1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2023.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba mor hygyrch yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl â nam ar eu golwg? OQ59018
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb. Byddwn yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a'r darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu dylunio a'u darparu gyda chyfraniad y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o nam ar y golwg.
Diolch. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, mae'r profiad y mae rhai pobl anabl yng Nghymru yn ei gael wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i fod yn druenus o bell o'r safonau yr ydym ni'n eu disgwyl ac y maen nhw'n eu haeddu. Rwy'n derbyn gohebiaeth reolaidd gan drigolion yn fy rhanbarth yn achwyn am y diffyg ystyriaeth a'r gofal tuag atyn nhw a'u hanghenion, ac mae e-bost diweddar gan breswylydd sydd newydd golli ei golwg yn dangos pa mor frawychus a pheryglus y gall teithio ar y rheilffordd o'r Cymoedd i mewn i Gaerdydd, ac yna ymlaen i rywle arall, fod. Nid oedd unrhyw gymorth ar gael iddyn nhw wrth fynd ar unrhyw un o'r trenau na'u gadael, a oedd yn frawychus iawn iddyn nhw oherwydd y bwlch mawr rhwng y trên a'r platfform. Ni chawson nhw unrhyw gymorth o gwbl chwaith wrth geisio mynd drwy'r clwydi tocynnau, a achosodd gryn banig wrth iddyn nhw gael trafferth wrth geisio dod o hyd i'r slot tocynnau. Ar ben hynny, nid yn unig nad oedden nhw'n gallu prynu tocyn cyn teithio, gan nad oedd swyddfa docynnau ac nad oedd y peiriannau yn addas i'r rhai â nam ar eu golwg, ond fe'u rhwystrwyd rhag defnyddio eu cerdyn rheilffordd hyd yn oed gan y casglwr tocynnau ar y trên gan nad oedden nhw wedi prynu eu tocyn cyn teithio, sef y peth anghywir i'w wneud mewn gwirionedd. Felly, Prif Weinidog, hoffwn wybod pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r problemau y mae'r rhai hynny sydd â nam ar eu golwg neu sy'n dioddef o ddallineb yn eu cael wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru? A pha sicrwydd allwch chi ei roi y trefnir bod cymorth ar gael i'r rhai sydd â nam ar y golwg ac anableddau eraill wrth ddefnyddio system fetro newydd de Cymru? Diolch.
Diolch i Joel James am hynna. Nid yw byth yn dda clywed am y math o brofiad y mae wedi ei rannu, ond gallaf ddweud wrtho ac wrth y Siambr bod y pwnc hwn yn gwbl flaenllaw yng nghyfarfod diweddar y fforwm cydraddoldeb anabledd gweinidogol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, ddiwedd mis Tachwedd—cyfarfod a oedd yn canolbwyntio ar brofiad pobl ag anableddau, gan gynnwys cynrychiolaeth dda o bobl sydd eu hunain â nam ar eu golwg, ynghyd â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ac uwch staff trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfarfod hwnnw yn cael ei ddilyn gyda chyfarfod arall ym mis Chwefror. Fe wnaeth y cyfarfod archwilio rhai o'r rhwystrau y mae pobl sy'n wynebu anawsterau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu cael wrth leisio'u barn yn rymus gyda darparwyr y drafnidiaeth honno. Ond roedd y ffeirio geiriau yn llawn a gonest iawn ynghylch y safbwyntiau hynny, a daethpwyd i'r casgliad ei fod wedi agor y ffordd i wneud yn siŵr, i'r bobl hynny sy'n rhoi o'u hamser yn wirfoddol i fod yn rhan o'r panel hygyrchedd y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnal, y gall y gwaith fod yn fwy effeithiol i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael yn briodol i bobl sydd â nam ar eu golwg neu sydd ag anableddau eraill yn y dyfodol. Mae'r panel anabledd hwnnw wedi bod yno ers cryn amser; mae eisoes wedi cael effaith ar waith Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n siŵr, o ystyried yr hanes a ddarllenwyd gan Joel James, y bydd yn dymuno llongyfarch Trafnidiaeth Cymru ar ei benderfyniad i beidio â chau swyddfeydd tocynnau yng Nghymru fel y cyhoeddwyd ar gyfer pob gorsaf yn Lloegr.
Prif Weinidog, gan droi at wasanaethau bysiau, sef, wrth gwrs, y rhan o'n system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei defnyddio fwyaf, ac, yn amlwg, yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei chynigion ar gyfer newid deddfwriaethol a model newydd ar gyfer rhedeg gwasanaethau bysiau, mae arwyddion llafar yn un ateb i alluogi pobl sydd wedi colli eu golwg gael gafael ar wybodaeth deithio ar safleoedd bws. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i gyflwyno cynlluniau tebyg yma yng Nghymru yng ngoleuni'r cynigion ynghylch dyfodol ein gwasanaethau bysiau?
Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Cyflwynodd y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ni cyn y Bil bysiau gynlluniau i gynnwys lleisiau teithwyr ar lefel uchaf un system fysiau newydd, i wneud yn siŵr bod adborth uniongyrchol gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, ac yn enwedig y rhai sydd angen cymorth ychwanegol i wneud hynny, yn cael ei glywed yn rymus yn y system yr ydym ni'n bwriadu ei chreu. Mae'r syniad y mae Vikki Howells wedi ei awgrymu sef safleoedd bws yn gallu darparu gwybodaeth y gallwch chi ei chlywed yn ogystal â gwybodaeth y gallwch chi ei gweld yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod gydag awdurdodau lleol yn rhan o raglen waith ehangach i wneud safleoedd bws yn fwy hygyrch i amrywiaeth ehangach o bobl. Bydd y cynigion deddfwriaethol y byddwn ni'n eu cyflwyno gerbron y Senedd yn sicr yn ei gwneud hi'n haws i rannu gwybodaeth o ansawdd uchel a chyfredol am wasanaethau bysiau ac, felly, eu gwneud yn fwy hygyrch i deithwyr.