Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 15 Chwefror 2023.
Rhan o ddatblygu gwledig hefyd, Weinidog, yw'r cynllun Glastir, ac yn ddiweddar fe gyfarfûm ag NFU Cymru yn fy etholaeth a dirprwy gadeirydd NFU Cymru ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Rob Blaenbwch, a oedd am imi ofyn cwestiwn i chi'n uniongyrchol am gyllid Glastir. Rydym yn gweld yr arian Glastir yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn, gyda chontractau'n cael eu hadnewyddu. Yr hyn yr hoffai fy NFU lleol ei weld yw'r contractau hynny'n cael eu cyflwyno hyd at ddechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r ffermwyr hynny o sefydlogrwydd a chyllid hirdymor. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud i sicrhau bod ein ffermwyr yn cael rhywfaint o sefydlogrwydd mewn cyfnod ansicr iawn?