2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Canol De Cymru i gael mynediad at ofodau gwyrdd cymunedol? OQ59118
Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd uchel yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, cefnogi bioamrywiaeth a lleihau llygredd aer. Mae rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a'r grant galluogi adnoddau naturiol a lles, wedi ariannu'r gwaith o greu cannoedd o fannau lleol, ac mae cynllun gwobr y faner werdd hefyd yn hybu ansawdd.
Diolch, Weinidog. Yn sicr, rydym ni i gyd yn gwybod, fel y gwnaethoch chi eu rhestru, y manteision mawr sydd yna o ran iechyd a lles, bioamrywiaeth, ansawdd aer, ac ati. Ond eto i gyd, mae nifer o ofodau gwyrdd yn diflannu, gan gynnwys mewn ardaloedd ledled ein prifddinas, oherwydd datblygiadau amrywiol. Fel y byddwch yn ymwybodol o gwestiynau blaenorol gan Aelodau eraill, mae nifer o ymgyrchwyr eisiau gweld buddsoddiad mewn parciau newydd i gydfynd â datblygiadau o'r fath, ynghyd â gofodau cymunedol i dyfu bwyd.
Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynlluniau o'r fath yn rhan o'u cynlluniau datblygu lleol, ynghyd â'u hymrywmiad i weithredu o ran yr argyfwng hinsawdd?
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn gwneud hynny, gan wisgo'i het gynllunio, mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am Leoedd Lleol ar gyfer Natur; mae'n dangos sut mae pobl yn gwerthfawrogi'r gallu i gael mynediad at fannau gwyrdd o garreg eu drws, os mynnwch, ac yn amlwg yn rhywle fel Caerdydd, mewn prifddinas, mae'n bwysig iawn cadw'r mannau gwyrdd sydd gennym, ac edrych hefyd a oes unrhyw gyfleoedd i gael rhai newydd.
Weinidog, yn ystod y pandemig, dangosodd gwaith ymchwil fod pobl ag anableddau wedi treulio llai o amser nag o'r blaen hyd yn oed allan mewn mannau gwyrdd ac yn mwynhau byd natur. Er bod gwarchod rhag COVID yn ffactor allweddol, canfuwyd hefyd fod llwyth gwybodaeth wedi cael effaith niweidiol, heb sôn am ddryswch ynghylch trefniadau cymdeithasol, megis faint o bobl a gâi gyfarfod ar un adeg, ac a oedd cyswllt corfforol fel cofleidio wedi'i ganiatáu ai peidio. Arweiniodd hyn i gyd at leihad cyffredinol yn hyder rhai pobl i fynd i fannau gwyrdd. Er bod hygyrchedd corfforol yn rhwystr pwysig y mae'n rhaid inni barhau i fynd i'r afael ag ef, mae angen inni fod mor ymwybodol ag erioed y gall rhwystrau i fynediad fod yn llawer mwy cymhleth a goddrychol. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y gall ailadeiladu hyder pobl ag anableddau i ailgysylltu â byd natur a'n mannau gwyrdd? Diolch.
Diolch. Mae'r Aelod yn codi'r pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, fod y pandemig COVID wedi arwain at lawer o niwed ar wahân i COVID ei hun, ac yn amlwg, fel y dywedwch, efallai nad oedd rhai pobl ag anableddau wedi gallu adnabod y terfynau a'r cyfyngiadau a gafodd eu rhoi ar bobl, yn yr awyr agored hyd yn oed, gyda faint o bobl a gâi ddod at ei gilydd i fynd am dro, er enghraifft. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ymchwil penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—nid wyf yn siŵr pwy fyddai'r Gweinidog, mewn gwirionedd—ond yn sicr fe edrychaf ar hyn, ac os gwnaethpwyd dadansoddiad, fe ofynnaf i'r cyfryw Aelod ysgrifennu atoch.