Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 14 Chwefror 2023.
Mae'r Bil drafft yn ceisio cyflwyno dau bŵer i wneud rheoliadau. Yn gyntaf, bydd yn cynnwys pŵer datgymhwyso, disapplication. Bydd hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod darpariaethau Deddf caffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amherthnasol i gaffael gwasanaethau iechyd yr NHS yng Nghymru. Yn ail, bydd yn cynnwys pŵer creu i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatblygu a gweithredu trefn gaffael newydd, wahanol ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy reoliadau yn y dyfodol, gyda chanllawiau newydd ar y trefniadau caffael yn cael eu cydgynllunio a'u rhoi ar waith gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae disgwyl i'r gyfundrefn dethol darparwyr, y provider selection regime, yn Lloegr gychwyn nes ymlaen eleni. Felly, er mwyn lleihau unrhyw wyrdroi posib yn y farchnad a sicrhau bod gwasanaethau iechyd allweddol yr NHS yng Nghymru yn parhau i gael eu darparu, mae rhywfaint o frys i gyfyngu ar y cyfnod lle bydd platfformau caffael yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n wahanol. Y cynnig, felly, yw bod y Bil yn dilyn amserlen gyflym i geisio cael Cydsyniad Brenhinol yr haf yma a rheoliadau a fydd yn dod i rym yn fuan y flwyddyn nesaf. Bydd yr amserlen yma hefyd yn ceisio sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd gorau posibl ar gyfer yr NHS yng Nghymru drwy gyd-fynd â newidiadau ehangach sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o ddiwygiadau Bil Caffael Llywodraeth y DU sy'n cael eu cynllunio at y flwyddyn nesaf.
Er bod angen cofio bydd yn rhaid i unrhyw drefn newydd ac unrhyw reoliadau a chanllawiau yn y dyfodol weithio'n debyg i'r gyfundrefn dethol darparwyr sy'n cael ei chynnig yn Lloegr, mae gan Weinidogion Cymru y cymhwysedd a'r gallu deddfwriaethol sydd ei angen i greu trefn newydd sy'n gweddu orau i anghenion penodol Cymru o ran gofal cleifion a chanlyniadau iechyd. Bydd y manylion ymarferol yn cael eu harchwilio ymhellach a'u diffinio yn ystod y cam rheoleiddio.
I gloi, bydd y Bil sy'n cael ei gynnig yn rhoi'r pwerau angenrheidiol fel bod rheoliadau yn y dyfodol yn gallu addasu ac ymateb wrth i newidiadau gael eu cyflwyno i drefniadau caffael gwasanaethau iechyd yr NHS yn Lloegr. O ganlyniad, bydd yn creu trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru i gefnogi gofal cleifion a gwell canlyniadau iechyd i bobl Cymru. Dwi'n falch o gyflwyno'r Bil yma ac yn edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau o'r Senedd heddiw, ac yn ystod, wrth gwrs, yr wythnosau nesaf, fel rhan o broses graffu'r Senedd. Diolch.