Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 15 Chwefror 2023.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru argymell cynnydd ddeg gwaith drosodd yn y ffioedd am waredu dip defaid. Bydd hyn, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol, yn achosi rhwystrau rhag dileu'r clafr. Nawr, nodaf yn eich datganiad fis diwethaf eich bod wedi ymrwymo £4.5 miliwn o gyllid y cynllun buddsoddi gwledig i helpu i fynd i'r afael â'r clefyd, ond ni wnaethoch sôn a fyddai hyn yn gyllid blynyddol neu'n gyllid amlflwyddyn. Rwyf hefyd yn sylweddoli eich bod wedi dweud yn eich ymatebion i fy nghyd-Aelod Sam Kurtz y bydd y cynnydd yn y ffioedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ond yn effeithio ar ganran fechan o ffermydd, am mai 37 trwydded y flwyddyn yn unig a ddyrennir. Ond fel y mae NFU Cymru wedi nodi, mae'r cynigion hyn, meddant, yn ddifeddwl ac yn unllygeidiog. Maent yn gofyn am gyfiawnhad llawn gan CNC dros y cynnydd hwn. Felly, pa ddadansoddiadau eraill a welsoch a fyddai'n dangos bod hwn yn benderfyniad teg i ffermwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chostau byw?