7. Dadl Plaid Cymru: Rheoli'r pwysau ar y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:30, 18 Ionawr 2023

Yn anffodus, gwaethygu mae pethau. Rydyn ni'n gweld esiamplau efo pobl yn dweud, 'Does dim pwynt i mi ffonio'r meddyg', 'Does dim pwynt i mi ffonio am ambiwlans oherwydd dwi ddim yn mynd i gyrraedd yna.'

Mi hoffwn i ganolbwyntio'n benodol ar effaith yr argyfwng ar ferched, sydd, wrth gwrs, yn cyfrif am ychydig dros 50 y cant o boblogaeth Cymru, ac eto mae astudiaethau yn dangos fod bwlch iechyd rhwng y rhywiau yn parhau i fodoli, a bod rhwystrau i fenywod gael mynediad i'r gofal iechyd sydd ei angen arnynt.