Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 18 Ionawr 2023.
Wel, yn amlwg, byddai'n well gennyf pe bai'r holl arian yn mynd i ffermwyr Cymru, ond yn amlwg, y meini prawf yw bod yn rhaid plannu coed yma yng Nghymru. Felly, mae arnaf ofn, ar hyn o bryd, gyda'r meini prawf hynny, os yw'r cyfeiriad y tu allan i Gymru, gallant ymgeisio am yr arian hwnnw.
Rwy'n credu bod problem cwmnïau mawr yn prynu tir fferm—sef yr hyn rydych yn amlwg yn tynnu sylw ato—yn rhywbeth sy'n digwydd ar raddfa fawr yn ôl yr hyn a glywaf. Nid wyf wedi ei weld fy hun yn bersonol; gwn fod yna bocedi. Ac rwy'n gwybod hefyd fod yna gwmnïau wedi bod yn ffonio ein ffermwyr i weld a allant werthu eu fferm iddynt. Nid fy lle i yw dweud wrth ffermwyr i bwy y dylent werthu eu tir, ond yn sicr nid yw'n rhywbeth rwyf eisiau ei annog.