Gofodau Gwyrdd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative 2:21, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn ystod y pandemig, dangosodd gwaith ymchwil fod pobl ag anableddau wedi treulio llai o amser nag o'r blaen hyd yn oed allan mewn mannau gwyrdd ac yn mwynhau byd natur. Er bod gwarchod rhag COVID yn ffactor allweddol, canfuwyd hefyd fod llwyth gwybodaeth wedi cael effaith niweidiol, heb sôn am ddryswch ynghylch trefniadau cymdeithasol, megis faint o bobl a gâi gyfarfod ar un adeg, ac a oedd cyswllt corfforol fel cofleidio wedi'i ganiatáu ai peidio. Arweiniodd hyn i gyd at leihad cyffredinol yn hyder rhai pobl i fynd i fannau gwyrdd. Er bod hygyrchedd corfforol yn rhwystr pwysig y mae'n rhaid inni barhau i fynd i'r afael ag ef, mae angen inni fod mor ymwybodol ag erioed y gall rhwystrau i fynediad fod yn llawer mwy cymhleth a goddrychol. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y gall ailadeiladu hyder pobl ag anableddau i ailgysylltu â byd natur a'n mannau gwyrdd? Diolch.