdriniwyd â nhw ar wahân. Fe wnaethon ni ofyn i Lywodraeth y DU beth oedd y dystiolaeth ar gyfer cynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd o fewn y cwmpas. Fe'n hysbyswyd ganddyn nhw ei fod i'w weld yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw ble gellid dod o hyd i'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Fe'n hysbyswyd nad oedden nhw wedi cael eu cyhoeddi. Fe wnaethon ni ofyn a allem ni weld yr ymatebion a oedd yn cyfiawnhau'r cam hwn, ac fe'n hysbyswyd, na, allen ni ddim. Felly, dyma ni. Mae gennym ni newid mawr, sydd, yn fy marn i, â goblygiadau gwirioneddol i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan fod y system yn seiliedig ar saith egwyddor, a'r trydydd o'r rheini yw bod yn rhaid dylunio unrhyw gymhorthdal i sicrhau newid i ymddygiad economaidd y buddiolwr. Lle mae taliadau sengl yn ffitio i mewn i hynny, wn i ddim yn wir. Ond allwn ni ddim gwybod, oherwydd ni esboniwyd yr holl sail y penderfynodd Llywodraeth y DU wneud y newid mawr hwn arni ganddyn nhw, ac ni chafodd y dystiolaeth y gwnaethon nhw gyfeirio ati erioed gael ei gwneud ar gael i ni.