Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Chwefror 2023.
Rwy'n ymwybodol iawn o beth hoffai'r NFU i mi wneud mewn perthynas â'r cynlluniau Glastir. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi y byddant yn parhau hyd at ddiwedd 2023. Yn anffodus, oherwydd yr ansicrwydd yn ein cyllidebau ac yn y ffordd rwyf newydd ei ddisgrifio yn fy ateb i Cefin Campbell, nid wyf yn gallu gwneud yr hyn y byddech yn hoffi imi ei wneud. Ac mae'n gyfnod ansicr iawn, nad yw wedi ei wneud yn llawer haws drwy adael yr Undeb Ewropeaidd a chan y sefyllfa ariannol heriol iawn rydym ynddi. Gofynnais i swyddogion roi cyngor i mi ynghylch Glastir i weld a allaf roi unrhyw sicrwydd y tu hwnt i 2023, ac fe gaf hwnnw yn ystod y misoedd nesaf.