3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella darpariaeth bancio gwledig yn sir Ddinbych? OQ59049
Mae'r penderfyniadau ynglŷn â lleihau bancio ar y stryd fawr yng Nghymru yn rhai sydd yn nwylo'r prif fanciau manwerthu. Rydw i'n cymeradwyo'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan nifer o bobl, gan gynnwys y rhai yn Ninbych, i gadw cangen banc. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i wireddu ein huchelgais o ran bancio cymunedol yng Nghymru.
Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, Gweinidog, a'r rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn heddiw yw am yr union reswm hwnnw, oherwydd bydd HSBC yn Ninbych yn cau yn yr haf fel rhan o 114 o ganghennau yn cau ar draws y DU. Ond yr hyn nad ydw i'n ei gredu yw bod y diwydrwydd dyladwy wedi cael ei ystyried ar gyfer pobl mewn ardaloedd gwledig, ac yn arbennig pobl Dinbych, lle na all rhai deithio cyn belled â'r Rhyl neu Rhuthun i gyflawni eu materion ariannol os ydyn nhw'n oedrannus, yn anabl, ddim yn gallu gyrru neu nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Pan holais am hyn yn y datganiad busnes yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Trefnydd wrthyf nad oedd y mater wedi ei ddatganoli i Gymru ac felly nad oedd angen datganiad. Ond fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, yn 2021 ryddhau datganiad am gynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi trefi sydd wedi colli eu banciau. Felly pa un ydyw, Gweinidog, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud i gefnogi pobl yng nghefn gwlad sir Ddinbych?
Nid yw gwasanaethau ariannol yn fater sydd wedi ei ddatganoli. Ond mae gennym ni uchelgais i helpu i wella mynediad at wasanaethau lleol, a dyna pam rydyn ni'n ymwneud â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ar raglen i geisio adfywio bancio cymunedol mewn amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru.
Rwy'n cydnabod, o fewn y dros 100 o fanciau i gau ledled y DU, y bydd 12 o'r canghennau HSBC hynny sy'n cau yng Nghymru. Mae'n rhan o'r duedd rydyn ni wedi gweld, rhan o'r ffordd sy'n newid mae defnyddwyr yn dewis bancio, a beth mae hynny'n ei olygu yw bod rhaniad yn y ffordd mae gwahanol bobl yn cael mynediad at fancio. Felly, mae'n fater gwledig yn rhannol, ac mae hefyd yn broblem mewn cymunedau trefol yn ogystal â chael mynediad at arian parod. Nawr, fy nealltwriaeth i yw, er yn achos Dinbych, bod HSBC wedi creu adroddiad dadansoddi effaith, nid ydym eto wedi gweld yr adroddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael ei gyhoeddi ac ar gael ar-lein er mwyn deall y gost uniongyrchol. Nawr, byddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid eraill mewn ardaloedd nad ydym ni'n uniongyrchol gyfrifol amdanynt, ond rydym ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod ni'n cydnabod y dylai fod budd gwirioneddol i gael mynediad at wasanaethau ariannol fforddiadwy mewn cymunedau na fydd efallai'n eu gweld fel arall. Felly, byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yng Nghymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, byddwn ni'n cynnal ein sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU, ac edrychwn ymlaen at weld a fydd canolfannau bancio mewn gwirionedd yn darparu graddfa a chyflymder cyflwyno i geisio paru cyflymder a nifer o ganghennau sy'n cau. Nid wyf yn obeithiol y byddwn ni'n gweld paru rhwng y ddau, ond byddwn yn parhau i ymgysylltu mor adeiladol ag y gallwn ni ac y dylen ni fod.
Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, i gael cyfle unwaith eto i godi'r mater o ddarpariaeth bancio yn y Senedd. Rwy'n credu ei fod yn un sydd wedi'i drafod droeon ar lawr y Siambr yma. Mae'n un sy'n effeithio ar bob cornel o Gymru. Bydd y Gweinidog yn llwyr ymwybodol o fy ymgyrch hirsefydlog i ddod â changen banc cymunedol cyntaf Cymru i Fwcle yn fy etholaeth fy hun. Yr hyn sy'n amlwg, Gweinidog, yw bod consensws a chefnogaeth drawsbleidiol amlwg dros sefydlu cynnig beiddgar Llywodraeth Cymru o fanc cymunedol, ond mae'n bwysig ein bod ni nawr yn darparu'r cynnig beiddgar hwnnw. A gaf i ofyn i'r Gweinidog a fydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau y bydd Banc Cambria yn cael ei symud ymlaen cyn gynted â phosib?
Yn sicr, rydyn ni'n edrych i symud ymlaen cyn gynted â phosib, a dyna'r her, oherwydd mae'r amgylchedd sy'n ymwneud â hyn wedi newid. Mae'r amgylchedd o ran y farchnad morgeisi mewn lle gwahanol nawr, mae gen i ofn. Rydyn ni'n debygol o weld newid mewn prisiau tai dros y flwyddyn nesaf, gyda dirwasgiad yn cael ei ragweld ar y cyfan. Felly, rwy'n cyfarfod â'm swyddogion a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ar y prosiect bancio. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd bellach yn ymgysylltu, oherwydd mae gen i'r dasg o geisio cael y banc wedi'i sefydlu ac yna byddai'n newid i bortffolio'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer ei ymgysylltiad parhaus â Gweinidogion yma. Mae'r Aelod yn codi Bwcle yn rheolaidd, ac rwy'n meddwl ei fod hefyd yn cytuno'n hael y gallen ni alw'r banc cymunedol yn fanc Bwcle pe byddem ni eisiau. Er nad ydw i'n credu y byddwn ni'n gwneud hynny, byddwn yn parhau i roi cymaint o wybodaeth â phosibl i'r Aelodau, ac rwy'n gobeithio y bydd gennym ni ddiweddariad yn y misoedd nesaf ar gyflymder y gwaith sy'n cael ei wneud. Rwyf i hefyd yn awyddus iawn bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy a Banc Cambria eu hunain yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag Aelodau, oherwydd, rydych chi'n iawn, mae cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Mae'n bwysig ei fod yn parhau i gael ei weld yn y ffordd honno gydag ymgysylltu'n uniongyrchol ag Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol.