– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 17 Ionawr 2023.
Eitem 12, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Galwaf ar y Gweinidog materion gwledig a gogledd Cymru i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Diolch. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n hynod siomedig o orfod ymdrin â'r Bil bridio manwl heddiw. Mae'r Bil hwn yn codi rhai mathau o dechnolegau golygu genynnau o'r diffiniad cyfredol o organebau a addaswyd yn enetig a'r gofynion cyfreithiol cysylltiedig. Er ei fod yn Fil ar gyfer Lloegr yn unig, bydd yn creu canlyniadau anochel i Gymru ac fe fydd yn tanseilio'r setliad datganoli.
Wrth archwilio'r polisi hwn, gallai Llywodraeth y DU fod wedi ymgysylltu â'r broses fframwaith, a sefydlwyd i hwyluso cydweithio a chydweithredu rhwng y pedair gwlad ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe ddewison nhw beidio. Yn hytrach, fe wnaethon nhw fwrw ymlaen â'r Bil heb gydnabod y goblygiadau i Gymru a gwledydd datganoledig eraill. Bydd aelodau yn gweld yn y memorandwm a gyflwynwyd gennym ni ein bod yn argymell atal cydsyniad. Bydd aelodau hefyd yn gweld mai barn Llywodraeth Cymru yw bod angen cydsyniad y Senedd ar y Bil i gyd oherwydd effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud fy mod yn ddiolchgar am y gwaith pwysig a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil, er gwaethaf yr amser cyfyngedig i'w ystyried. Nodaf, yn ei adroddiad, fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cwestiynu a yw'r Bil hwn yn addas i'w ystyried o dan Reol Sefydlog 29. Am y rhesymau y byddaf yn eu hamlinellu heddiw, barn Llywodraeth Cymru yw bod y Bil hwn yn gwneud darpariaeth berthnasol mewn cysylltiad â Chymru. Mae'n Fil perthnasol at ddibenion y broses gydsynio. Fodd bynnag, yn ehangach, rwy'n cefnogi eu cais i adolygu'r Rheolau Sefydlog er mwyn sicrhau eu bod yn glir ac yn addas i'r diben. Mae'r Bil a gweithrediad Deddf Marchnad Fewnol y DU yn golygu, mewn rhai achosion, y bydd darpariaethau'r Bil hwn yn disodli cyfraith Cymru.
Rwyf nawr eisiau archwilio amcanion polisi arfaethedig y Bil. Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y Bil yn moderneiddio'r fframwaith rheoleiddio addasu genetig. Maen nhw'n dadlau y bydd yn lleihau baich rheoleiddio ac ariannol ac y bydd yn ei gwneud hi'n haws defnyddio technolegau genetig newydd i ddatblygu planhigion ac anifeiliaid newydd mewn ymateb i argyfyngau deuol newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Dyma nodau canmoladwy ac mae Llywodraeth Cymru wastad wedi cefnogi ymchwil wyddonol. Mae'n iawn adolygu ein cyfreithiau mewn ymateb i ddatblygiadau gwyddonol a thystiolaeth newydd. Fodd bynnag, nid rhuthr penrhydd i ddadreoleiddio, heb ymgynghori â chenhedloedd eraill y DU, yw'r dull cywir. Dylid llunio polisi sydd â chanlyniadau hirdymor sylweddol mewn ffordd bwyllog ac ystyriol, a dylem ddilyn yr egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Bil yn nodi fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer organebau yr addesir eu gennynnau—organebau a fridiwyd yn fanwl, fel y'i gelwir. Os caiff y Bil ei basio, bydd yn haws rhyddhau planhigion ac anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl i'r amgylchedd. Bydd hi'n haws eu marchnata nhw a'u defnyddio mewn bwyd.
Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Bydd Deddf Marchnad Fewnol y DU yn berthnasol i werthiant organebau a fridiwyd yn fanwl ar draws Prydain Fawr. Rydyn ni wedi bod yn gweithio i ddeall y ffordd gymhleth y bydd y Bil bridio manwl yn rhyngweithio ag UKIMA. Mae llawer o gwestiynau pwysig, heb eu hateb o hyd. Fodd bynnag, mae'n amlwg y caniateir cynhyrchion bridio manwl, sydd wedi'u cynhyrchu yn Lloegr, ar y farchnad Gymreig heb orfod cydymffurfio â'r gofynion addasu genynol a nodir yng nghyfraith Cymru. Mae hyn yn tanseilio datganoli yn llwyr. Bydd y Bil yn sefydlu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer awdurdodi organebau a fridiwyd yn fanwl ac asesiad diogelwch i fwydydd a fridiwyd yn y modd hwn. Yn ymarferol, bydd hyn yn creu dull gorfodi deuol yng Nghymru, y bydd angen i fusnesau a chyrff gorfodi ymdopi ag ef.
Hoffwn nodi'r dadleuon penodol dros beidio argymell cydsyniad. Yn gyntaf, cyfraith Cymru sy'n cyfyngu ar farchnata planhigion ac anifeiliaid wedi eu haddasu yn enetig. Fodd bynnag, fel yr wyf eisoes wedi'i nodi, mae UKIMA yn golygu na fydd cyfraith Cymru yn berthnasol i blanhigion ac anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl pan gânt eu cludo i Gymru o Loegr. Felly, gellid gwerthu tomatos a fridiwyd yn fanwl yn eich siop leol neu eich archfarchnad, ac anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl yn eich siop anifeiliaid anwes lleol. Mae'n amlwg iawn i mi y bydd cyfraith Cymru yn cael ei thanseilio a'i dadleoli, a nodaf i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gytuno â'n dadansoddiad o effeithiau UKIMA yn ei adroddiad. Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor hefyd yn cwestiynu os yw ein dadansoddiad o effeithiau UKIMA ar y Bil hwn yn wahanol i'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Er bod y Biliau hyn yn wahanol, mae ein hymagwedd yn gyson. Pan fo'r Senedd yn deddfu, maen nhw'n gwneud hynny'n rhydd o UKIMA, felly gellir gwneud deddfwriaeth Senedd sylfaenol mewn maes datganoledig yn rhydd o ofynion UKIMA. Mae hyn yn golygu y gallai'r Senedd gywiro safbwynt y Bil hwn drwy wneud deddfwriaeth sylfaenol newydd yma yng Nghymru. Fodd bynnag, ni ddylai fod angen i ni wneud hynny, a dylid parchu ein cyfraith bresennol.
Yn ail, mae'r DU yn dewis peidio â gorfodi labelu organebau a fridiwyd yn fanwl. Mae ymchwil gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos yn glir bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr eisiau gwybod a ydyn nhw'n prynu bwyd sy'n cynnwys cynhwysion a fridiwyd yn fanwl. Fodd bynnag, dim ond gyda labelu gorfodol y mae hyn yn bosibl. Dylai defnyddwyr o Gymru allu dewis a ddylid prynu'r cynhyrchion hyn, ond nid yw Llywodraeth y DU yn rhannu'r farn hon. Ymhellach, heb labelu nac olrhain, byddai'n anodd iawn i gyrff gorfodi orfodi'r drefn reoleiddio briodol yma yng Nghymru.
Yn drydydd, rwy'n pryderu am effaith y Bil ar gynhyrchwyr organig a masnach ryngwladol. Roedd allforion bwyd a diod o Gymru werth £640 miliwn yn 2021. Yn y flwyddyn honno, Cymru oedd â'r cynnydd canrannol mwyaf flwyddyn ar ôl blwyddyn yng ngwerth allforion bwyd a diod o gymharu â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu, ac rwy'n siŵr y bydd pob cyd-Aelod yn cytuno bod bwyd a diod o Gymru wedi mynd o nerth i nerth dros y ddegawd ddiwethaf. Fodd bynnag, gall y Bil hwn arwain at heriau a chostau ymarferol i fusnesau sy'n allforio cynhyrchion a fridiwyd yn fanwl. Unwaith y bydd organebau a fridiwyd yn fanwl mewn cylchrediad llawn, sut bydd busnesau'n gwybod a sut y byddant yn gallu dangos nad yw eu cynhyrchion wedi eu haddasu yn enetig?
Yn olaf, mae rhannau allweddol o'r Bil—gan gynnwys rheoleiddio anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl—i'w nodi mewn is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd iawn gwybod sut y caiff y pwerau hyn eu harfer a beth fydd yr effaith bellach ar Gymru. Yn bryderus, mae hyn yn cynnwys safonau lles ar gyfer anifeiliaid a fridiwyd yn fanwl. Mae lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli, a gallai'r anifeiliaid hyn gael eu gwerthu yng Nghymru. Fodd bynnag, ychydig iawn o ddylanwad a gawn ar y safonau lles hynny.
Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch y diffyg craffu y gallai'r is-ddeddfwriaeth hon fod yn destun iddo, ac i ba raddau y byddwn yn gallu gwrthwynebu deddfwriaeth y DU sy'n dod o fewn cymhwysedd y Senedd. Felly, rwy'n gofyn i Aelodau atal cydsyniad ar gyfer y Bil hwn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn syth ar ôl ein cyfarfod brynhawn ddoe. Bydd y Gweinidog yn gwybod mai ychydig iawn o amser oedd gennym i ystyried y memorandwm, o ystyried y cafodd ei gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2022, a gofynnwyd i ni adrodd erbyn 16 Ionawr 2023. Dim ond 11 diwrnod oedd yn y cyfnod hwnnw pan oedd y Senedd yn cyfarfod, ond rydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny. Rydyn ni'n cydnabod yr hyn sydd wedi'i esbonio i ni, bod diffyg ymgysylltu Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn wedi cyfrannu at hyn, ac rydym yn siomedig ynghylch hynny, yn amlwg. Fodd bynnag, rydym yn dal heb ein hargyhoeddi y gall y diffyg ymgysylltu rhynglywodraethol ar hyn esgusodi'n llawn neu egluro'n llawn yr oedi agos at saith mis a fu cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd. Mae wedi arwain at gyfyngu difrifol ar yr amser sydd ar gael i graffu'n ystyrlon. Felly, nid yw'n syndod ein bod ni wedi dod i'r casgliad bod yr oedi wrth gyflwyno'r memorandwm yn annerbyniol, ac yn anffodus mae wedi atal Aelodau o'r Senedd rhag ymgymryd â'r swyddogaethau craffu dilys yn llawn mewn cyfnod rhesymol, gan gynnwys o bosibl gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog a gan randdeiliaid.
Mae ein hadroddiad yn nodi barn Llywodraeth Cymru bod y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, neu UKIMA, fel y byddaf yn cyfeirio ati yn awr, ac yn benodol bod ei gofynion yn golygu y bydd y darpariaethau yn y Bil yn caniatáu gwerthu a marchnata PBOs—organebau wedi’u bridio’n fanwl—yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd wedi ei wahardd gan ddeddfwriaeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad bod darpariaethau'r Bil yn cael eu gwneud at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn rhinwedd UKIMA. Nawr, rydym ni’n cytuno â dadansoddiad Llywodraeth Cymru mai effaith UKIMA fydd y gallai PBOs gael eu gwerthu a'u marchnata yng Nghymru, er gwaethaf cyfraith Cymru ar hyn o bryd, os yw’r PBOs hynny'n werthadwy yn gyfreithlon yn Lloegr. Fodd bynnag, ac mae hyn yn mynd at graidd y peth, mae Rheol Sefydlog 29 yn gymwys pan fo Bil yn darparu 'mewn perthynas â Chymru'. Oni bai ei fod yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, nad yw'n wir mewn perthynas â'r Bil hwn, rhaid iddo hefyd wneud darpariaeth at unrhyw bwrpas
'o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd'.
Mae cymalau sylweddol y Bil hwn yn gyfyngedig o ran eu cymhwysiad i Loegr yn unig. Nid yw ei ddarpariaethau, yn ein barn ni, yn gymwys 'mewn perthynas â Chymru' er mwyn cynnwys Rheol Sefydlog 29. Yn ogystal, nid oes gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i ddeddfu o ran gwerthu a marchnata PBOs yn Lloegr er mwyn gwneud i’r Bil ddarparu
'o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd'.
Yn ein barn ni, dim ond yn rhinwedd y Bil yn dod yn Ddeddf ac yn dod i rym y bydd effaith UKIMA yn weithredol, ac nid yw'n fater cymhwysedd deddfwriaethol at ddiben Rheol Sefydlog 29, a byddaf yn dod at ffordd bosibl ymlaen yn nes ymlaen. Rydym ni’n cydnabod ac yn derbyn bod gan UKIMA oblygiadau ehangach ar gyfer polisi Cymru. Fodd bynnag, mae effaith yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol a ddarperir ar ei gyfer yn UKIMA yn fater ar wahân i gymhwysedd ac, o ganlyniad, ar wahân i Reol Sefydlog 29. Rydym ni hefyd yn nodi, ac mae hwn yn bwynt pwysig, y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi defnyddio Rheolau Sefydlog eraill fel ffordd o drafod pwnc y memorandwm, y mae'r Gweinidog wedi egluro sy'n hanfodol ei drafod yma yn y Senedd. Felly, rydym ni’n anghytuno â'r datganiad sydd ym mharagraff 9 o'r memorandwm bod Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
'yn fil perthnasol, gan ei fod yn gwneud darpariaeth berthnasol sy'n ymwneud â Chymru oherwydd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020', ac rydw i wedi esbonio pam yn barod. Yn unol â hynny, fe ddaethom i'r casgliad nad oes angen caniatâd y Senedd ar gyfer y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl).
Cyn cloi, hoffwn dynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi synnu—a chodwyd hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol ddoe mewn sesiwn dystiolaeth—bod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith UKIMA ar gyfraith bresennol Cymru, yng nghyd-destun y cyflwyniad yn Senedd y DU ar gyfer y Bil hwn i Loegr yn unig, yn ymddangos yn wahanol i'w ddadansoddiad o effaith UKIMA ar ei Bil Diogelu Amgylcheddol ei hun (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), pan ddywedwyd wrthym ni nad yw UKIMA yn hynny o beth 'yn brathu' ar y Bil ac felly'r Ddeddf ddilynol. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ysgrifennu at y pwyllgor ac egluro pam fod Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd UKIMA yn effeithio ar gyfraith bresennol Cymru o ganlyniad i gyflwyno'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), ond na fydd yn effeithio ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) pan ddaw'n gyfraith. Rwy'n amau, Cwnsler Cyffredinol, y bydd hyn yn rhywbeth y byddwn ni’n dod yn ôl atoch chi arno.
Mae ein hail argymhelliad—ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, byddaf yn dirwyn hyn i ben yn gyflym iawn—yn ymwneud â mater pwysig, yn gysylltiedig ag UKIMA, y mae’r Gweinidog wedi ei grybwyll. Mae'n hanfodol sicrhau bod deddfau sydd i'w gwneud yng Nghymru, neu gyfraith Cymru sydd eisoes ar y llyfr statud, yn effeithiol. Mae hefyd yn bwysig ystyried a yw cyfraith sy’n cael ei gwneud y tu allan i Gymru yn effeithio ar bwrpas ac effaith cyfraith Cymru. Felly, rydym ni o ganlyniad yn argymell—ac rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog ar hyn—y dylai'r Pwyllgor Busnes sicrhau bod Rheolau Sefydlog y Senedd yn cael eu hadolygu a'u diwygio ar y cyfle cyntaf i sicrhau eu bod yn gwneud darpariaeth briodol i sicrhau effaith ymarferol UKIMA, sydd bellach wedi dod i’n rhan ac y byddwn ni’n gweld mwy ohoni, yn cael ei hystyried wrth ystyried, er enghraifft, Biliau o dan Reolau Sefydlog 26, 26A, 26B a 26C a phan fydd pasio deddfwriaeth trwy'r holl ddeddfwrfeydd yn y DU yn cael effaith ar is-ddeddfwriaeth. Ein dadl ni yw bod ffordd wahanol o gael y ddadl hon a'i nodi, ac nad Rheol Sefydlog 29 yw'r ffordd briodol.
Rhaid i mi gyfaddef, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi anghytuno â'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru ynghylch pam eu bod nhw wedi gosod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw ac rwy’n credu bod hyn yn wastraff amser y Senedd, ac nid fi yw'r unig un sy'n credu hynny. Mae manylion technegol y Bil, fel sydd wedi’u nodi yn atodiad A y nodiadau esboniadol, yn nodi'n glir nad yw Llywodraeth y DU o'r farn bod angen caniatâd gan y Senedd hon ynghylch unrhyw ran o'r Bil hwn, barn sydd wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru ym mharagraff 19 o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, nid yw gwasanaethau cyfreithiol y Senedd eu hunain ychwaith yn cytuno ag asesiadau Llywodraeth Cymru bod y cymalau hyn angen caniatâd y Senedd. Ond, os oedd Llywodraeth Cymru wir yn credu bod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, yna fe ddylai fod wedi'i gyflwyno o fewn pythefnos i gyflwyno’r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin, nid y saith mis mae wedi cymryd Llywodraeth Cymru i wneud hynny.
O ran y Bil ei hun, mae'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth sydd â'r gallu i drawsnewid y diwydiant amaethyddol, gan ein cynorthwyo yn ein cadernid cyfunol yn erbyn rhai o'r heriau mwyaf arwyddocaol sydd o'n blaenau. Boed hynny yn ddiogelwch bwyd, newid hinsawdd, clefyd neu gost, gall bridio manwl fod yn arf yn ein blwch arfau, gan sicrhau dyfodol ein diwydiant amaethyddol am genedlaethau i ddod.
Nawr, mae'n rhaid i ni fod yn glir nad yw bridio manwl yn golygu cnydau wedi'u haddasu'n enetig. Nid ychwanegu geneteg wedi'i addasu'n artiffisial yw hyn. Yn hytrach, mae hyn yn defnyddio dulliau traddodiadol sy'n bodoli eisoes i atgyfnerthu buddsoddiad mewn arloesedd cnydau yn y DU. Mae bridio manwl yn cymryd yr hyn sy'n digwydd yn naturiol dros gannoedd o flynyddoedd ac yn ei hwyluso mewn ffordd reoledig, moesegol a diogel. Mae'r wyddoniaeth hon eisoes yn digwydd. Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, a elwir yn IBERS, wedi arwain gwaith arloesol, yn debyg i waith organebau wedi’u bridio’n fanwl - PBOs - i ddatblygu mathau o laswellt a meillion perfformiad uchel sy'n cael eu defnyddio eisoes gan ffermwyr da byw. Yn anffodus, gallai cibddallineb Llywodraeth Cymru ar PBOs a'r Bil hwn o bosibl weld prifysgolion Cymru, academia Cymru, yn colli allan ar gyfleoedd i fod ar flaen y gad yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â diogelwch bwyd byd-eang. Meddyliwch am y cyfle a gollwyd, cael gwared ar y gobaith, o hadau gwenith Cymreig sy’n gwrthsefyll sychder ac afiechydon ddim yn mynd i Affrica Is-Sahara i helpu i ddod â thlodi i ben—canlyniad anfwriadol i beidio â mabwysiadu’r ddeddfwriaeth hon yn cael effaith andwyol aruthrol ar ein rhaglen ddyngarol Cymru ac Affrica.
Felly, o ystyried ei fuddion diamheuol, sy'n berthnasol yn gyffredinol o iechyd y cyhoedd i newid hinsawdd, rwy'n siomedig ac yn rhwystredig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymuno â'r Bil y llynedd. Os gall ffermwyr Lloegr gynyddu eu cynnyrch drwy PBOs, yna mae hyn yn gadael ffermwyr Cymru dan anfantais gystadleuol amlwg. Nodais gyda diddordeb bryderon y Gweinidog, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â labelu, masnach a gwyddoniaeth, er, ar y tri, mae gen i ofn, bod rhaid i mi anghytuno'n gryf. O ran y wyddoniaeth, mae DEFRA wedi rhannu'r dadansoddiad technegol gyda chi. Rydych chi'n meddu ar bopeth sydd gan Lywodraeth y DU. Ond eto, er hyn, rydych chi wedi penderfynu dod i gasgliad gwahanol.
O ran masnach, byddwn yn annog y Gweinidog i edrych ar y darlun ehangach. Ni fydd cynhyrchion PBO yn cyrraedd ein silffoedd am o leiaf bum mlynedd ar ôl caniatâd Brenhinol. Yr hyn rydym ni’n ei geisio yw datblygu fframwaith statudol i sicrhau, unwaith y bydd ein partneriaid masnachu yn gwneud yr un datblygiadau, fod gennym ni’r gallu angenrheidiol i ddechrau masnachu gyda'n cymdogion ar unwaith, oherwydd rydym ni’n gwybod bod yr Undeb Ewropeaidd wedi nodi eu bod hwythau'n dymuno dilyn llwybr tebyg i Lywodraeth y DU.
Ac yn olaf, labelu. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ond yn awdurdodi cynhyrchion i’w gwerthu os ydyn nhw o’r farn nad ydynt yn cyflwyno unrhyw risg i iechyd, nad ydynt yn camarwain defnyddwyr, ac nad oes ganddynt werth maethol is na'r rhai sydd wedi’u bridio’n draddodiadol. Yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, nid yw PBOs yn peri mwy o risg na'r hyn y byddwch chi'n ei ddarganfod ar hyn o bryd ar silffoedd ein harchfarchnadoedd. Dim risg, ond llawer mwy o wobr—dyna'r cyfle a gollir gan y Llywodraeth Cymru hon.
Felly, Dirprwy Lywydd, er nad ydym ni’n credu bod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, mae o'n blaenau ni heddiw, felly yn weithdrefnol byddwn yn pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond rydym ni wedi ein siomi'n arw gan farn Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn ac yn ei hannog i ailystyried ei safbwynt o ddifrif. Diolch.
Dwi'n gresynu ein bod ni unwaith eto yn cael trafodaeth ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol arall, deddfwriaeth sydd wedi'i llunio yn San Steffan ar gyfer Lloegr, heb y cyfle go iawn i ni yma ymgynghori yn ei chylch neu hyd yn oed ei chraffu yn drylwyr. Ond, ar yr egwyddor sylfaenol, dydyn ni ar y meinciau yma ddim yn gwrthwynebu'r Bil na'r hyn y mae'n trio ei gyflawni.
Bydd llawer sydd yn clywed am y Bil arfaethedig am y tro cyntaf yn pryderu mai'r bwriad ydy i alluogi GM, fel rydyn ni wedi clywed y Gweinidog yn dweud, sef addasu genetaidd. Ond, nid dyna ydy ystyr 'golygu genetaidd' o gwbl.
Ar hyn o bryd, mae’r gallu golygu genetaidd yn eistedd yn rhan o ddeddfwriaeth addasu genetaidd, ond ni ddylai fod yno, gan eu bod yn ddau beth gwbl wahanol. Bwriad y Bil ydy eu gwahanu nhw, a rhoi gallu i wyddonwyr a chynhyrchwyr bwyd i wneud yr hyn sydd yn digwydd yn naturiol ym myd natur. Nid cyflwyno genynnau newydd ydy’r bwriad; nid gwireddu rhywbeth fel ffilm arswyd Splice ydy hyn. Mae golygu genetaidd yn cyflawni’r un peth â’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn naturiol ym myd natur, ond yn torri allan yr amser hir mae’n ei gymryd, yn gannoedd neu’n filoedd o flynyddoedd, weithiau, er mwyn i enynnau trawsffrwythloni. Yn wir, mi ddaw'r holl fwyd rydyn ni’n eu bwyta heddiw allan o blanhigion sydd wedi eu bridio. Mae yna 3,000 o blanhigion sydd mewn defnydd heddiw wedi dod o fridio planhigion yn eithafol—er enghraifft, grawnffrwyth lliw oren yn un ohonyn nhw. Edrychwch ar gatalogau hadau ac fe welwch chi fathau gwahanol o lysiau neu ffrwythau lle mae’r bridwyr wedi dethol y mwtaniad a thrawsffrwythloni er mwyn cael brid arbennig, ac yna eu gwerthu.
Ni fydd genynnau newydd yn cael eu cyflwyno ond, yn hytrach, bydd hyn yn galluogi gwneud mân newidiadau, mutations, i drefn DNA mewn modd wedi’i dargedu. Mae hyn yn digwydd yn naturiol, a gellir cyflawni hyn drwy sgrinio miliynau o blanhigion, er enghraifft, er mwyn canfod y mutation, ond dydy hynny—er enghraifft, sgrinio pob gwelltyn o wair arbennig—ddim yn ymarferol. Gall hyn hefyd arwain at addasu cynnwys ym maeth bwyd, gan wneud rhai bwydydd yn fwy maethlon, a sicrhau gwytnwch yn y gallu i gynhyrchu bwyd.
Mae’r Bil newydd yn argymell newid y gyfraith er mwyn creu categori newydd o PBO, y precision-bred organism. Felly, os ydy rhywun yn defnyddio golygu genetaidd er mwyn gwneud planhigyn neu anifail newydd, ond un a fyddai wedi gallu digwydd yn naturiol beth bynnag, yna fydd hyn yn caei ei eithrio o ddeddfwriaeth y GMO. Dyna ydy’r bwriad. Bydd hyn hefyd yn golygu y gall cwmnïau llai, megis cynhyrchwyr yng Nghymru, gael gwell cyfle i ddatblygu bridiau o fwyd, oherwydd, fel y saif pethau, mae’r rheoliadau presennol a’r gost o wneud cais am hawl i wneud hyn o dan y ddeddfwriaeth GMO yn anferthol, sy’n golygu mai dim ond cwmnïau mawr rhyngwladol sydd medru gwneud hyn, gan gloi allan cwmnïau Cymreig.
Mae yna hefyd ddadl amgylcheddol. Mae angen mwy o amrywiaeth planhigion er mwyn medru wynebu heriau newid hinsawdd. Er enghraifft, gall hyn olygu ein bod ni’n medru datblygu hadau sydd yn medru ymdopi mewn hinsawdd mwy sych efo llai o ddŵr. Enghraifft ddiweddar o hyn ar waith ydy gwaith y Scottish agricultural institute, sydd wedi bod yn edrych ar PRRS, sef y porcine reproductive and respiratory syndrome virus. Mae’r sefydliad yn yr Alban wedi llwydo i ddatblygu moch sydd ddim yn dioddef o’r haint yma. Ac mae’n bosibl, wrth gwrs, gweld y dechnoleg yma ar waith wrth i wyddonwyr ddatblygu ffyrdd o fynd i’r afael â gwahanol glefydau, megis liwcemia. Felly, mae’r egwyddor yn un i’w chefnogi, a gresyn nad ydy Llywodraeth Cymru wedi dod â deddfwriaeth ei hunan ymlaen.
Ond, yn olaf, dwi am nodi ein bod ni’n siomedig gweld gemau gwleidyddol ar waith o du'r Llywodraeth. Mae yna bryderon a chwynion dilys wedi cael eu rhestru gan y Gweinidog am fethiannau democrataidd y Bil a’r broses yma, a hyn yn cael ei ddefnyddio, yn ei dro, i gyfiawnhau gwrthwynebu’r LCM. Ond mae’r un problemau yma sydd wedi cael eu hamlygu heddiw hefyd wedi cael eu hamlygu mewn LCMs eraill yn y gorffennol, ond rhai y mae’r Llywodraeth wedi'u cefnogi ac wedi annog pobl i’w cefnogi a phleidleisio o’u plaid nhw. Mi fyddai’n dda gweld cysondeb o du'r Llywodraeth pan fo hi'n dod i LCMs. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog materion gwledig i ymateb.
Diolch, Llywydd, a hoffwn ddiolch i'r tri Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Rwy'n ddiolchgar i Huw Irranca-Davies ac i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu, ac rwy'n gresynu'n fawr nad yw'r Senedd wedi cael mwy o amser i ystyried y Bil hwn. Ysgrifennais at y Llywydd ar 27 Mehefin y llynedd, yn amlinellu bod Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu'r Bil hwn, ac mae hynny wir yn ein rhoi ar y droed ôl o'r dechrau mewn ffordd nad ydw i'n credu y byddai unrhyw un ohonon ni ei eisiau. Mae'n Fil cymhleth iawn, ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddeall beth yn union y bydd yn ei olygu i Gymru, ac rwy'n credu bod hynny'n wir hefyd am y gweinyddiaethau datganoledig eraill.
Gofynnodd Sam Kurtz pam ein bod ni wedi cyflwyno’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Wel, o'm safbwynt i, rwyf wedi gwneud hynny i ddiogelu'r setliad datganoli. Sam Kurtz, fel Ceidwadwr, efallai nad ydych chi’n poeni am hynny, ond rwy'n poeni'n angerddol am hynny. Rydyn ni'n gorfod gwneud y gwaith nawr, mewn gwirionedd, y dylen ni fod wedi ei wneud y llynedd, reit ar y dechrau, a phe byddem wedi cael yr ymgysylltiad priodol hwnnw gan Lywodraeth y DU ar fanylion y Bil, rwy'n credu y byddem ni wedi cael ymgymryd â'r gwaith hwn yn llawer cynharach.
Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at amrywiaeth o Reolau Sefydlog a gofynnodd pam ein bod ni wedi’i gyflwyno o dan y Reol Sefydlog benodol yr ydym ni wedi’i gyflwyno oddi tano. Mae 'Bil perthnasol' yn un sydd dan ystyriaeth yn Senedd y DU sy'n gwneud darpariaeth berthnasol mewn perthynas â Chymru, yn unol â hynny yn Rheolau Sefydlog 29. Rydym ni’n credu bod organebau sy’n cael eu haddasu yn enetig yn gadarn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon, ac nid yw'r Bil bridio manwl yn gwneud unrhyw ddarpariaethau'n uniongyrchol mewn perthynas â Chymru. Roeddem ni am gymryd ymagwedd ofalus tuag at beirianneg enetig, ac rwy'n deall yn iawn y gwahaniaeth rhwng GM a GE, ond fe ddewison ni gymryd yr ymagwedd honno.
Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl hon yn ei ddangos mewn gwirionedd heddiw yw, lle mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn effeithio'n negyddol ar ddatganoli mae'n rhaid i ni weithredu i leihau ei effeithiau, a byddwn yn parhau i herio effeithiau negyddol y Ddeddf a hyrwyddo hawliau'r Senedd hon i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y sesiwn graffu a gawsoch gyda'r Cwnsler Cyffredinol ddoe, ac effeithiau UKIMA ar y Bil hwn a'r Bil Plastig untro. Rwy'n gwybod y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y mater hwn, felly ni wnaf ddrysu pethau yma nawr. Rwy'n hapus iawn i gefnogi, os yw Huw Irranca-Davies a'i bwyllgor eisiau ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes—ac rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd yn cytuno—os ydych chi'n credu mewn adolygiad o Reolau Sefydlog, rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd a'r Pwyllgor Busnes yn edrych ar hynny.
Rwy'n credu bod Sam Kurtz, yn ei gyfraniad, wir yn meddwl ein bod ni wedi diystyru hyn, a dydw i ddim wedi ei ddiystyru; dydw i ddim yn anghytuno bod gan y dechnoleg addewid mawr, ac y gallai gael addewid mawr, ond yr hyn nad ydw i'n ei ddeall yw na allwch chi weld mai ein dyletswydd ni fel deddfwyr yw ystyried yn ofalus y dystiolaeth am newid yn gyntaf a'r goblygiadau posib, a dyna rydyn ni'n bwriadu ei wneud. Rwy'n credu bod gennym ni'r amser i ystyried yn ofalus yr hyn rydyn ni'n ei wneud yma. Felly, gadewch i ni ei gymryd. Pam ddim ei gymryd? Dim ond un cyfarfod rydw i wedi ei gael gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, ac fe ddof fi at hynny yn y man, ond yn sicr, fy nealltwriaeth i ganddo oedd y bydd hyn yn cymryd cwpl o flynyddoedd, i'r organebau PB cyntaf ddod ar y farchnad. Mae gennym ni'r amser, felly gadewch i ni gymryd yr amser hwnnw, gadewch i ni ei ystyried, a gadewch i ni ofyn am farn.
Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am labelu, a dyna oedd fy mhrif gwestiwn, neu un o fy mhrif gwestiynau, i'r Arglwydd Benyon, y Gweinidog yn Llywodraeth y DU, a'r ateb oedd, pe bai ni'n labelu hyn yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu, gallai defnyddwyr gredu bod yna risg diogelwch, oherwydd ei fod wedi'i labelu. Nawr, yn y blynyddoedd rydw i wedi bod yn delio â bwyd a diod o Gymru—a byddwn i wedi meddwl y byddai Sam Kurtz yn cytuno—mae defnyddwyr eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod. Maen nhw eisiau gwybod beth sydd ynddo, oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud y penderfyniadau gwybodus hynny. Felly, pam ddim ei gael os nad yw'n unrhyw beth i boeni amdano? Os nad oes gennych chi unrhyw beth i'w guddio, beth am gael y labelu hwnnw? Felly, rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn nad oedd y Gweinidog yn cydnabod hynny.
Felly, i gloi, ni allwn ni gefnogi caniatâd ar gyfer y Bil hwn. Rwy'n credu ei fod yn dinistrio’r setliad datganoli, ac, fel y dywedais ar y cychwyn, rwy'n gofyn i Aelodau atal caniatâd ar gyfer y Bil hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.