1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn? OQ59132
Yn 2023-24, bydd y Cyngor yn derbyn £123.7 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol—cynnydd o 7.9 y cant. Er y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud rhai penderfyniadau anodd o hyd yn wyneb y cyfraddau chwyddiant presennol, mae hwn yn setliad gwell nag yr oedd yr awdurdodau wedi'i ddisgwyl.
Diolch am yr ymateb yna. Mae cyllidebau yn dynn ar bob awdurdod, wrth gwrs, ond weithiau mae yna bethau’n codi sy’n rhoi straen aruthrol ar gyllidebau. Mae cyngor Môn yn wynebu hynny rŵan yn sgil cyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group eu bod nhw’n ymgynghori ar gau gwaith yn Llangefni, lle mae dros 700 yn gweithio. Y flaenoriaeth, wrth gwrs, ar hyn o bryd yw gweld a oes modd newid meddwl y cwmni, ond does dim rhaid imi ddweud faint o arian y byddai ei angen ar gyngor i ymateb i golli swyddi o’r math yna ar raddfa o’r math yna, mewn ardal fel Ynys Môn. Mae nifer yr unigolion a’r teuluoedd a fydd angen cymorth yn fawr—angen cymorth ar wasanaethau tai, gwasanaethau plant, ac yn y blaen.
A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd hi’n barod i edrych ar roi cymorth ychwanegol i gyngor Môn, ar ben eu cyllid sylfaenol, er mwyn gallu ymateb i’r sefyllfa a’i galluogi nhw i roi cefnogaeth angenrheidiol i’r gweithwyr a’u teuluoedd?
Wel, gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi cyfarfod â phrif swyddog gweithredol 2 Sisters ac yn parhau â'r ddeialog i wneud popeth sy'n bosibl i gynnig cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan y datblygiadau diweddar. Ac wrth gwrs, mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi wedi bod yn siarad â'r arweinydd hefyd.
Yn amlwg, mae'n newyddion trychinebus i'r gymuned wledig, ac ni ddylem fychanu'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus wrth ymateb iddo. Rydym bellach wedi cynnull y tasglu y cyfeiriodd Gweinidog yr Economi ato'n flaenorol, i geisio cynnig ein cefnogaeth lawn i'r gweithwyr yr effeithir arnynt, ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r undeb llafur yn y ffatri. Rwy'n gwybod bod y tasglu bellach yn cyfarfod yn wythnosol i ganfod ffordd ymlaen, ac i ddeall y goblygiadau, ac i gynnig cymorth i'r gweithlu yr effeithir arno gan y cyhoeddiad yma. Felly, rwy'n credu mai'r cam rydym arno ar hyn o bryd mewn gwirionedd yw mapio beth y gallai'r effaith fod.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Luke Fletcher.