2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2023.
4. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU yn gallu manteisio ar arbenigedd y sector cyfreithiol yng Nghymru? OQ58987
Mater i gadeirydd yr ymchwiliad yw penodi arbenigedd cyfreithiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r ymchwiliad, a bu'n rhagweithiol wrth fynd ati i wneud yr ymchwiliad yn ymwybodol o drefniadau cyfansoddiadol a chyfreithiol Cymru fel bod modd asesu lefelau o arbenigedd.
Os caf dynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant. O'r 12 Cwnsler y Brenin, a'r 50 bargyfreithiwr iau a benodwyd i ymchwiliad COVID y DU, nid oes yr un ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru. Nid dyna'r sefyllfa yn yr Alban na Gogledd Iwerddon wrth gwrs. Ni fyddent byth yn goddef hynny, na fyddent, Gwnsler Cyffredinol? Mae'n ymddangos mai Cymru, unwaith eto, yw'r genedl a anghofiwyd—dadl gref arall dros ymchwiliad COVID i Gymru. Pa gamau a gymerwyd gennych i unioni'r sefyllfa a sicrhau bod ymchwiliad y DU yn adlewyrchu'r system ddatganoledig yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau a wnewch am y proffesiwn cyfreithiol Cymreig yn rhai pwysig yn fy marn i. Nododd tîm ymchwiliad y DU ei fwriad i geisio cymorth staff a chymorth cyfreithiol o bob rhan o'r DU, gyda thîm ymchwiliad Llywodraeth Cymru yn argymell iddynt y dylid gofyn am gyngor o gylchdaith Cymru a Chaer y bar. Mae'n wir, wrth gwrs, o ran y gynrychiolaeth gyfreithiol sy'n cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru, fod mewnbwn sylweddol gan y bar yng Nghymru, ac yn amlwg fe wnaf bopeth a allaf, ym mhob agwedd ar fy ngwaith, i hyrwyddo manteision defnyddio'r proffesiwn cyfreithiol Cymreig lle bo hynny'n briodol, a materion a allai godi wrth gwrs. Yn yr un modd, un mater y mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso amdano yw'r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn nhrefniadau'r ymchwiliad, a'r cadarnhad y bydd yn digwydd.
O ran yr ymchwiliad ei hun, i mi, yr hyn sy'n hollbwysig, yw beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y cwestiynau sydd gan gymdeithas yn gyffredinol, y cwestiynau y mae teuluoedd mewn profedigaeth oherwydd COVID am gael ateb priodol iddynt. Beth yw'r mecanwaith cywir ar gyfer sicrhau bod yna bwerau i sicrhau bod tystiolaeth ar gael, fod y tystion ar gael, fod popeth sy'n angenrheidiol er mwyn ateb y cwestiynau hynny'n cael ei wneud? Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r safbwynt sydd ganddi. Ond gallaf gadarnhau unwaith eto, ac ailadrodd wrth gwrs y bydd yna gyfreithwyr Cymreig yn rhan o gynrychiolaeth Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad COVID.