Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Chwefror 2023.
Er mwyn diogelu trigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, mewn mannau eraill yn y gogledd a ledled Cymru rhag mynd i dlodi tanwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynllun grant effeithlonrwydd ynni a arweinir gan alw cenedlaethol newydd, sy'n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd, yn cael ei gaffael yn rhan o'r rhaglen Cartrefi Clyd ac yn weithredol cyn y gaeaf nesaf. Pryd fydd y cynllun hwn yn weithredol, ac a fydd ar gael i aelwydydd cymwys yng Nghymru yn barod ar gyfer Hydref 2023, pan fydd y tywydd oer yn dechrau yn draddodiadol?