Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Chwefror 2023.
Fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae swyddogion yn edrych ar y cynllun treialu i weld beth oedd y manteision cyn iddyn nhw roi cyngor pellach i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyfer y fersiwn nesaf. Ond, dim ond i ailadrodd ar gyfer ein holl etholwyr, mae cyngor a chymorth i berchnogion tai ar gael. Mae gennym ni linell gymorth rhaglen Nyth Cartrefi Clyd.