1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2023.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n amddiffyn trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy rhag syrthio i dlodi tanwydd y gaeaf hwn? OQ59140
Mae pecyn cymorth presennol Llywodraeth Cymru, sydd werth £380 miliwn, yn cynnwys y rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is. Mae aelwydydd incwm isel cymwys hefyd yn elwa ar ein cynllun cymorth tanwydd o £200. Mae ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yn helpu pobl i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna, a hefyd croesawu'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar hyn o bryd? Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi codi ers cryn amser bellach sgandal genedlaethol miloedd o bobl agored i niwed yn cael eu gorfodi i newid i fesuryddion rhagdalu. Mae Llywodraeth y DU, Ofgem a'r cyflenwyr ynni eu hunain wedi bod yn ciwio i ddweud eu bod nhw'n mynd i roi'r gorau i hyn, ond bu'n ddyletswydd arnyn nhw i wneud hynny erioed, ac maen nhw wedi methu yn y pen draw. Mae newid yn dal i ddigwydd heddiw. Ymhen ychydig wythnosau yn unig, mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn bwriadu tynnu'r cymorth ynni oddi wrth drigolion. Mae hwn yn berygl gwirioneddol, onid yw e, Gweinidog—y perygl y bydd pobl yn mynd i ddyled yn gyflym ac y gallai newid amhriodol pellach ddigwydd. Un o'r ffyrdd gorau o osgoi hyn, ym mhwerau Llywodraeth Cymru, yw drwy roi'r cymorth a'r cyngor gorau sydd ar gael i bobl. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal y cynllun treialu cyngor ynni yn y cartref yn ddiweddar, ac mae llawer o grwpiau sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed ac mewn perygl o dlodi tanwydd yn dweud wrthyf i ei fod wedi gweithio'n dda. A gaf i ofyn i'r Gweinidog heddiw sut y gellid cyflwyno'r cynllun treialu ymhellach i gynorthwyo trigolion Cymru?
Diolch. Mae'n hynod siomedig bod y warant pris ynni yn cynyddu, fel y gwnaethoch chi sôn, o £2,500 i aelwyd nodweddiadol i £3,000 am 12 mis arall o ddechrau mis Ebrill eleni. Rydyn ni'n gwybod yng Nghymru y byddai angen i lawer wario llawer mwy na £3,000 oherwydd oedran y stoc dai a thaliadau sefydlog eithriadol o uchel. Nid wyf i'n credu bod y cyfartaledd y mae Llywodraeth y DU yn cyfeirio ato yn adlewyrchu'r tai yma yng Nghymru mewn gwirionedd.
Cynhaliwyd y cynllun treialu y gwnaethoch chi gyfeirio ato, y cynllun treialu cyngor ynni yn y cartref, rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mawrth 2022 mewn tair ardal o Gymru—Gwynedd, Ceredigion a Chaerffili. Y pwrpas oedd profi a mesur effeithiolrwydd darparu gwasanaethau cyngor a chymorth yn y cartref i bobl ledled Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Roedd manteision i'r cynllun treialu, ond ar hyn o bryd mae swyddogion yn ystyried cydbwysedd y gost, y manteision a thargedu'r cynllun treialu cyngor. Mae hynny'n cael ei ystyried yn rhan o'r cynnig o gyngor fel rhan o'r datblygiad ar gyfer fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw'r cyngor a'r cymorth hynny y gellir ymddiried ynddyn nhw. Ar hyn o bryd mae gennym ni ymgyrch tanwydd gaeaf estynedig ar waith. Dechreuodd honno ar 1 Tachwedd trwy raglen Nyth Cartrefi Clyd. Mae honno'n targedu cynulleidfa llawer ehangach na'r cynllun treialu y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Mae'n hygyrch i bawb sydd angen cyngor a chyfarwyddyd ar effeithlonrwydd ynni. Bydd gwasanaethau cyngor cost-effeithiol hefyd yn cael eu cynnwys yn y fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd. Fel y dywedais, mae swyddogion yn edrych ar hynny, o ran pa gyngor y maen nhw'n ei ddarparu, ar gyfer y Gweinidog Newid Hinsawdd.
Er mwyn diogelu trigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, mewn mannau eraill yn y gogledd a ledled Cymru rhag mynd i dlodi tanwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynllun grant effeithlonrwydd ynni a arweinir gan alw cenedlaethol newydd, sy'n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd, yn cael ei gaffael yn rhan o'r rhaglen Cartrefi Clyd ac yn weithredol cyn y gaeaf nesaf. Pryd fydd y cynllun hwn yn weithredol, ac a fydd ar gael i aelwydydd cymwys yng Nghymru yn barod ar gyfer Hydref 2023, pan fydd y tywydd oer yn dechrau yn draddodiadol?
Fel y dywedais, ar hyn o bryd, mae swyddogion yn edrych ar y cynllun treialu i weld beth oedd y manteision cyn iddyn nhw roi cyngor pellach i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyfer y fersiwn nesaf. Ond, dim ond i ailadrodd ar gyfer ein holl etholwyr, mae cyngor a chymorth i berchnogion tai ar gael. Mae gennym ni linell gymorth rhaglen Nyth Cartrefi Clyd.