Llyfrgelloedd Cyhoeddus

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:04, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Bydd angen ichi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn yn gyntaf. 

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Fe wnaf. Diolch. Ac fe ddof at hynny yn y man. 

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 15 Chwefror 2023

4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dyfodol llyfrgelloedd cyhoeddus yn Islwyn? OQ59143

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:04, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth llyfrgell. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth llyfrgelloedd lleol drwy gronfa grant cyfalaf a thrwy fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau arloesol ar gyfer cymunedau lleol. 

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, ac rwyf am droi at fy nghwestiwn atodol. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd i Lywodraeth Cymru

'oruchwylio a hybu gwelliant y gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus a ddarperir gan yr awdurdodau lleol... a sicrhau y cyflawnir mewn modd priodol... y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau llyfrgell mewn perthynas â llyfrgelloedd' o dan y Ddeddf. Weinidog, yn Islwyn yn 2023, mae llyfrgelloedd yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth galon cymunedau Cymru. Yr wythnos hon, ddydd Llun, cynhaliodd llyfrgell Trecelyn sesiwn arloesol lle ymunodd unigolion o Memory Lane â grŵp plant bach, diolch i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, Dementia UK a Cyfeillion Dementia. Ymunodd rhyng-genedlaethau â'i gilydd mewn un gofod, lle mae cysylltiadau cymunedol yn cael eu meithrin a'u cryfhau, a thrwy ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mae llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio fel mannau croesawus, hybiau cynnes a lleoedd ar gyfer cymunedau diwylliannol. Weinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi, hybu ac annog oedolion a phlant i wneud defnydd llawn o wasanaethau llyfrgell drwy holl gymunedau Islwyn?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:05, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Roedd yn hyfryd clywed yr enghreifftiau hynny o'r ffyrdd y mae llyfrgelloedd yn Islwyn yn arloesi, ac rwy'n ymwybodol o rai enghreifftiau eraill hefyd yn lleol yn eich ardal chi, gan gynnwys grŵp gweu a sgwrsio, grŵp plant bach, clwb Lego, a Blind Date with a Book, i ddathlu Dydd San Ffolant, ac mae ganddynt hynny yn fy llyfrgell fy hun hefyd, ac roeddwn i'n meddwl bod hwnnw'n syniad arbennig o hyfryd.

Yn amlwg, mae llyfrgelloedd yn Islwyn yn chwarae rhan bwysig wrth fod yn hybiau cynnes i gymunedau hefyd, a byddant yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Dechrau Da a gydnabyddir yn genedlaethol, cynllun blynyddoedd cynnar sy'n darparu deunydd am ddim a gwybodaeth i rieni a phlant bach yn yr archwiliad iechyd naw a 18 mis. Felly, mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein bywydau ar draws y cenedlaethau i gyd. Felly, diolch i'r llyfrgelloedd yn Islwyn sy'n gwneud gwaith mor wych yno.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd i bawb ohonom genhadu ar ran llyfrgelloedd, oherwydd, os nad yw pobl wedi bod mewn llyfrgell yn ddiweddar, maent yn mynd i fynd i mewn a chael eu synnu'n fawr. Nid ydynt yn debyg o gwbl i'r hyn a gofiwn o'r dyddiau a fu, felly mae llawer yn digwydd, ac rwy'n meddwl eu bod yn hybiau gwych i'r gymuned nawr, felly rwyf am fachu ar bob cyfle a gawn i ddathlu llyfrgelloedd.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:07, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o Islwyn a'r Gweinidog ar hyn. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhoi canlyniadau cadarnhaol i bobl a chymunedau mewn amrywiaeth o ffyrdd, y tu hwnt i ddarparu mynediad at lyfrau yn unig, fel rydych chi eisoes wedi'i nodi. Maent yn cyfrannu at ffurfio cyfalaf dynol a chynnal lles meddyliol a chorfforol, cynwysoldeb cymdeithasol a chydlyniant cymunedol yn ogystal ag addysgu a darparu llyfrau i'r rhai na allant eu fforddio—sy'n arbennig o bwysig pan welwn fod 44 y cant o ddisgyblion yn anaml neu byth yn darllen llyfrau, sy'n llawer uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU. Ac eto, mae cyngor Caerffili yn torri cyllid llyfrgelloedd 20 y cant; mae Cyngor Sir Fynwy yn torri cyllid ar gyfer llyfrau llyfrgell newydd 50 y cant. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd a pha gymorth ariannol rydych chi'n ei roi i'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y llyfrgelloedd hanfodol hyn yn cael eu cadw ar agor ac y gwneir defnydd da ohonynt?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:08, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Felly, mae'r rhan fwyaf o gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu drwy'r setliad craidd i lywodraeth leol, y bydd cyd-Aelodau'n cofio iddo gael ei godi 7.9 y cant yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni fydd unrhyw awdurdod yn gweld cynnydd o lai na 6.5 y cant. Mae yna ffynonellau eraill o arian sy'n bwysig, fodd bynnag, gan gynnwys y gronfa cyfalaf trawsnewid i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, a'r cyllid rydym yn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaethau llyfrgell digidol, sydd hefyd yn fuddsoddiad pwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod ein llyfrgelloedd yn addas i'r dyfodol.

Bydd angen i unrhyw doriadau posibl yn y gyllideb i wasanaethau llyfrgell gael eu monitro gan swyddogion yn yr adran ddiwylliant ym mhortffolio Dawn Bowden er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd cyhoeddus yn diwallu gofynion statudol. Rhaid i awdurdodau lleol ddangos na fydd unrhyw leihau ar wasanaethau yn amharu ar eu gallu i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau statudol ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau rhwng swyddogion yr is-adran ddiwylliant a'r sector llyfrgelloedd i ddatblygu seithfed fframwaith safonau ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, ond yn y cyfamser, mae gwasanaethau'n parhau i weithredu o dan fframwaith 6.