Gofodau Gwyrdd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:19, 15 Chwefror 2023

Diolch, Weinidog. Yn sicr, rydym ni i gyd yn gwybod, fel y gwnaethoch chi eu rhestru, y manteision mawr sydd yna o ran iechyd a lles, bioamrywiaeth, ansawdd aer, ac ati. Ond eto i gyd, mae nifer o ofodau gwyrdd yn diflannu, gan gynnwys mewn ardaloedd ledled ein prifddinas, oherwydd datblygiadau amrywiol. Fel y byddwch yn ymwybodol o gwestiynau blaenorol gan Aelodau eraill, mae nifer o ymgyrchwyr eisiau gweld buddsoddiad mewn parciau newydd i gydfynd â datblygiadau o'r fath, ynghyd â gofodau cymunedol i dyfu bwyd.

Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynlluniau o'r fath yn rhan o'u cynlluniau datblygu lleol, ynghyd â'u hymrywmiad i weithredu o ran yr argyfwng hinsawdd?