1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2023.
9. Pa effaith y mae'r fframwaith adrodd ar lwybrau gofal wedi'i chael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ59150
Mae'r cynllun treialu adrodd ar lwybrau gofal wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws yr holl fyrddau iechyd. Er nad yw'r effaith lawn yn hysbys eto, bwriedir iddo ddarparu un ffynhonnell ddata er mwyn deall yn well y rhesymau am oediadau ar y pwynt rhyddhau a helpu partneriaid i nodi atebion gyda'i gilydd.
Diolch, Gweinidog. Mae nyrsys yn y Rhondda yn cysylltu â mi bron yn ddyddiol ar ben eu tennyn. Nid yw'r galw dros fisoedd y gaeaf am ambiwlansys a damweiniau ac achosion brys wedi bod yn ddim byd tebyg i'r hyn y maen nhw wedi ei weld o'r blaen. Maen nhw'n gwybod, er mwyn cael cleifion sâl drwy'r drws, bod angen i gleifion sy'n barod i adael yr ysbyty wneud hynny cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Mae eu cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau hyn, ond, yn syml, rydyn ni angen mwy ohonyn nhw. Gan adeiladu ar yr ymrwymiad i roi'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc ac ailhyfforddi pobl hŷn i swyddi gofal cymdeithasol? A pha drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael gyda cholegau fel Coleg y Cymoedd yn fy etholaeth i ynglŷn â niferoedd cofrestru ac apêl cyrsiau gofal?
Rwy'n credu bod y cyflog byw gwirioneddol yn gam cyntaf hanfodol, mewn gwirionedd, a rhoddodd fan cychwyn pwysig iawn ar gyfer amodau gwaith gwell i'n staff gofal cymdeithasol. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych ar fwy o ffyrdd o sut y gallwn ni wella telerau ac amodau ein holl weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru ymhellach. Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid allweddol i archwilio pob llwybr i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith ac i annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i ystyried gofal cymdeithasol fel gyrfa. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn pwysig iawn o waith y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud. Mae ymgyrch Gofalwn.cymru, a arweinir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, yn darparu astudiaethau achos fideo sy'n ysbrydoli ynghylch pam y gwnaeth unigolion ymgymryd â swyddi gofal a chymorth ym maes gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, rydyn ni wedi cynnal sawl ymgyrch uchel eu proffil i hyrwyddo'r sector. Mae prentisiaeth Llywodraeth Cymru a swyddogion addysg bellach yn cael trafodaethau rheolaidd â cholegau yn ogystal â gyda'n darparwyr hyfforddiant annibynnol i wneud yn siŵr bod cyrsiau—ac mae hynny i bob sector, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys gofal cymdeithasol—yn darparu hyfforddiant effeithiol i'n dysgwyr.
Gweinidog, mae'r fframwaith Adrodd ar Lwybrau Gofal yn ychwanegiad i'w groesawu. Rydyn ni'n rhy ymwybodol o'r effaith y mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei chael ar draws y GIG. Nod y fframwaith yw hyrwyddo cydweithio agosach rhwng meysydd iechyd a gofal, a dim ond pan fyddwn ni'n gweld trefn ryddhau fwy integredig y byddwn ni'n gallu asesu ei effaith lawn. Gweinidog, a yw cyflwyno'r fframwaith wedi arwain at greu timau amlddisgyblaeth sy'n cynnwys nid yn unig staff iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd swyddogion tai a swyddogion o Ofal a Thrwsio fel y gallwn ni sicrhau bod holl anghenion y claf yn cael eu diwallu'n ddiogel wrth gael ei ryddhau?
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn: mae'n golygu gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r dull amlasiantaeth hwnnw, fel rydych chi'n dweud, felly os oes rhwystrau penodol sy'n atal rhywun rhag gadael yr ysbyty, mae'r holl bartneriaid yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. Datblygwyd y fframwaith adrodd ar lwybrau gofal ar y cyd gan grŵp arbenigol, ac roedd hwnnw'n cynnwys partneriaid o amrywiaeth o wasanaethau. Yr hyn y mae'r fframwaith hwnnw wedi ei wneud yw diwygio'r broses yn wirioneddol i wneud gwelliannau i'r system a sicrhau ei bod yn cyd-fynd â phrosesau llwybrau cleifion cyfoes fel rhyddhau i wella ac yna asesu. Nid oedden nhw wedi'u cynnwys yn y broses o oedi wrth drosglwyddo gofal yn flaenorol. Mae'r cynllun treialu bellach yn cael ei gyflwyno i gam Cymru gyfan rhwng mis Tachwedd y llynedd a mis Ionawr eleni, ac mae'r system honno a'r llwybr newydd hwnnw wir wedi cael eu profi'n llawn, ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod y camau, yn ôl yr arfer, bod gwersi i'w dysgu, ac roedden ni'n gallu nodi gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd. Maen nhw bellach yn cael eu rhoi ar waith wrth i ni baratoi i ymwreiddio'r fframwaith adrodd terfynol yn llawn.
Mae cwestiwn 10 [OQ59116] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 11 yn olaf—Rhun ap Iorwerth.