Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 18 Ionawr 2023.
Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor, rwy'n nodi mai dim ond un o'i 26 o argymhellion a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn gyfeirio yn fy sylwadau y prynhawn yma hefyd at rai o'r argymhellion y mae'n eu cynnwys. Mae argymhelliad 7 yn cyfeirio at annog teithwyr i ddychwelyd i ddefnyddio gwasanaethau bysiau cyhoeddus. Rwy'n cytuno'n fawr â hyn, fel y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr a thu hwnt hefyd rwy'n siŵr. Nod Llywodraeth Cymru, o'r diwrnod cyntaf, o'r hyn a glywais, yw cael pobl allan o'u ceir, oddi ar y ffyrdd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Da iawn. Mae'n nod rhagorol heb unrhyw amheuaeth, a byddai'n lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon. Fodd bynnag, ni all weithio heb fod gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cryf ac effeithlon yn y lle cyntaf.
Nid oes amheuaeth fod pobl sy'n byw yma yng Nghymru ac ar draws de-ddwyrain Cymru yn fy rhanbarth i, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Alun Davies, yn ddibynnol iawn ar geir. Ni allwch wadu'r realiti. Rydym wedi cael dadleuon, areithiau a chwestiynau dirifedi yn y Siambr hon, ac ni all neb wadu yma fod gwasanaethau bws yn annigonol, yn anaml a heb fod yn bodoli ledled Cymru. Mae diffyg gwasanaeth bws teilwng yn tanseilio'r economi ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl yn gyffredinol gael mynediad at swyddi a gwasanaethau hanfodol. Roedd nifer y teithiau bws lleol yn gostwng cyn y pandemig, diolch i flynyddoedd o gymorth ariannol annigonol gan Lywodraeth Cymru, yn anffodus, ac nid ydynt wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID o hyd. Mae llawer o wasanaethau bws heb ailddechrau ers y pandemig, gan adael preswylwyr wedi'u hynysu yn eu cymunedau. Ar ôl nifer o ddadleuon, cwestiynau ac areithiau yma yn y Senedd, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bws ar ôl blynyddoedd o danariannu cronig.
Rwy'n edrych ymlaen at weld cynigion manwl yn datblygu i gefnogi gwasanaethau bws yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill, ac rwy'n awyddus i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu ardaloedd gwledig i fforddio bysiau ecogyfeillgar yn y dyfodol. Mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r prinder gyrwyr bysiau sydd wedi gadael y sector am gyflog uwch mewn mannau eraill, ac yn hytrach na mynd i sefyllfa, fel y gwelwn gyda meddygon teulu, mae angen inni weithio ar hyn nawr yn hytrach nag yn hwyrach. Mae gwella cyflogau ac amodau gyrwyr lorïau wedi arwain at lawer o yrwyr bysiau yn gadael eu swyddi, gan achosi'r hyn a gafodd ei disgrifio fel y sefyllfa adnoddau fwyaf heriol a welodd y diwydiant bysiau erioed. Mae'n hyfryd ein bod i gyd yn dweud pethau cadarnhaol, ond mae angen inni wneud mwy na siarad nawr mewn perthynas â bysiau.
Mae argymhelliad 23 yn galw ar Trafnidiaeth Cymru i roi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf gyda chostau'r metro. Mae'r prosiect metro yn elfen allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru i annog pobl oddi ar y ffordd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y pen draw. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y byddai oedi o fisoedd—ac nid blynyddoedd—i gwblhau prosiect metro de Cymru o ganlyniad i'r pandemig, gyda'r dyddiad cwblhau yn 2023 o hyd.
Ym mis Mai y llynedd, dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod cost y prosiect metro yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'i gyllideb o £734 miliwn, gyda'r gorwariant yn debygol o fod yn ddegau o filiynau o bunnoedd—degau o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Cafodd cwblhau'r prosiect ei oedi tan 2024, ac ym mis Tachwedd y llynedd, cadarnhawyd y byddai oedi pellach i'r uwchraddio, gyda'r rhagolygon y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn gorffen yn 2024, ond heb ddyddiad ar gyfer cwblhau'r prosiect yn llawn, sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl, rwy'n siŵr. Un o'r rhesymau a roddwyd am yr oedi pellach oedd COVID, er bod Trafnidiaeth Cymru wedi dweud yn flaenorol na fyddai'n achosi oedi y tu hwnt i 2023. Felly, unwaith eto, rwy'n ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i'n hysbysu pryd y bydd gwaith ar fetro de Cymru yn cael ei gwblhau o'r diwedd. A beth yw'r amcangyfrif diweddaraf o gyfanswm cost prosiect blaenllaw Llywodraeth Cymru i gael pobl oddi ar y ffordd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Mae argymhelliad 25 yn galw ar Trafnidiaeth Cymru i roi diweddariad ynghylch y peilot tocynnau integredig ac egluro beth yw'r camau nesaf. Un o'm gweithredoedd cyntaf ar ôl cael fy ethol i'r Senedd oedd galw am gerdyn teithio i Gymru gyfan er mwyn caniatáu teithiau di-dor ar draws Cymru, un cerdyn yn unig—yn debyg i'r hyn rydych i gyd wedi'i weld mae'n debyg—fel y cerdyn Oyster yn Llundain. Er clod iddo, a rhaid imi roi clod iddo am hyn, ymatebodd y Prif Weinidog gydag optimistiaeth a dweud ei fod yn syniad gwerth ei archwilio a'i fod yn wirioneddol ymroddedig i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cerdyn o'r fath i bobl Cymru.
Ym mis Hydref y llynedd, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am ddiweddariad ar y cynlluniau hyn, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd,
'Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer tocynnau integredig'.
Felly, wrth symud ymlaen, gadewch imi gofnodi fy nheimladau yma heddiw pan ddywedaf fy mod yn siomedig iawn ynghylch y diffyg cynnydd ar y mater hwn, ac er i Trafnidiaeth Cymru roi tudalen ar eu gwefan yn dweud y byddai'r cerdyn teithio yn dod yn fuan, fe wnaethant ei thynnu i lawr yr un mor sydyn. Hoffwn ofyn am ddiweddariadau rheolaidd yn y Senedd hon ar ddarparu cerdyn teithio i Gymru gyfan gan y bydd yn sylfaen i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gref a chynaliadwy yma yng Nghymru i bobl Cymru, oherwydd os na weithiwn arno nawr, nid wyf yn teimlo y gwnawn ni byth lwyddo i gyflawni rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd cryf yma i bobl Cymru.