Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn gwneud hynny, gan wisgo'i het gynllunio, mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am Leoedd Lleol ar gyfer Natur; mae'n dangos sut mae pobl yn gwerthfawrogi'r gallu i gael mynediad at fannau gwyrdd o garreg eu drws, os mynnwch, ac yn amlwg yn rhywle fel Caerdydd, mewn prifddinas, mae'n bwysig iawn cadw'r mannau gwyrdd sydd gennym, ac edrych hefyd a oes unrhyw gyfleoedd i gael rhai newydd.