Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 25 Ionawr 2023.
Hoffwn ddiolch hefyd, fel y gwnaeth Delyth Jewell, i randdeiliaid o'r sectorau chwaraeon a diwylliant yng Nghymru am roi eu hamser i'r pwyllgor a nodi'r materion allweddol sy'n eu hwynebu.
Fe wnaeth nifer o bethau fy nharo wrth inni gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad, gan gynnwys ystod enfawr o broblemau y mae'r sectorau hyn yn eu hwynebu. Er enghraifft, cawsom dystiolaeth a oedd yn dangos bod cynnydd mewn cyflogau yn ffactor mawr mewn perthynas â throsiant staff, yn ogystal â fforddiadwyedd cadw staff. Felly, mae'n amlwg fod yn rhaid i ni, unwaith eto, ddibynnu ar wirfoddolwyr i helpu i gadw ein sector diwylliant bywiog i fynd. Rwy'n gredwr mawr mewn gwirfoddoli, ond yn credu nad rhoi mwy o faich arnynt heb gefnogaeth gadarn yw'r ffordd i fynd. Felly, byddai'n dda clywed gan y Dirprwy Weinidog beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy'n dilyn gyrfaoedd yn y maes hwn yn cael eu hannog, ond hefyd pa gefnogaeth ychwanegol at hynny sy'n cael ei darparu i wirfoddolwyr yn ogystal.
Mae parodrwydd hefyd yn fater sy'n codi. Nid yw'r arian gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi ystyried cynnydd mewn costau cyn y pandemig. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethom ei glywed gan y tystion a ddaeth ger ein bron. Yn amlwg, cafodd lleoliadau diwylliannol a chwaraeon eu cefnogi drwy gydol y pandemig gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond mae yna ymdeimlad na cheir gwybodaeth am eu cyllid hirdymor, ac ni fydd cefnogaeth yn y tymor byr, fel yr amlinellwyd gan y Dirprwy Weinidog yn ei hymateb i'r pwyllgor, yn helpu yn hynny o beth. Felly, dylem fod yn edrych ymhellach i lawr y ffordd a sicrhau bod yr adnoddau cymunedol hanfodol hyn yn cael eu diogelu a'u meithrin. Ac rwy'n teimlo'r pryderon a amlinellir gan randdeiliaid pan ddywedant,
'Mae'r sector yn fregus yn ariannol—llawer o archebion hwyr, diffyg hyder y cyhoedd ac arian parod, niferoedd uchel nad ydynt yn dod felly dim incwm eilaidd yn y bariau ac ati.'
Mae'r breuder hwnnw, ochr yn ochr â chostau ynni cynyddol, yn peri i leoliadau godi eu prisiau, sydd yn ei dro yn prisio llawer o unigolion a theuluoedd yng Nghymru allan o fwynhau'r sector celfyddydau a diwylliant, sydd wedyn yn troi'n gylch dieflig.
Ddirprwy Lywydd, Chwaraeon Cymru a ddarparodd y rhan wirioneddol bryderus o'r dystiolaeth a gawsom, lle nodwyd bod costau cynyddol yn effeithio'n negyddol ar allu dau o bob pump o bobl a bod 30 y cant yn dweud eu bod yn gwneud llai o weithgarwch corfforol o ganlyniad. Dylai hynny ganu larymau ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn sgil ffocws ar leihau gordewdra, yn ogystal â gwerth chwaraeon i atal cyflyrau iechyd hirdymor.
Os caf droi at ateb Llywodraeth Cymru, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn pob un heblaw dau o'r argymhellion. Fodd bynnag, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn argymhelliad 4 ynglŷn â darparu cyllid cyfalaf i'r sector chwaraeon a diwylliant ar gyfer gwyrddu eu defnydd o ynni, ond yn ei hymateb soniodd y byddai'n cael ei ddarparu drwy'r cyllid grant cyfalaf heb ei glustnodi a roddir i gynghorau. A dywedodd y gellid defnyddio'r arian hwn
'a roddir i Awdurdodau Lleol i gynnal eu cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol os yw Awdurdodau o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.'
I mi, rwy'n teimlo bod hwnnw'n gymal osgoi braidd, gan y bydd gan awdurdodau lleol flaenoriaethau sy'n cystadlu, yn amlwg, ac efallai na fydd sicrhau bod lleoliadau diwylliannol a chwaraeon yn gwneud defnydd effeithlon o ynni ar frig y rhestr honno o reidrwydd. Roedd hwn yn bwynt a wnaed yn dda iawn gan Community Leisure UK Cymru yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, felly byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed sut mae'r derbyniad hwn gan y Dirprwy Weinidog yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.
Siom hefyd oedd gweld o'r argymhellion nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn agor deialog gyda Llywodraeth y DU ar becynnau cymorth chwaraeon a diwylliannol, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle a gollwyd. Er enghraifft, roedd y Pwyllgor Technoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Senedd y DU yn galw am ryddhad treth gwerth ychwanegol ym mis Tachwedd, a allai fod yn help mawr i'r sector cerddoriaeth fyw a'r sector treftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer adfer adeiladau a gwerthiant tocynnau. Hefyd, fe glywsom pa mor bwysig oedd y gronfa adferiad diwylliannol i lawer yn y sector celfyddydau yng Nghymru, ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n cael ei ddatblygu.
Ymddengys bod yma thema. Roedd yr argymhelliad arall a wrthodwyd gan y Dirprwy Weinidog hefyd yn ymwneud â gwella ymgysylltiad â'r sector diwylliannol. Felly, mae'n edrych yn debyg efallai nad yw Llywodraeth Cymru'n dda am chwarae gydag eraill, ac mai perthynas un ffordd yw hi. Os yw'r hanes o ymgysylltu â'r sectorau hyn yn rhagorol fel y dywedwch, Ddirprwy Weinidog, pam mae'r argymhelliad hwnnw wedi ei gynnwys yn y lle cyntaf yn adroddiad y pwyllgor?
Nid yw'n alwad i sicrhau'n unig fod ein diwylliant yn cael ei ddiogelu, ond yn rhesymegol, mae'n rhan o'n heconomi hefyd. Mae'n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfleoedd economaidd enfawr, fel gwneud cais i gynnal Eurovision a Gemau'r Gymanwlad, a fyddai wedi arddangos ein talent ar lwyfan rhyngwladol. I gloi felly, dylai fod yn ddyletswydd arnoch chi fel Gweinidog a ninnau fel Aelodau o'r Senedd i ddangos pa mor bwysig yw diwylliant cyfoethog a balchder chwaraeon Cymru, yn enwedig i sicrhau eu bod yn parhau. Yn hytrach, yr hyn na ddylem fod yn euog ohono yw gwylio o'r cyrion yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n wynebu'r sectorau hyn. Diolch.