Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 18 Ionawr 2023.
Byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Rwy'n credu bod y ffermwyr ifanc yn sefydliad gwych iawn. O edrych o amgylch y Siambr yn unig, mae'n amlwg iawn fod y sgiliau y maent yn eu dysgu i'w haelodau yn sgiliau bywyd trosglwyddadwy, os mynnwch. Felly, rwy'n sicr yn hapus iawn i edrych arno, ond daw hynny gyda rhybudd am mai ychydig iawn o arian dros ben sydd i'w gael. Ond yn sicr rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw geisiadau a ddaw ger bron.