1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â chymorth Llywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ariannol ar wasanaethau bysiau rheolaidd? OQ59129
Rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â fy nghyd-Weinidogion Cabinet ar faterion cyllido. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi darparu dros £110 miliwn o gyllid i ddiogelu a thyfu gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau hefyd wedi'i ymestyn i'r flwyddyn ariannol nesaf.
Yn ddiamau, Weinidog, mae gweithio trawslywodraethol, dod o hyd i’r arian ar gyfer cymorth brys i'r sector bysiau, a'i ymestyn nawr am yr ychydig fisoedd nesaf, wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod y diwydiant bysiau yng Nghymru yn goroesi, gan gynnwys gweithredwyr annibynnol, gweithredwyr teuluol bach ac ati sy'n rhedeg eu busnesau. Ond rydym yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar eich cyllideb, ond gwyddom hefyd fod hwn yn bendant yn fater cyfiawnder hinsawdd, a hefyd yn fater cyfiawnder cymdeithasol, fel y dywedir wrthym o hyd, yn gwbl briodol. A gallwn ailadrodd hyn yn dragwyddol hyd nes y bydd pobl yn sylweddoli nad oes gan 80 y cant o'r bobl sy'n defnyddio bysiau unrhyw ddewis arall. Felly, a gaf fi annog—nid gofyn am swyno arian mohono—ond a gaf fi ei hannog o ddifrif, yn ei thrafodaethau â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chyd-Weinidogion Cabinet, i wneud popeth yn ei gallu i geisio dod o hyd i ffordd y gallwn gadw'r gwasanaethau bysiau hyn yn ein holl gymunedau—yn y Gymru wledig a'r Gymru drefol. Mae hynny'n hanfodol wrth symud ymlaen, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiad ddoe am droi cornel i ffordd wahanol o geisio annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy.
Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac yn cytuno’n llwyr â’r pwyntiau a wnaed am wasanaethau bysiau fel rhan hollbwysig o’n dull o sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, maent yn rhan bwysig o’n dyheadau amgylcheddol hefyd. Credaf fod ein cymorth i’r diwydiant bysiau drwy gydol y pandemig a bellach ar yr ochr draw i’r pandemig wedi bod yn gwbl hanfodol i gynnal y gwasanaethau sydd gennym yng Nghymru. Ond cynllun brys ydoedd ar gyfer y sector bysiau, ac ni chredaf fod y lefel hon o gymhorthdal yn gynaliadwy yn hirdymor, a dyna pam ein bod yn edrych ar adolygu’r grant cynnal gwasanaethau bysiau, er mwyn symud y diwydiant oddi wrth y fath ddibyniaeth ar gyllid brys i rywbeth sy'n llawer mwy sefydlog yn y dyfodol. A bydd fy nghyd-Aelodau’n ymwybodol o’r cynlluniau uchelgeisiol y bwriadwn eu rhoi ar waith, o ran y Bil bysiau, er mwyn rhoi mwy o reolaeth yn ôl i awdurdodau lleol, a'r gwasanaethau a ddarperir. Felly, credaf mai dyna’r ateb mwy hirdymor, ond yn y cyfamser, mae ein cymorth yn wirioneddol bwysig i’r diwydiant.
Weinidog, ar sawl achlysur, rwyf wedi codi sefyllfa trigolion ar draws fy rhanbarth sydd wedi dioddef o ganlyniad i doriadau i wasanaethau bysiau rheolaidd. Y mater diweddaraf a ddygwyd i’m sylw yw cynnig gan First Cymru i dorri gwasanaethau i Resolfen yn fy rhanbarth. Mae llawer o bobl yn Resolfen, yn enwedig yr henoed, yn ddibynnol ar wasanaeth X7, gan fod eu swyddfa bost neu fanc agosaf dros saith milltir i ffwrdd. Bydd unrhyw ostyngiad mewn gwasanaeth yn cael effaith wael ar gymuned fel Resolfen. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau 3, BES3, yn arwain at gyflymu’r toriadau i’r gwasanaethau bysiau hyn. Os bydd arian BES3 yn diflannu, bydd cwmnïau sy'n gweithredu gwasanaethau ym Mhort Talbot a Chastell-nedd yn datgofrestru'r rhan fwyaf o'u llwybrau teithio yn y fwrdeistref sirol. Weinidog, a wnewch chi ailystyried y penderfyniad i ddod â chyllid BES3 i ben ac edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi diwydiant bysiau sy’n ei chael hi’n anodd ac sydd mor hanfodol i lawer o’n hetholwyr?
Carwn gyfeirio’r Aelod at y datganiad ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a wnaed ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chymdeithas Bysiau Cymru yr wythnos diwethaf, a nododd fod estyniad cychwynnol o dri mis bellach ar waith sy’n rhoi sefydlogrwydd tymor byr i’r diwydiant, rhywbeth sydd ei angen arno wrth inni barhau i weithio gyda’r diwydiant gyda’n gilydd ar gynllunio rhwydweithiau bysiau sy’n gweddu’n well i’r patrymau teithio newydd a welsom ers y diwedd y pandemig.
Yna, cyfeiriaf yn ôl at y pwynt a wneuthum mai’r Bil bysiau yw’r cynllun mwyaf pellgyrhaeddol ar draws y DU, a'i fod yn gam cwbl hanfodol i wrthdroi’r difrod a welsom yn sgil dadreoleiddio'r diwydiant bysiau. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gan bobl wasanaeth y gallant ddibynnu arno, un sy’n hawdd ei ddefnyddio ac sy’n rhoi pobl cyn elw, a bydd hynny’n gwbl ganolog i’n gwaith wrth symud ymlaen. Ond wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth yn digwydd dros nos, felly, yn y cyfamser, rydym yn gweithio, fel y dywedaf, gyda'r diwydiant i archwilio pa welliannau cyflym y gellir eu gwneud i brofiadau teithwyr o'n bysiau, ac wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi cynllun bysiau Bws Cymru, sy’n nodi rhai o’r camau uniongyrchol hyn.
Weinidog, nid yw’r cyhoeddiad siomedig yn hwyr nos Wener fod y cynllun cyllid brys ar gyfer gweithredwyr i’w ymestyn am dri mis yn unig wedi darparu'r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant. Ochr yn ochr â chostau cynyddol—tanwydd, cynnal a chadw a chyflogau, ac ati—nid yw lefelau defnydd lle telir am docyn ond wedi dychwelyd i oddeutu 65 y cant o’r hyn oeddent cyn COVID-19 ledled Cymru. Clywais gan gwmnïau yng ngorllewin Cymru sy’n darparu’r gwasanaethau bws rheolaidd hanfodol hyn ac sy’n pryderu efallai na fyddant bellach yn gallu gweithredu gwasanaethau hanfodol sy’n caniatáu i bobl fynd i apwyntiadau ysbyty neu at eu meddyg teulu, i fynd i siopa ac i ryngweithio â’r byd ehangach, neu hyd yn oed i deithio i'r ysgol. Mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, yn niweidiol i gydlyniant cymdeithasol a’r gallu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, felly ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y gwasanaethau hyn mewn cymunedau gwledig yn arbennig. Felly, Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch diwedd cynllun BES, a pha asesiad a wnaethoch o'r effaith y bydd dod â'r cynllun i ben yn ei chael ar awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau?
Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd i drafod y mater hwn a materion eraill sy'n ymwneud â phwysau yn y system drafnidiaeth yn gyffredinol. Roeddwn yn falch fod rhai sgyrsiau wedi'u cael gyda’r comisiynydd traffig i sicrhau bod y cyfnod datgofrestru bellach wedi’i gyfyngu dros dro i 28 diwrnod. Credaf fod yr estyniad i'r cyllid, er ei fod ar gyfer y tymor byr, ochr yn ochr â'r cyfnod hwnnw o 28 diwrnod, bellach yn golygu nad oes angen i weithredwyr wneud penderfyniadau ar unwaith ar ddyfodol eu rhwydwaith. Fodd bynnag, byddwn yn cydweithio’n agos â’r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau’r rhwydwaith bysiau cryf a chynaliadwy sydd ei angen arnom yng Nghymru. Ond fel y credaf eich bod yn ei ddeall o’r cwestiwn, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n arwain ar y trafodaethau hynny, ac rwy’n ei gefnogi yn fy rôl fel Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Prynhawn da, Weinidog. Gan barhau â’r thema bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae’n teimlo i mi fel pe bai hwn yn un maes lle gall buddsoddi nawr a meddwl yn hirdymor fod o fudd i ni yng Nghymru, yn enwedig i'r rheini mewn ardaloedd gwledig. Felly, rhai bysiau yng Ngheredigion yr effeithir arnynt: gwasanaeth cylchol Tregaron, y llwybr o Benrhyn-coch i Ben-bont Rhydybeddau, a llwybrau Aberystwyth i Bontarfynach. Tri llwybr arall: mae bysus bellach yn rhedeg yn llai aml o Aberystwyth i Bonterwyd, i Benrhyn-coch ac i Lanbedr Pont Steffan drwy Dregaron. Ac mae Mid Wales Travel newydd gyhoeddi y bydd gwasanaethau ar dri llwybr o ganol tref Aberystwyth i gampws y brifysgol, i Borth ac Ynyslas, a llwybr cylchol Penparcau hefyd, yn cael eu haneru. Mae’r rhain yn effeithio'n fawr ar gymunedau yn ein hardaloedd gwledig. Mae'n apêl arall arnom i edrych ar y materion cyllidebol. O’r adolygiad ffyrdd ddoe, rwy'n gobeithio y cawn gyfle i edrych ar yr arian a arbedwyd o dorri’r gwaith o adeiladu ffyrdd i’n trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau bysiau. Gan mai chi sy'n gyfrifol am y gyllideb, tybed a allwch roi unrhyw wybodaeth i ni am gyllideb y flwyddyn nesaf o safbwynt cefnogi ac ariannu ein gwasanaethau bysiau. Diolch yn fawr iawn.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a hefyd, fel y mae Cefin Campbell wedi’i wneud, am gydnabod y rôl bwysig y mae bysiau yn ei chwarae'n gwasanaethu ein cymunedau gwledig yn arbennig. Fe ofynnaf i’r Dirprwy Weinidog roi mwy o ddiweddariadau wrth i’r trafodaethau hynny barhau oherwydd, fel y dywedaf, ef sy'n arwain ar y trafodaethau hynny, ond credaf mai un peth y byddai’n debygol o fod yn awyddus i dynnu sylw ato yw pwysigrwydd ein cynllun peilot Fflecsi. Bu'n gyfleuster hynod bwysig mewn rhai ardaloedd gwledig, gan gynnwys cynlluniau yn nyffryn Conwy ac yn sir Benfro, ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol, gan gynnwys Casnewydd a threfi llai fel Dinbych a Rhuthun. Credaf fod llawer i'w ddysgu o'r rheini, ond eto, nid yw hynny'n rhywbeth a fydd yn datblygu'n gyflym dros nos, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf fod ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae yn y tymor hwy.