– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 31 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gynllunio'r Gymraeg mewn addysg, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar ein gwaith cynllunio'r Gymraeg mewn addysg.
Ers fy natganiad diwethaf, rwy'n falch o ddweud bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd awdurdodau lleol wedi cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi ac yn weithredol. Nid yn unig hynny, rwyf wedi derbyn 22 o gynlluniau gweithredu sydd yn manylu sut y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu'r CSCAs yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Hoffwn ddiolch i bawb ar lefel awdurdod lleol a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth barhaus a'u cyfraniad i’r agenda hwn. Mae'n dangos i mi ymrwymiad a dealltwriaeth go iawn o'r angen i barhau i symud ymlaen, gyda'n gilydd, gyda gweledigaeth glir.
A gweithredu ar eu hymrwymiadau yw'r union beth maen nhw'n bwriadu ei wneud. Dyma’r neges glir gan arweinwyr y cyngor a chyfarwyddwr addysg yn ystod ein cyfarfodydd i drafod y CSCAs y tymor diwethaf. Rŷn ni i gyd yn gwybod nad yw addysg a chynllunio iaith yn hawdd, yn enwedig gan fod man cychwyn pob awdurdod lleol yn wahanol. Mae angen inni barhau, felly, i weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud a'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn dod â ni'n agosach at ein huchelgais 'Cymraeg 2050' o filiwn o siaradwyr Cymraeg. O'm rhan i, rwyf am wneud yn siŵr bod canllawiau a gyhoeddir i awdurdodau lleol yn adlewyrchu ein hymrwymiadau 'Cymraeg 2050'. Mae canllawiau newydd eisoes wedi'u cyhoeddi ynglŷn â grantiau cyfalaf cymunedau dysgu cynaliadwy a'r CSCA, fel bod cynlluniau buddsoddi'n cael eu hasesu yn erbyn y CSCA, i sicrhau’r gallu i gyrraedd targedau'r CSCA. Rŷn ni hefyd yn bwriadu adolygu'r cod trefniadaeth ysgolion, gyda gwaith eisoes ar y gweill i adnabod pa newidiadau sydd eu hangen.
Roeddwn i'n falch o allu dyrannu £7 miliwn arall o gyllid cyfalaf yn ystod tymor yr hydref i gefnogi ymrwymiadau CSCA awdurdodau lleol. Mae hyn ar ben yr £105 miliwn a gymeradwywyd ers 2018. Mae'r £6.6 miliwn i ehangu darpariaeth drochi hwyr ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon yn ennill momentwm, gyda phob cais gan awdurdodau lleol yn weithredol ers mis Medi. Bydd yr arian yn galluogi awdurdodau lleol i gyflogi dros 60 o arbenigwyr trochi hwyr dros y blynyddoedd nesaf. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, maen nhw wedi gallu agor eu canolfan drochi gyntaf yn Ysgol Gwaun y Nant trwy'r grant hwn. Rŷn ni hefyd yn cefnogi rhaglen drochi rithiol yng Ngwynedd, gan ddefnyddio technoleg VR, adnodd fydd o fudd i Gymru gyfan.
Lansiwyd ein rhwydwaith i gefnogi addysg drochi ym mis Rhagfyr y llynedd i ddod ag awdurdodau lleol, ysgolion ac arbenigwyr trochi hwyr at ei gilydd i sicrhau bod datblygiadau mewn arferion trochi hwyr yn seiliedig ar wybodaeth ac ymchwil. Rwy'n falch iawn o'r hyn rŷn ni wedi'i gyflawni yn y maes hwn. Mae ein darpariaeth drochi hwyr ni yn unigryw i ni yng Nghymru, ac mae'r potensial i ni fynd hyd yn oed ymhellach yn glir i'w weld.
Allwn ni ddim, fodd bynnag, anwybyddu canlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr. Roedd y ffigurau ynglŷn â phlant tair i 15 oed yn siomedig, gan ein bod yn gwybod bod mwy o ddysgwyr mewn addysg Gymraeg heddiw nag oedd 10 mlynedd yn ôl—dros 11,000 yn fwy. Fe wnes i sôn yn fy natganiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg ar 24 Ionawr, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i'n nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r nifer ohonom sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.
Mae cynnal gwell dealltwriaeth o'r data yn rhan allweddol o gynllunio’r Gymraeg mewn addysg. Darparwyd proffil data Cymraeg lleol i awdurdodau lleol wrth baratoi eu CSCA, fydd yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Byddaf hefyd yn cyhoeddi trosolwg cenedlaethol yn seiliedig ar adroddiadau adolygu’r CSCA.
Ers cyhoeddi ein cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd ym mis Mai 2022, rŷn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i ddatblygu dull cyson o ddadansoddi data sy'n cael ei gasglu gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth fanylach o’r nifer o athrawon ychwanegol sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau awdurdodau lleol i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd hefyd yn galluogi rhanddeiliaid i dargedu ein cefnogaeth yn well i gefnogi pob ymarferwr i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg.
Rŷn ni am sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Rŷn ni wedi ymrwymo i sefydlu a gweithredu continwwm o ddysgu Cymraeg fel bod gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o'r daith i ddysgu'r Gymraeg a'r canlyniadau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o'r daith honno. Rhan hanfodol o'r gwaith hwn fydd sicrhau bod y continwwm yn gallu cael ei ddefnyddio o fewn y system addysg statudol i gefnogi Cwricwlwm i Gymru yn ogystal ag wrth ddysgu ôl-16 a dysgu oedolion. Rŷn ni wedi bod yn archwilio gyda rhanddeiliaid cyfleoedd i ddefnyddio’r fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin o ran lefelau iaith, neu the common European framework of reference for languages, CEFR, fel y'i gelwir, fel sail i ddatblygu continwwm Cymraeg. Bydd gwreiddio'r continwwm yn cymryd amser, ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfle i ddysgu Cymraeg ar gael i bawb.
Byddwn ni'n parhau i weithio ar draws pob ysgol a lleoliad i sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu Cymraeg yn arloesol ac yn cael ei chefnogi gan ddysgu proffesiynol ac adnoddau. Mae'n rhaid inni ailffocysu ein hymdrechion yn y sector cyfrwng Saesneg. Rwy'n ymfalchïo yn y gwaith caled sy'n digwydd mewn ysgolion ac rwy'n gwybod bod awydd a brwdfrydedd ymhlith athrawon Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r cwricwlwm newydd. Rŷn ni eisoes wedi cyhoeddi'r fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg, a’r gwersi Cymraeg am ddim trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddysgwr 16 i 25 a hefyd y gweithlu addysg, sy’n enghraifft wych o'r cydweithio sy’n digwydd gyda’n partneriaid.
Ers mis Medi, rŷn ni wedi ariannu'r ganolfan a chwmni Say Something in Welsh i ddatblygu ap i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg dysgwyr a datblygu eu hyder. Mae gan ddatblygiadau fel hyn y potensial i gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob un o'n hysgolion. Rŷn ni'n bwriadu cyflwyno'r peilot hwn i 10 ysgol Saesneg arall, ac mae'r cynllunio ar gyfer hynny'n dechrau nawr. Byddwn ni hefyd yn datblygu mwy o adnoddau i sicrhau bod ein dysgwyr Cymraeg yn cael cefnogaeth cryf i ddod yn siaradwyr hyderus, balch. Wrth gwrs, nid yw’r un dull yn gweddu i bawb, a rhaid inni barhau i ddod o hyd i gyfres o ymyraethau gwahanol i gefnogi pob dysgwr, lle bynnag y maen nhw ar eu taith iaith.
Mae'r rhain i gyd yn gamau bach ond arwyddocaol, ac mae angen i ni eu dathlu. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n hyderus y gallwn ni gyflawni mewn partneriaeth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'r datganiad y prynhawn yma.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod yn rhaid inni ddatblygu strategaeth bolisi integredig er mwyn cyflawni 'Cymraeg 2050' a fydd yn gweld Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol, a vice versa, nid mewn seilos ar wahân. Er nad oes gen i wrthwynebiad i'r hyn y mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn gobeithio ei gyflawni, mae gen i bryderon o ran sut mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio i ddarparu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Bydd y Gweinidog yn cofio i mi godi pryderon ynghylch ei anallu presennol i graffu ar awdurdodau lleol a gweithrediad eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg.
Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, os yw 'Cymraeg 2050' am gael ei gyflawni, yna mae'n rhaid i bob lluniwr polisi yma neu yn neuaddau sir ledled Cymru fod yn atebol am gyflawni ar gyfer y Gymraeg. Yn bwysig iawn, mae yna rôl y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei chwarae i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn gwireddu'r cynllun strategol maent wedi'i addo. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid yw hyn yn wir.
Fel sydd wedi ei sefydlu, mae Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn ddull gan Lywodraeth Cymru o sicrhau bod pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau er budd amcanion a thargedau Llywodraeth Cymru ei hun, yn yr achos hwn, 'Cymraeg 2050'. Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru, sy'n penderfynu os ydyn nhw'n foddhaol neu beidio. Pan y'u hystyrir yn foddhaol, mae'r awdurdod lleol yna'n gweithredu'r cynllun hwnnw. Ond pe bydden nhw'n methu â darparu'r cynllun, yna nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw allu i ymyrryd a chyfeirio'r awdurdod hwnnw i'r cyfeiriad cywir. Oherwydd hyn, pa obeithion sydd gan Lywodraeth Cymru o gyflawni 'Cymraeg 2050' os ystyrir y cynlluniau hyn, weithiau, yn ymarfer ticio bocsys gan awdurdodau lleol, heb unrhyw rwymedigaeth i gyflawni arnynt?
Rwy'n gwerthfawrogi, Gweinidog, eich bod yn bwriadu cyflwyno Deddf Iaith Gymraeg a'ch bod yn cael trafodaethau gweithredol gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, ond nid yw'r berthynas bresennol rhwng Llywodraeth Cymru, ei pholisïau na'i hawdurdodau lleol yn cynhyrchu'r canlyniadau rydyn ni i gyd eisiau eu gweld. Tra bod awdurdodau lleol yn cynnig Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, does dim modd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod taith y cynllun hwnnw'n cael ei chwblhau.
Wrth bennu targedau fel 'Cymraeg 2050' a pholisïau fel y Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, dysgu yn y blynyddoedd cynnar a sefydliadau'r trydydd sector i gyd yn ffitio ar lwybr cyfan o gefnogaeth ac ymgynghori. Yn rhannol, mae hyn eisoes yn cael ei wneud rhywfaint. Mae'r Coleg Cymraeg eisoes yn gweithio ar sicrhau bod darpariaeth addysg bellach ac addysg uwch yn cael ei darparu drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn sectorau penodol a sectorau sydd wedi eu targedu. Ond nid yw hyn yn cael ei nodi mewn Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg awdurdodau lleol oherwydd bod y Coleg Cymraeg ond yn goruchwylio'r ddarpariaeth ôl-16 gyfan. O ganlyniad i hyn, a fydd y Gweinidog yn ailasesu fframwaith y cynlluniau hyn i sicrhau ei fod yn crisialu holl ddarpariaeth Gymraeg gyfan y 22 o awdurdodau lleol, gan gynnwys pob sector o addysg?
Weinidog, mae'n ymddangos fy mod yn ailadrodd hyn ymhob datganiad ynghylch y Gymraeg. Rwy'n rhannu eich uchelgais ar gyfer ein hiaith. Rwyf am ei gweld yn ffynnu ymhob lleoliad ledled Cymru, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar hyd y stryd fawr, neu wrth ddesg y swyddfa. Ond, i wneud hyn, mae'n rhaid inni ddod â phawb ar y daith gyffredin hon, a gallwn wneud hynny drwy ddatblygu polisïau sy'n gweld bod pob lefel o lywodraeth, y trydydd sector ac addysg yn gweithio fel un. Mae angen inni sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hyn. Diolch.
Wel, rwy'n cytuno bod yr Aelod yn ailadrodd hyn. Mae e jest yn naratif diog ac ystrydebol, a does dim unrhyw dystiolaeth yn cefnogi'r hyn mae e wedi ei ddweud heddiw o ran perfformiad awdurdodau lleol. Mae gennym ni gynlluniau strategol newydd ers mis Medi yn unig, a does dim unrhyw frawddeg o dystiolaeth bod awdurdodau lleol yn syrthio tu ôl o ran eu dyletswyddau. Mae fy mhrofiad i o drafod hyn gydag arweinwyr yn un calonogol mor belled. Dwi wedi dweud sawl gwaith, mewn ateb i'r hyn mae'r Aelod wedi ei ddweud yn y gorffennol, fy mod i'n mynnu bod cynghorau yn ateb yr hyn maen nhw'n addo ei wneud yn y cynlluniau, a byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond rwyf hefyd wedi dweud, yn y sgyrsiau rwyf wedi eu cael gyda'r cynghorau, un-wrth-un gydag arweinwyr, fod ymrwymiad arweinwyr yn glir i'r cynlluniau, ac felly mae hynny i'w groesawu ac mae'n rhywbeth calonogol.
O ran craffu, mae'r Aelod jest yn anghywir yn hyn o beth. Mae gennym ni system graffu ar gyfer cynlluniau strategol. Gwnes i ddweud yn fy natganiad bod cynlluniau pum mlynedd eisoes wedi'u cyhoeddi sy'n dangos y cynnydd maen nhw'n bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf. Bydd monitro blynyddol yn digwydd. Mae fframwaith monitro wedi'i ddatblygu sy'n adeiladu ar y fframwaith asesu. Mae gyda ni reoliadau yn 2019 sydd yn ei wneud e'n ofynnol i awdurdodau adrodd ar eu cynnydd yn flynyddol. Bydd y dogfennau hynny yn rai cyhoeddus. Gwnes i ddweud yn fy natganiad fy mod i'n bwriadu cyhoeddi trosolwg o'r cynnydd yn erbyn y cynlluniau. Felly, mae'r naratif hon—does dim unrhyw sail iddi. Mae gennym ni gynllun, mae gennym ni strategaeth, mae gennym ni gynlluniau gweithredu. Rŷn ni'n gweithio drwyddyn nhw. Mae gofynion ar yr awdurdodau lleol. Ein swyddogaeth ni fel Llywodraeth yw sicrhau eu bod nhw'n cadw’r hyn maen nhw'n addo ei wneud mewn golwg ac yn delifro ar hynny. Ac os ydy'r Aelod moyn edrych gyda ni ar ffyrdd o gryfhau pwerau Llywodraeth Cymru i wneud hynny drwy ddeddfwriaeth, byddwn i'n croesawu ei gefnogaeth e i'r Bil.
Diolch, Weinidog, am y diweddariad heddiw, ac am gael gweld y datganiad ymlaen llaw. Dwi'n croesawu'n benodol fod y Gweinidog yn nodi ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Mae hon yn egwyddor bwysig, ac yn mynd â ni'n bellach na'r ymrwymiad sydd yn strategaeth 'Cymraeg 2050', sy'n dweud mai nod y Llywodraeth yw sicrhau bod o leiaf 70 y cant o'r holl ddysgwyr yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a'u bod yn gallu defnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd o'u bywydau erbyn iddynt adael yr ysgol. Dwi'n sicr yn croesawu'r newid hwn ac o'r farn os ydym ni o ddifrif o ran sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, yna mae'n rhaid i bob dysgwr gael cefnogaeth i ddysgu'r iaith ym mhob ysgol yng Nghymru.
Mae hwn yn newid arwyddocaol, a'r hyn yr hoffwn ofyn, Weinidog, ydy: sut mae'r egwyddor hon yn cael ei chefnogi gan y CSCAau? Wedi'r cyfan, dengys tystiolaeth o Wlad y Basg mai trochi, a derbyn addysg drwy gyfrwng Basgeg, heb os yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn siaradwyr Basgeg hyderus. Os nad ydych yn cefnogi'r egwyddor hon, pa fethodoleg fyddech chi'n ei hargymell ar gyfer sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn datblygu sgiliau dwyieithog hyderus?
Rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad at y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi addysg drochi, a heb os, mae hyn i'w groesawu. Rydyn ni i gyd wedi gweld pethau anhygoel ar y newyddion o bobl yn dod yn hollol, hollol rugl mewn dim o beth. Ond mewn nifer helaeth o achosion, os nad ym mhob achos, bwriad addysg drochi yw cefnogi dysgwyr sydd eisiau mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, a prin yw'r cyfleon i ddysgwyr mewn ysgolion eraill fanteisio ar gynlluniau o'r fath. Gwyddom fod trochi'n gweithio—rydyn ni wedi gweld hynny. Rydych chi a mi wedi cyfarfod pobl sydd wedi bod drwy'r system. Felly, gyda'r ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn mynd i gael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ehangu cyfleon trochi a chynyddu'r defnydd o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol? Onid dyma'r unig ffordd i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod?
Yn amlwg, un peth sy’n rhwystr o ran hyn oll ydy'r gweithlu—rydych chi'n cyfeirio at hynny yn y datganiad—ac yn benodol nad oes gennym ddigon o athrawon gyda'r Gymraeg i ddiwallu anghenion y CSCAau fel y maen nhw. Gyda nifer o athrawon ar streic yfory, a nifer yn dweud wrthym eu bod yn gadael y proffesiwn neu'n ystyried gwneud, pa mor bryderus ydych chi nad oes gennym y gweithlu yn ei le o ran cyrraedd y nodau presennol, yn benodol o ran dysgu Cymraeg, dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd o ran anghenion dysgu ychwanegol?
Dwi'n croesawu'r cyfeiriad at y cytundeb cydweithio yn eich datganiad hefyd, ac yn benodol o ran y gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr 16 i 25 oed, a hefyd yn y gweithlu addysg. Gaf i ofyn faint o bobl sydd wedi manteisio ar y gwersi hyn ers i'r cynlluniau gael eu lansio? Ydych chi'n gweld bod pobl yn manteisio a bod ganddynt yr amser i wneud hynny?
Yn olaf, fel y soniwyd, un o'r heriau sydd wedi bod efo'r CSCAau ydy o ran yr atebolrwydd hwnnw. Dwi'n derbyn y pwynt eich bod chi wedi cael ymrwymiad, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, gan arweinwyr ym mhob awdurdod lleol. Yn amlwg, mi fuodd yna dipyn o drafod rhyngoch chi a'r awdurdodau o ran y CSCAau, efo nifer yn gorfod ailedrych arnyn nhw. Ond o ran y cwestiwn o ran atebolrwydd, mi ydyn ni yn y gorffennol wedi gweld rhai awdurdodau lleol ddim yn cyrraedd y nodau maen nhw wedi'u gosod, a ddim wastad yn cynnig eglurhad o ran hynny. Felly, er fy mod yn croesawu bod yna ymrwymiad eu bod nhw'n mynd i wneud yn well, efallai, yn yr awdurdodau hynny, sut ydyn ni'n mynd i sicrhau yr atebolrwydd hwnnw? Ac felly pa mor bwysig fydd sicrhau bod Bil addysg y Gymraeg yn cryfhau gallu'r Llywodraeth i sicrhau bod cynlluniau addysg yn cael eu gweithredu mewn ffordd fydd yn cefnogi'r uchelgais o weld pob plentyn yn dod yn siaradwr hyderus?
Diolch i'r Aelod am y croeso mae hi'n ei roi i'r datganiad. Rwy'n cytuno â sawl pwynt mae hi wedi'u gwneud yn ei chwestiwn. O ran y buddsoddiad mewn trochi, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol yn hynny o beth. Mae gennym ni gyllideb o jest o dan £7 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd hon i fuddsoddi mewn trochi hwyr. Beth sydd yn grêt—. Gwnes i roi enghraifft yn y datganiad o ysgol newydd ym Mro Morgannwg sydd wedi sefydlu uned drochi hwyr. Mae pob awdurdod mewn man gwahanol ar hyd y llwybr o ran trochi wrth gwrs, ond mae pob un wedi dangos diddordeb mewn ehangu darpariaeth ledled Cymru, felly rwy'n credu bod hynny yn galonogol iawn. Ac mae'r gyllideb ar gael dros amryw o flynyddoedd, felly mae cyfle i ehangu hynny hyd yn oed ymhellach. Rwy'n credu gwnes i sôn, efallai wythnos diwethaf, ces i fy nghyfweld gan ddisgybl chwe blwydd oed oedd wedi bod mewn canolfan drochi ers mis Medi. Roedd hi'n dod Loegr, o dras Mecsicanaidd—o Fecsico roedd y teulu'n dod—a gwnaeth hi fy nghyfweld i yn Gymraeg. Roedd yr holl beth yn drawiadol, a dweud y gwir. Felly, mae buddsoddi mewn trochi yn bwysig iawn. Ond, fel rŷch chi'n dweud, pwrpas hynny yn y pen draw yw sicrhau mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, ar y cyfan.
Felly, y nod arall yw sicrhau bod pobl yn gallu gadael addysg o unrhyw gyfrwng yng Nghymru yn siaradwyr hyderus. Mae hwnna'n uchelgeisiol iawn, ond mae'r cysyniad hwnnw'n bwysig fel ffordd o uno'r system addysg at ei gilydd, rwy'n credu, ein bod ni ddim yn cael y gwahaniaeth hwnnw o ran medru'r Gymraeg rhwng y system cyfrwng Cymraeg a'r system Saesneg. Ac mae'r heriau, wrth gwrs, yn wahanol yn y cyd-destun hwnnw. Mae lot mwy gennym ni i'w wneud yn hyn o beth. Rydyn ni wedi cyhoeddi'r fframwaith eisoes, ond mae angen adnoddau a hyfforddiant i gyd-fynd â hynny i sicrhau'r ddarpariaeth. Ac mae'n gynllun uchelgeisiol a thymor hir. Dyw hwn ddim yn rhywbeth sy'n gallu digwydd dros nos, ond yn sicr rwy'n credu bod hwn yn un o'r canfyddiadau o ganlyniadau'r cyfrifiad, fod angen ffocysu ar ddarpariaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae gennym ni gynllun ar gyfer 23 ysgol newydd cyfrwng Cymraeg a symud 25 ar hyd y continwwm tuag at gategori 3, ond bydd gennym ni am ddegawdau niferoedd mawr iawn o ysgolion cyfrwng Saesneg, a gallwn ni ddim bod mewn sefyllfa lle mae plant yn gadael cyfrwng Saesneg a ddim yn hyderus yn y Gymraeg. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau pwyslais yn hynny o beth hefyd.
Mae hi'n iawn i ddweud bod y gweithlu'n her. Rwyf wedi bod yn glir iawn am hynny. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd, sy'n cyd-fynd â 10 mlynedd y CSCAau, ond mae angen cynnydd bob blwyddyn, nid jest cynnydd dros y tymor hir. Felly, dwi wedi bod yn dweud ein bod ni'n ymarferol iawn yn hynny o beth. Mae amryw o bethau, amryw o gamau yn y cynllun hwnnw. Y pethau sydd yn gweithio, gwnawn ni fwy ohonyn nhw; y pethau sydd ddim yn gweithio, gwnawn ni stopio eu gwneud nhw. Felly, tasg hollol ymarferol yw hwn i gynyddu'r rhifau.
Ac o ran y cwestiwn olaf, o ran atebolrwydd, mae gwendidau o ran y gallu i orfodi'r amcanion hyn, rŷn ni'n gwybod hynny, ac mae hynny'n un o'r pethau, wrth gwrs, rŷn ni'n trafod â Phlaid Cymru yng nghyd-destun y Bil addysg Gymraeg.
Diolch i'r Gweinidog.