Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Felly, yn ôl y Gweinidog, mae yna lawer o fudd wedi bod i gymunedau Cymru, ac mi rydych chi am barhau efo hyn. Sut felly y mae'r Gweinidog yn esbonio bod bron i hanner y ceisiadau llwyddiannus o dan gynllun creu coetir yn ffenestr ymgeisio rhif 10 wedi mynd i ymgeiswyr a chyfeiriadau y tu allan i Gymru? Yn ôl ateb gefais i i gwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar, o'r 385 hectar o dir a dderbyniwyd ar gyfer y cynllun yn ffenestr 10, aeth 45 y cant i gwmnïau wedi eu cofrestru y tu allan i Gymru. Ydy'r Gweinidog yn credu bod hyn yn iawn, bod cwmnïau mawr o'r tu allan i Gymru yn manteisio ar raglenni Llywodraeth a phres trethdalwyr Cymru er mwyn 'offset-o' eu carbon ar draul ein cymunedau ni yma? Ac a ydyw'n gydnaws ag amcanion y Llywodraeth, fel dŷn ni wedi'i glywed, i ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru?