Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 18 Ionawr 2023.
Gwych. Byddaf yn anfon yr wybodaeth honno at brif weithredwr newydd CFfI Cymru, sy'n dechrau'n fuan iawn.
Ond os ydym am ddenu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, Weinidog, mae'n rhaid inni sicrhau bod diogelwch a lles wedi'i ymgorffori yng ngwaith y sector. Mae ystadegau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dangos mai amaeth, ynghyd â choedwigaeth a physgota, sydd â'r gyfradd uchaf o anafiadau hunangofnodedig nad ydynt yn angheuol yn y gweithle, gyda 92 y cant o ffermwyr dan 40 oed yn awgrymu mai iechyd meddwl gwael yw'r broblem gudd fwyaf sy'n wynebu ffermwyr heddiw. Yn anffodus, nid anafiadau'n unig sy'n digwydd; cafodd cymuned Carreg-lefn ar Ynys Môn ei hysgwyd gan farwolaeth Macauley Owen, 26 oed, yn dilyn digwyddiad ar fferm ym mis Ionawr eleni. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid, yn ogystal â ffermwyr ar lawr gwlad sy'n bwydo'r genedl, i wella iechyd a diogelwch yn y diwydiant hwn?